Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Nododd Mr. Gerallt Ll. Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, y byddai ef yn cyflwyno eitem 5 i’r cyfarfod a’i fod yn aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Mawrth, 2015. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2015.
|
|
Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd PDF 13 KB I ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: Roedd aelod o’r Pwyllgor yn ystyried y dylid trafod eitem 5 – Llys Llewelyn, Aberffraw yn gyhoeddus er mwyn cael trafodaeth agored ar y mater.
|
|
Llys Llewelyn, Aberffraw Derbyn adroddiad llafar gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Môn a Swyddogion y Cyngor Sir. Cofnodion: Adroddodd y Swyddog Sgriwtini fod y Cynghorydd Ann Griffith wedi gofyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio drafod y materion sy’n ymwneud â gwerthu Llys Llewelyn, Aberffraw a phryderon y trigolion lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod hi, fel yr aelod lleol ar gyfer Bro Aberffraw, wedi derbyn nifer o bryderon gan y trigolion lleol ynglŷn â gwerthu Llys Llewelyn ac am ddyfodol y safle. Nododd ymhellach fod Cyngor Cymuned Aberffraw wedi trafod y mater a bod y Cyngor yn bryderus am ddyfodol Llys Llewelyn gan ei fod yn ased gwerthfawr i bentref Aberffraw.
Rhoddodd Mr. Gerallt Ll. Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, adroddiad cefndir i’r Pwyllgor ynglŷn â phryd fyddai’r Cyngor Sir yn cysylltu â Menter Môn i weld a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn bod yn gyfrifol am redeg Llys Llewelyn. Roedd Menter Môn wedi cymryd les o 25 mlynedd yn ôl yn 2004. Roedd yr unedau crefft wedi cael eu haddasu yn llety gwyliau ynghyd â golchdy masnachol. Roeddent wedi cael grant Amcan 1 i ailfodelu Llys Llewelyn. Roedd Agored Cyf., sy’n sefydliad sy’n datblygu cyfleoedd cyflogaeth posib i bobl anabl a phobl dan anfantais, yn rhedeg y caffi ar y safle. Pwysleisiodd Mr. Jones y byddai Agored Cyf. yn parhau i redeg y caffi yn Llys Llewelyn gan fod ganddynt les ar y cyfleuster.
Nododd bod y safle yn dal i beri pryder ond bod angen buddsoddiad newydd i gwrdd â chyfleoedd economaidd newydd a bod y cyfleuster bellach ar werth. Nododd Mr. Jones ymhellach ei fod yn ystyried bod gan Aberffraw botensial gwych i ddenu mwy o dwristiaid i’r ardal gan fod pentrefi gerllaw yn denu twristiaid sydd â diddordeb mawr mewn chwaraeon dŵr a gweithgareddau eraill.
Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau gwestiynu Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn. Cododd yr Aelodau y materion a ganlyn:-
· Sicrwydd y byddai’r caffi ar safle Llys Llewelyn yn parhau ac na fyddai unrhyw un yn cael ei ddiswyddo ar ôl gwerthu’r safle. · Yr angen i Llys Llewelyn fod yn ganolbwynt yn y pentref i ddenu twristiaid ac fel budd cymunedol i Aberffraw.
PENDERFYNWYD diolch i Reolwr Gyfarwyddwr Menter Môn am ddod i’r cyfarfod a gobeithiwyd y byddai Llys Llewelyn, Aberffraw yn cael ei werthu i rywun a fyddai’n rheoli’r cyfleuster mewn modd tebyg i’r defnydd presennol.
|
|
Diweddariad gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd bod y Swyddog Sgriwtini wedi cysylltu â chynrychiolwyr o Land & Lakes i weld a fyddant yn fodlon mynychu cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol i drafod y prosiect maent yn bwriadu ei ddatblygu yng Nghaergybi. Roedd y cwmni wedi cadarnhau y byddant yn fodlon mynychu cyfarfod ond roeddent wedi gofyn yn gwrtais a fyddai modd iddynt dderbyn gwahoddiad arall yn hwyrach ymlaen eleni gan eu bod ar hyn o bryd yn delio â materion cynllunio oedd yn parhau. Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r Aelodau bod camau’n cael eu cymryd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Cynaliadwy i drefnu cyfarfodydd briffio ar brosiectau datblygiadau economaidd sylweddol ar yr Ynys, er mwyn rhoi gwybodaeth gefndir i’r Aelodau cyn i unrhyw gwmni/ sefydliad fynychu’r Pwyllgor.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – y Rhaglen Waith ddrafft ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf o’r Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith ddrafft.
GWEITHREDU: Bod yr Aelodau yn cysylltu â’r Swyddog Sgriwtini gydag unrhyw eitemau y maent yn dymuno i’r Pwyllgor eu trafod.
|