Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 12fed Mawrth, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. T. Hughes ddiddordeb yng nghyswllt Eitem 6 oherwydd ei fod yn byw ger yr A5025.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 68 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Ionawr, 2015.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2015.

4.

Bil Lleisiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Blaenoriaethau Allweddol Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd a Môn pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Uwch Reolydd Partneriaeth (Gwynedd ac Ynys Môn) mewn perthynas â’r uchod.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau gyflwyniad i’r Pwyllgor ar oblygiadau Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol a’r blaenoriaethau allweddol sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Dywedodd mai amcan allweddol y Mesur oedd i gyrff cyhoeddus wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru a hynny’n unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.

 

Roedd y Mesur yn nodi ‘6 o dargedau lles’:-

 

Cymru ffyniannus (yr economi)

Cymru wydn (yr amgylchedd)

Cymru iachach

Cymru fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynol

Cymru gyda diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu.

 

Byddai disgwyl i bob corff cyhoeddus osod a chyhoeddi amcanion lles gyda’r nod o sicrhau cyfraniad tuag at wireddu’r targedau hyn a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar gyflawniadau.

 

Dywedodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau y byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn dod yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus statudol gyda thair lefel i’w aelodaeth h.y. Aelodau Statudol, Cyfranogwyr wedi’u Gwahodd a Phartneriaid Eraill. Ni fyddai pob un o’r partneriaid felly yn gyfartal yn y dyfodol a mater i’r Aelodau Statudol fyddai cyfrifoldebau statudol y mesur.

 

Byddai cyfrifoldeb hefyd i baratoi Cynllun Llesiant, i ddisodli’r Cynllun Integredig Sengl, gyda’r amserlen yn cyd-fynd ag amserlen etholiadau llywodraeth leol.

 

Byddai disgwyl i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gael cyngor gan y

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru ac anfon copi i Weinidogion, yr Archwilydd Cyffredinol a’r Pwyllgorau Sgriwtini lleol. Rhagwelwyd y byddai proses sgriwtini’r Cynulliad Cenedlaethol oedd yn gysylltiedig â chyflwyno’r mesur yn parhau dros yr wythnosau nesaf gyda golwg ar dderbyn Caniatâd Brenhinol erbyn Ebrill 2015. Rhagwelwyd y byddai’r holl gyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i ddyletswyddau Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) o Ebrill 2016 er nad oedd manylion y cerrig milltir a oedd yn gysylltiedig â’r dyletswyddau yn y Ddeddf arfaethedig wedi eu cwblhau hyd yma.

 

Adroddodd yr Uwch Reolydd Partneriaeth ymhellach mai un o’r tasgau allweddol dros yr ychydig fisoedd diwethaf fu cefnogi’r Bwrdd i gytuno ar nifer fechan o flaenoriaethau allweddol i’w darparu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn ei gyfarfod ar 28 Tachwedd 2014 wedi cadarnhau’r blaenoriaethau allweddol oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith Anffurfiol ar 26 Ionawr 2015, ystyriwyd goblygiadau Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd yr argymhellion wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

Byddai gweithredu’r Mesur yn her ariannol i awdurdodau lleol yn ystod y dirwasgiad economaidd;

Roedd goblygiadau’r Mesur yn rhai pellgyrhaeddol ac yn cynnwys ystod eang o ddyletswyddau’r Cyngor ac roedd angen i Awdurdodau Lleol gadw i fyny â’r datblygiadau yng nghyswllt y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD :-

 

Nodi penderfyniad y Pwyllgor Gwaith Anffurfiol yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2015 i oedi gyda symud ymlaen gyda gweithredu gofynion datblygu cynaliadwy Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn dysgu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diweddariad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf eicon PDF 161 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol, Gwynedd ac Ynys Môn

mewn perthynas â’r uchod.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Darparu Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn mewn perthynas â’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Flynyddol.

 

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol bod angen i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor hwn yn flynyddol i ddarparu trosolwg o weithgareddau dros y 12 mis blaenorol. Byddai hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyfarfod â’i hymrwymiadau dan Adrannau 19 a 20 Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2006. Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a’r newidiadau dilyniadol yn Neddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, Gwasanaeth Iechyd, Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub i fynd i’r afael â’r rhaglen diogelwch cymunedol lleol.

 

Roedd y strwythur partneriaeth dwy Sir wedi bod mewn grym bellach am ddwy flynedd, ac yn eistedd o dan y ddau Fwrdd Gwasanaethau Lleol Sirol.

Pwyllgor Ymgynghorol yw’r Bwrdd Rhanbarthol Diogelwch Cymunedol bellach ac roedd wedi cytuno ar ei brif dasgau fel yr oeddent wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol bod cyfraddau’r troseddau oedd yn cael eu cofnodi yn parhau i ddisgyn. Ym Môn roedd 628 yn llai o droseddau wedi’u hadrodd (-19%) ac yng Ngwynedd 1493 yn llai (-20%).

 

Roedd y gostyngiadau penodol hyn wedi cyfrannu at y ffigyrau :-

 

97 yn llai o droseddau trais yn erbyn y person, gostyngiad o 11%

55 yn llai o achosion byrgleriaeth annomestig, gostyngiad 25%

118 yn llai o ddigwyddiadau o ddwyn a delio gyda phethau sydd wedi eu dwyn, gostyngiad 15%.

66 yn llai o ddigwyddiadau yn ymwneud â chyffuriau, gostyngiad 32%.

 

Mae Cynllun Strategol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn awr yn gynllun rhanbarthol, ac mae Cynllun Gogledd Cymru ar hyn o bryd ar ffurf drafft. Roedd ardaloedd blaenoriaeth wedi’u hamlygu yn yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Arolygwr Mark Armstrong bod y gwaith partneriaeth gyda’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi bod yn hollol hanfodol yn y gwaith o leihau trosedd yng Ngwynedd a Môn.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

Mae gwaith y Swyddogion Cefnogi Heddlu wedi ei werthfawrogi’n fawr gan y cymunedau lleol;

Nid oedd troseddau yn erbyn yr henoed wedi’u hamlygu yn yr adroddiad.

Angen mynd i’r afael â phroblem pobl ifanc yn goryrru er mwyn gostwng nifer y damweiniau difrifol a marwolaethau.

Yr effaith y bydd y bwriad i breifateiddio’r Gwasanaeth Prawf yn ei gael ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol o safbwynt y gostyngiad mewn cefnogaeth i droseddwyr pan ddônt allan o’r carchar.

 

Y cynnydd ym mhoblogaeth yr Ynys pan fydd y Wylfa newydd arfaethedig yn cael ei hadeiladu. Mynegwyd pryderon am yr hyn y byddai ei angen o ran delio gyda throseddau tebygol ar yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD :-

 

Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Os yn ymarferol, adroddiadau blynyddol yn y dyfodol i gynnwys mwy o wybodaeth ynglŷn â data dosbarthiad oed yng  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynigion ar gyfer gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau gwelliannau i’r A5025 a phriffyrdd eraill i hwyluso cynigion datblygu Pwer Niclear Horizon pdf eicon PDF 122 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Amgylcheddol a Thechnegol yng nghyswllt y broses o drafod gyda Pŵer Niwclear Horizon y gwaith gwella ac adeiladu tebygol sydd ei angen ar briffordd yr A5025 a ffyrdd eraill er mwyn hwyluso’r gwaith o adeiladu a gweithredu’r Orsaf Bŵer Niwclear Newydd yn Wylfa.

 

Dywedodd y Pennaeth Amgylcheddol a Thechnegol bod Swyddogion wedi cael trafodaethau anffurfiol gyda Pŵer Niwclear Horizon dros yr 18 mis diwethaf ar nifer o faterion yn ymwneud â’r datblygiad yn Wylfa Newydd. Roedd y trafodaethau gyda’r Swyddogion wedi nodi nifer o faterion oedd angen eu hystyried ymhellach yng nghyd-destun symud ymlaen gyda chael caniatâd ar gyfer y gwaith hwn. Roedd hynny’n cynnwys dyluniad, cynllunio, caffael, ymgynghori a phrynu tir.

 

Nodwyd y bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yn y Pwyllgor Gwaith sydd i’w gynnal ar 16 Chwefror 2015.

 

Materion a godwyd gan Aelodau :-

 

Mynegwyd pryderon nad oedd y briffordd o Gemaes i Amlwch wedi ei chynnwys ar gyfer ei gwella.

Mae’n bwysig y bydd contractwyr yn seiliedig yng Ngogledd Cymru’n cael ei defnyddio ar gyfer gwaith gwella’r priffyrdd;

Dylai diogelwch plant a rhieni sy’n cerdded i ysgolion lleol fod o’r pwysigrwydd mwyaf yn ystod y gwaith o wella’r priffyrdd.

Dylid ystyried cyfleuster Parcio a Theithio i drosglwyddo gweithwyr i mewn ac allan o Wylfa newydd yn ystod y gwaith adeiladu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r argymhellion oedd ynddo i’w trafod yn y Pwyllgor Gwaith i’w gynnal ar 16 Mawrth 2015.

 

CAMAU GWEITHREDU : Derbyn adroddiad yn y man yn rhoi diweddariad

ynglŷn â’r cynnydd yng nghyswllt y gwelliannau i’r A5025.

7.

Cyllideb Blynyddoedd Cynnar pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Addysg mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Addysg yng nghyswllt yr uchod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Dysgu Gydol Oes) - yn dilyn trafodaethau y flwyddyn ddiwethaf ar Gyllideb y Blynyddoedd Cynnar, roedd y Cyngor wedi ffurfio Grŵp Tasg a Gorffen i drafod y gyllideb mewn manylder gyda’r bwriad o gael cytundeb ar y ffordd ymlaen. Aelodau’r Grŵp oedd

Aelodau Etholedig, cynrychiolwyr Mudiad Meithrin a Chymdeithas Darparwyr Cyn-Ysgol Cymru, Prif Athrawon Ysgol Cynradd a Swyddogion yr Awdurdod. Cafwyd cytundeb yn dilyn nifer o gyfarfodydd ar lefel y gefnogaeth i’r Blynyddoedd Cynnar.

 

Mae’r Awdurdod yn darparu cyfraniad tuag at gostau rhedeg a lleoliadau unigol er mwyn sicrhau y gellir darparu’r 10 awr yr wythnos statudol o addysg i blant o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed hyd nes y byddant yn dechrau’r ysgol. Roedd yn cael ei gydnabod bod angen i’r Awdurdod newid y ffordd y mae’n cyfrannu tuag at y lleoliadau unigol gan fod yna wahaniaeth mawr o ran niferoedd. Yn hanesyddol, roedd lleoliadau llai, sef y rhai gyda hyd at 16 o blant o fewn oed statudol, yn derbyn cyllid yn seiliedig ar ddarparu dau aelod staff a chyfraniad tuag at brynu adnoddau. Roedd y rhai gyda’r niferoedd uchaf yn derbyn cyllid am aelod staff ychwanegol i bob 8 disgybl uwchben yr 16. Roedd y lleoliadau hyn hefyd yn derbyn cyfraniad uwch ar gyfer adnoddau.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn dymuno diolch i’r Grŵp Tasg a Gorffen am ei waith gyda’r mater hwn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

CAMAU GWEITHREDU : Y bydd y Pwyllgor Gwaith yn trafod yr eitem yn y dyfodol.

8.

Diweddariad gan y Cadeirydd neu Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a’r Cynghorydd Carwyn Jones wedi mynychu’r cyfarfod o’r Bwrdd Ynys Fenter yn ddiweddar a nododd y bydd adroddiadau’n cael eu cyflwyno i’r ddau Bwyllgor Sgriwtini ar y cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a gafwyd ar gyfer datblygu a chynnal prosiectau ym Môn.

9.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhaglen Waith ddrafft.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini ei fod wedi derbyn cais can y Cynghorydd Carwyn Jones i wahodd cynrychiolwyr o blith y datblygwyr ynni mawr sy’n bwriadu datblygu ar yr Ynys :-

 

Adeilad Niwclear newydd Pŵer Niwclear Horizon yn Wylfa

Uwchraddio rhwydwaith trawsgludo trydan y Grid Cenedlaethol

Datblygiad hamdden a thai Land & Lakes yng Nghaergybi.

Gwaith biomas Lateral Power yng Nghaergybi

Digomisiynu Gorsaf Pŵer Niwclear Wylfa (Magnox)

Arae Lanwol Marine Current Turbines oddi ar arfordir Gogledd Orllewin Môn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith ddrafft a gwahodd Prif Weithredwr Land & Lakes (Ynys Môn) Cyf i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn i drafod y rhagolygon cyflogaeth fydd yn codi a’i weledigaeth economaidd ar gyfer y prosiect.