Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr P S Rogers ac R G Parry OBE oherwydd bod y ddau ohonynt yn ffermio yn Ynys Môn.
Gwnaed datganiad o ddiddordeb yn y mater gan y Cynghorydd R Dew gan ei fod yn ffermio yn Ynys Môn ac yn gyn-aelod o Grŵp Ffermwyr lfanc Ynys Mon.
Gwnaed datganiad o ddiddordeb yn y mater gan y Cynghorydd A Morris Jones oherwydd ei fod yn gyn-aelod o GrŵpFfermwyr lfanc Ynys Mon. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 82 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. |
|
Mater a gyfeiriwyd at y Pwyllgor am ystyriaeth mewn perthynas â galw penderfyniad i mewn DATBLYGIADAU PARC GWYDDONIAETH
Penderfyniad gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd, 2013.
3.1 Copi o’r penderfyniad a’r Ffurflen Gais i alw’r penderfyniad i mewn.
3.2 Copi o’r adroddiad perthnasol gan y Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd, 2013. Cofnodion: Cyflwynwyd ffurflen Galw Penderfyniad i Mewn, a gwblhawyd ac a lofnodwyd gan 5 Aelod o’r Cyngor Sir, sef y Cynghorwyr P S Rogers (a oedd yn arwain ar alw’r penderfyniad i mewn), Jeff Evans, T Victor Hughes, G O Jones, Raymond Jones, D Rhys Thomas i’r Pwyllgor mewn perthynas â phenderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd 2013 ynghylch Datblygiad y Parc Gwyddoniaeth. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad ond wedi penderfynu ymhellach “y dylid parhau i gadw i
bwrpas penodol unrhyw incwm a geir er mwyn ei fuddsoddi yn y stad mân-daliadau.” Y penderfyniad penodol hwnnw a oedd wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor Sgriwtini.
Cyflwynwyd copi o’r adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith a’r papurau galw i mewn fel rhan o’r Rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn.
Fel yr Aelod a oedd yn Arwain ar alw’r penderfyniad i mewn, dywedodd y Cynghorydd P. S. Rogers mai ei reswm dros wneud hynny oedd ei fod yn ystyried ei fod yn amhriodol yn y cyfnod economaidd anodd iawn hwn i neilltuo’r arian yn unig ar gyfer gwneud buddsoddiadau pellach yn y stad mân-ddaliadau pan fo cymaint o wasanaethau hanfodol eraill y Cyngor yn wynebu toriadau llym neu gau hyd yn oed. Roedd yn ystyried y dylai’r stad mân-ddaliadau gynhyrchu ei hincwm ei hun er mwyn sicrhau parhad y stad. Gofynnodd hefyd beth oedd wedi digwydd i’r incwm o dros 6,000 o erwau o dir a osodir gan yr Awdurdod bob blwyddyn? Yn ogystal, tan yn ddiweddar roedd dros £200k y flwyddyn yn cael ei gyfrannu i goffrau’r Cyngor ac erbyn hyn nid oedd unrhyw gyfraniad.
Diolchodd y Cynghorydd Rogers i’r pum aelod a oedd wedi cefnogi ei gais i alw’r penderfyniad i mewn a soniodd bod rhai o’r aelodau newydd ar y Cyngor angen eglurhad ar gefndir y stad mân-ddaliadau a’r problemau y mae’n eu hwynebu.
Yn ei ymateb dygodd y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) sylw’r Pwyllgor at y gwahanol benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith dros y blynyddoedd mewn perthynas â llywodraethu’r stad mân-ddaliadau ac yn benodol fe gyfeiriodd at benderfyniadau a wnaed ar 7 Medi 2010 “i neilltuo’r incwm o’r rhent i’w wario yn unig ar y stad” ac ar 5 Hydref 2010 “y dylai’r gwasanaeth gynllunio ar y sail y bydd cyllid cyfalaf a refeniw yn parhau i gael ei glustnodi ond y byddai’r polisi yn cael ei adolygu o bryd i’w gilydd yn wyneb cynnydd gyda chlirio’r gwaith cynnal oedd wedi cronni a’r amgylchiadau ariannol ar y pryd.”
Yn yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd 2013 dywedwyd y byddai’n rhaid dilyn y Polisi Rheoli Asedau a’r polisïau mân-ddaliadau ar gyfer cael gwared ar dir ac eithrio lle 'roedd y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi caniatâd i beidio â dilyn y polisi arferol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth bod yr Awdurdod hanner ffordd trwy’r rhaglen waith ar hyn o bryd a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |