Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion:
Nodir yr ymddiheuriadau uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn :-
· 21 Tachwedd, 2013 (Galw i mewn) · 28 Tachwedd, 2013 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd isod :-
• 21 Tachwedd, 2014 (Galw i Mewn)
• 28 Tachwedd, 2014
Cymunedau’n Gyntaf – Ynys Môn
Gofynnodd y Cynghorydd Dylan Rees a gafwyd ymateb gan Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf mewn perthynas â chyhoeddi cofnodion cyfarfodydd eu Bwrdd ar eu gwefan. Dywedodd y Swyddog Sgriwtini y byddai’n cysylltu â Chymunedau’n Gyntaf Môn Cyf yn y man ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. |
|
Bwriad i sefydlu Bwrdd Cyflawni Integredig ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Môn PDF 182 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cymuned mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cymuned ar yr uchod.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned – y credir y gellir cwrdd yn well ag anghenion iechyd a gofal pobl Ynys Môn drwy integreiddio’n well y gwasanaethau a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd a’r awdurdod lleol. Er mwyn hwyluso’r broses hon ac er mwyn sefydlu strwythur llywodraethu cadarn, bwriedir sefydlu Bwrdd Cyflawni Integredig er mwyn rhoi siâp ar y prosesau ar gyfer datblygu’r gwasanaeth a sicrwydd ansawdd; enwebu 2 aelod etholedig i wasanaethu ar y bwrdd a chytuno i’r amserlen gyda’r disgwyliad y bydd y Bwrdd yn weithredol erbyn Ebrill 2014. Dygwyd sylw yn yr adroddiad at aelodaeth arfaethedig y Bwrdd.
Nodau ac amcanion datblygu Bwrdd Cyflawni Integredig Cydweithredol ar gyfer gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymunedol ar yr Ynys yw gweithio tuag at ddarparu ‘gwasanaethau sengl’ sy’n cynnwys alinio cynlluniau, cyllidebau a threfniadau yn well.
Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei drafod gan y Pwyllgor Gwaith ar 13 Ionawr, 2014.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo mewn egwyddor y cynnig i ddatblygu Bwrdd Cyflawni Integredig ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymunedol ar Ynys Môn. |
|
Datganid o Fwriad ar Ofal Integredig i Bobl Hyn gydag Anghension Dyrys PDF 196 KB Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cymuned ar yr uchod.
Dywedodd Rheolwr yr Uned Cefnogi Busnes mai Datganiad o Fwriad Cychwynnol y 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaethau integredig ar gyfer Pobl Hŷn a chanddynt anghenion cymhleth yw hwn. Bydd atborth ar y Datganiad yn cyfrannu at Ddatganiad terfynol a Chynllun Gweithredu erbyn 31 Mawrth, 2014. Er bod angen i’r Datganiad o Fwriad, yn ôl y ddogfen Fframwaith, ganolbwyntio ar Bobl Hŷn a chanddynt Anghenion Cymhleth, ystyrir y byddai’r dull hwn yn un ffafriol ar gyfer yr holl grwpiau defnyddwyr gwasanaeth eraill yn y dyfodol. Nodwyd bod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-
• Derbyn y Datganiad o Fwriad Cychwynnol ar gyfer Gogledd Cymru – sy’n cynnwys cyfraniadau gan Gyngor Sir Ynys Môn – ar gyfer ei gyflwyno gan BIPBC a’r 6 sir i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Ionawr 2014 er mwyn cydymffurfio gyda’r gofynion statudol a amlinellir yn y ddogfen ‘Fframwaith Gwasanaethau Integredig ar gyfer Pobl Hŷn gydag Anghenion Cymhleth;
• Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Cymuned i gydweithio gyda BIPBC a’r 6 awdurdod lleol ar draws rhanbarth Gogledd Cymru ac yn lleol yma ar Ynys Môn trwy’r Bwrdd Cyflawni Iechyd a Gofal Cymdeithasol y bwriedir ei sefydlu i ddarparu trefniadau llywodraethu cadarn ac adnabod blaenoriaethau ar gyfer llunio Rhaglen Waith a fydd yn arwain ar ddatblygu gwasanaethau integredig ar gyfer pobl hŷn gydag anghenion cymhleth.
PENDERFYNWYD nodi a chymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith. |
|
Cyllideb 2014/2015 - Cynigion Drafft y Pwyllgor Gwaith PDF 4 MB Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb y Cyngor 2014/15. Dogfennau ynghlwm fel cyfeirnod :-
· Dogfen Ymgynghori Cwrdd â’r Heriau – Cyllideb 2014/2015. · Adroddiad i gyfarfod 16 Rhagfyr y Pwyllgor Gwaith – Cynigion Cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2014/2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd y Cadeirydd gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn o ran y drafodaeth ar y Gyllideb ar gyfer 2014/15 h.y. i.e. Economaidd, Priffyrdd a Gwasanaethau Cynllunio.
Rhoes wahoddiad i’r Cynghorydd R. Meirion Jones, fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, annerch y cyfarfod.
Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2014 wedi cael trafodaeth faith ar y Gyllideb ar gyfer 2014/15 ond nad oeddynt wedi cyrraedd yr Arbedion Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd. Cafwyd trafodaeth ynghylch a fedrai Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drafod y gyllideb ar gyfer Cynaliadwyedd fel rhan o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio oherwydd bod y Swyddogion priodol yn bresennol yn y cyfarfod hwn ac oherwydd nad oes llawer o amser i’r Pwyllgorau Sgriwtini gyflwyno eu sylwadau i’r Pwyllgor Gwaith. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio i ganiatáu i Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drafod yr arbedion yng Nghyllideb yr Adran Gynaliadwyedd.
Rhoes yr Aelod Portffolio (Cyllid) adroddiad byr ar gynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb y Cyngor am 2014/15. Amlinellodd y cynigion ar gyfer arbedion – cyfanswm o £7.5m – a nododd y cynnig i godi’r Dreth Gyngor gan 5%. Yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau addysg a gofal cymdeithasol yn cael eu gwarchod. Nododd y bydd canolfannau hamdden a gwasanaethau llyfrgell yn cael eu gwarchod eleni ond nad oes unrhyw sicrwydd y bydd modd gwarchod y gwasanaethau hyn yn y blynyddoedd dilynol.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i bob Aelod Portffolio a Phennaeth Gwasanaeth roi amlinelliad o’u harbedion arfaethedig i’r Pwyllgor.
Cododd Aelodau’r Pwyllgor y prif faterion isod mewn perthynas â’r arbedion arfaethedig :-
• Cynnydd mewn ffioedd parcio – mynegwyd pryderon y bydd canol y trefi’n cael eu heffeithio oherwydd y bydd pobl yn dewis peidio â siopa yn y busnesau lleol. Gallai colli incwm gael effaith andwyol ar fusnesau;
• Cynnydd mewn ffioedd a phrisiau hamdden – mynegwyd pryderon y gallai’r cynnydd yn y ffioedd ar gyfer defnyddio canolfannau hamdden a thoriadau staffio gael effaith ar y mentrau byw’n iach, h.y. ar gyfer clefyd y galon, clefyd siwgr, gordewdra ac annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon;
• Newidiadau i’r ddarpariaeth o ran toiledau cyhoeddus – mynegwyd y farn bod rhaid cael toiledau cyhoeddus o safon uchel. Nodwyd y dylid ymestyn y cynllun o dalu £500 i fusnesau lleol i ganiatáu i’r cyhoedd ddefnyddio’r toiledau sydd ganddynt yn eu hadeiladau a bod angen gwneud gwaith pellach i annog Cynghorau Tref a Chymuned neu’r gymuned leol i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am y cyfleusterau hyn.
• Toriadau o ran Cynnal a Chadw Priffyrdd - mynegwyd pryderon mawr ynghylch cyflwr lonydd bychan a phriffyrdd a fydd, fe ofnir, mewn cyflwr sobor o wael yn y dyfodol. Mae’r gyllideb Cynnal a Chadw Priffyrdd yn croestorri ac mae’n dibynnu ar y math o dywydd a geir drwy’r tymhorau, ffactor ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Diweddariad gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd ac unrhyw gyhoeddiadau Derbyn adroddiad llafar gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Nid oedd gan y Cadeirydd na’r Is-gadeirydd unrhyw ddiweddariadau neu gyhoeddiadau i adrodd arnynt. |
|
Cyflwyno y Rhaglen Waith gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – Rhaglen Waith ddrafft gan y Swyddog Sgriwtini.
Nodwyd y bydd angen cynnal cyfarfod arbennig o bosib i drafod Prosiect Gwastraff Gogledd Cymru, cyfarfod y bydd holl Aelodau’r Cyngor Sir yn cael gwahoddiad iddo.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |