Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd datganiad o ddiddordeb. |
|
1.Adrodd bod y Cyngor Sir yn dilyn ystyried yr uchod wedi penderfynu fel a ganlyn :-
· ‘I gefnogi galw rhai cyfarfodydd (Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r ddau Pwyllgor Sgriwtini) am 4.00 p.m., a 4.30 p.m., a bod trefniadau’n cael eu trafod gyda’r Cadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgorau perthnasol a bod adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf a drefnwyd o’r Cyngor ar 27 Chwefror, 2014;
· Nodi canfyddiadau’r asesiad effaith cydraddoldeb cychwynnol;
· Bod trefniadau’n cael eu treialu am gyfnod o 12 mis gan ddechrau yn Ebrill 2014.’
2.Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.
3.Rhoi ystyriaeth i’r uchod.
(Pe bai unrhyw Aelodau’n methu â bod yn bresennnol, a fyddent garediced ag anfon eu dewisiadau ymlaen i Gadeirydd y Pwyllgor). Cofnodion: (1) Adroddwyd bod y Cyngor Sir yn dilyn ystyried yr uchod wedi penderfynu fel a ganlyn :-
· ‘I gefnogi galw rhai cyfarfodydd (Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r ddau Bwyllgor Sgriwtini) am 4.00 p.m., a 4.30 p.m., a bod trefniadau’n cael eu trafod gyda’r Cadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgorau perthnasol a bod adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf a drefnwyd o’r Cyngor ar 27 Chwefror, 2014; · Nodi canfyddiadau’r asesiad effaith cydraddodeb cychwynnol; · Bod trefniadau’n cael eu treialu am gyfnod o 12 mis gan ddechrau yn Ebrill 2014.’
(2) Cyflwynwyd a nodwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.
PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn parhau i ddechrau am 2.00 p.m. |