Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 12fed Ebrill, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 89 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Chwefror, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, 2016 yn gywir.

4.

Dogfen Partneriaeth Polisi a Rôl Sgriwtini yn Monitro'r Partneriaethau pdf eicon PDF 659 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Sgriwtini a’r Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Rheolwr Busnes y Pwyllgor Gwaith, Trawsnewid Perfformiad, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol) fod yr adroddiad hwn yn nodi pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gan ei fod yn rhan annatod o arferion gweithio Awdurdodau Lleol; mae'n rhoi gwasanaethau gwell i gymunedau lleol. Nododd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth 2016 wedi cymeradwyo’r Ddogfen Bolisi fel sylfaen gadarn ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod gwaith wedi cael ei wneud yn ddiweddar i lunio rhestr o bartneriaethau rhwng y Cyngor a sefydliadau eraill yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol. Hyd yma mae dros 200 o bartneriaethau posib wedi cael eu nodi. Bydd gwaith yn awr yn cael ei wneud i egluro rôl a gwerth ychwanegol y partneriaethau posib a nodwyd.

 

Rhoddodd y Swyddog Sgriwtini a’r Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyflwyniad byr i'r Pwyllgor ar y Polisi Partneriaeth a rôl y Pwyllgor Sgriwtini yn monitro’r Partneriaethau. Dywedodd y Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y Polisi Partneriaeth yn crynhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac yn ychwanegu at y datganiadau partneriaeth unigol sydd eisoes yn bodoli, er enghraifft Compact Ynys Môn (cytundeb partneriaeth gyda'r Sector Gwirfoddol) a’r Siarter Cymunedol ar y Cyd gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar yr Ynys. Mae'r Polisi (ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad) yn canolbwyntio ar bartneriaethau lle mae'r Cyngor yn dewis gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector preifat, cyhoeddus neu wirfoddol. Dywedodd hefyd fod gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu rôl i adolygu trefniadau rheoli risg yr Awdurdod. Bydd y Pwyllgor hwnnw’n canolbwyntio ar gael sicrwydd bod partneriaethau allweddol yn rheoli risg yn ddigonol ond nid yw ei rôl yn cynnwys adolygu cyfraniad a chanlyniadau partneriaethau, am fod hynny’n rhan o gylch gwaith Aelodau Sgriwtini.

 

Cyfeiriodd y swyddog ymhellach at y rhesymau pam fod gweithio mewn partneriaeth o fudd i'r Cyngor a chymunedau Ynys Môn a hefyd at y meini prawf y mae’r Cyngor yn eu defnyddio i ddewis partneriaethau ac a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

Adroddodd y Swyddog Sgriwtini fod gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio rôl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod lefel briodol o ymgysylltu democrataidd gyda phartneriaethau ac i sicrhau bod y gwaith a’r perfformiad yn gyson â blaenoriaethau allweddol y Cyngor ac anghenion y cymunedau lleol ac yn ymateb iddynt. Wrth gyflawni ei rôl mae gan y Pwyllgor Sgriwtini nifer o feysydd posib y gallai eu hystyried, gan gynnwys:-

 

·           Sgriwtinieiddio trefniadau llywodraethu;

·           Sgriwtineiddio cyfraniad y Cyngor;

·           Gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y bartneriaeth;

·           Sicrhau ymgysylltu â'r cyhoedd a strategaethau a phartneriaethau sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn:-

 

·         Holwyd ynghylch y perygl y byddai gwasanaethau a gynigir gan y sefydliadau partner a nodwyd yn cael eu dyblygu. Ymatebodd y Swyddogion y bydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cymunedau'n Gyntaf pdf eicon PDF 7 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanethau Tai.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf. i'r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai ar gynnydd y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn 2015/16.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn ffrwd waith allweddol sy’n cyflawni blaenoriaethau strategol y Cyngor fel y cawsant eu nodi yng Nghynllun Corfforaethol 2014/17 ac sy'n canolbwyntio ar adfywio cymunedau a datblygu'r economi, ynghyd â chynyddu opsiynau tai a lleihau tlodi. Nododd mai’r Awdurdod yw'r Corff Cyflawni Arweiniol a bod y ffynonellau cyllido yn cynnwys cyllid craidd, cyllid y Rhaglen Esgyn a chyllid Cymunedau ar gyfer Gwaith.  Sefydliad Cyflawni yw Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf.

 

Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf, fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac elusen, yn gallu sicrhau cyllid allanol i gefnogi darparu gwasanaethau Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal, sef cyllid nad yw’r Awdurdod, fel corff cyhoeddus, yn gymwys i wneud cais amdano o bosib.  Mae’r Academi Alwedigaethol Gymunedol, sy'n darparu hyfforddiant achrededig i bobl 14-62 oed, yn targedu’r rhai sydd leiaf tebygol o fynychu darpariaethau prif ffrwd mewn colegau ac yn ddiweddar mae wedi ennill y wobr am y Fenter Gymdeithasol Orau yng Ngwobrau’r Sefydliad Tai Siartredig.

 

Cyflwynwyd adroddiad manwl gan y Rheolwr Clwstwr ar gyfer Cymunedau’n Gyntaf Môn ar weithgareddau’r sefydliad. Bu cynnydd yn nifer y staff a gyflogir ar hyn o bryd gan y sefydliad ac yn yr arian a sicrhawyd ar gyfer y rhaglen.  Cyfeiriodd at yr Academi Alwedigaethol Gymunedol a atgyfnerthwyd yn ddiweddar yn sgil derbyn cyllid dan y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Roedd £90,000 wedi'i ddyfarnu dros 2 flynedd i brynu peiriant torri gwair masnachol mawr a fydd yn golygu y gall CG Môn dendro am gontractau mwy o faint a chynhyrchu ffrwd incwm gynaliadwy. Prynwyd 2 fan hefyd sy'n uwchraddio’r fflyd o gerbydau. Prynwyd cerbyd cloddio bach i’w ddefnyddio gan hyfforddeion a fydd yn cynorthwyo i arwain hyfforddiant yng Ngholeg Menai ar  sut i ddefnyddio cerbydau cloddio mawr. Ariannwyd hyn drwy Horizon.

Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn yn gweithio'n agos iawn gyda chyflogwyr i sicrhau y gellir cyfatebu’r swyddi gwag sydd ganddynt gyda’r bobl sy’n cymryd rhan yn yr Academi.  Nododd bod 102 o bobl wedi cael gwaith trwy’r Academi hyd yma.

 

Amlinellodd y Rheolwr Grant faint o arian a sicrhawyd gan Cymunedau’n Gyntaf Môn a chyfeiriodd at Atodiadau 1 a 5 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ac a oedd yn tynnu sylw at y cyllid allanol y llwyddwyd i’w sicrhau.

 

Roedd Cadeirydd Cymunedau’n Gyntaf Môn, Mr. J. Lee MBE, yn dymuno  mynegi ei werthfawrogiad o'r gwaith a wnaed gan staff CG Môn a pha mor falch ydoedd o lwyddiant y sefydliad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn: -

 

·         Llongyfarchwyd Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf. gan Aelodau'r Pwyllgor am eu gwaith a chanmolwyd y cyfleusterau a gynigir i helpu pobl mewn  ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Gofynnwyd a oes modd helpu ardaloedd eraill nad ydynt yn rhan o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Môn.  Ymatebodd y Rheolwr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd

Derbyn adroddiad llafar gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Ni chafwyd diweddariad gan y Cadeirydd/Is-gadeirydd.

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 536 KB

Cyflwyno’r Rhaglen Waith gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai, 2016.

 

Roedd rhai Aelodau o'r Pwyllgor yn anfodlon bod trefniadau wedi eu gwneud i alw cyfarfod ar ddydd Gwener, 13 Mai 2016 i drafod yr Ymgynghoriad ynghylch Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr. Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi cytuno na ddylid cynnal cyfarfodydd ar ddiwedd yr wythnos. 

 

Yn dilyn trafodaethau CYTUNWYD y gwneir pob ymdrech i aildrefnu’r cyfarfod ar gyfer dechrau'r  wythnos ganlynol, ond os nad oes modd cynnal cyfarfod bryd hynny oherwydd nad yw’r Swyddogion perthnasol ar gael, fod y cyfarfod yn dechrau am 3.30pm ar 13 Mai 2016.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Rhaglen Waith hyd at fis Mai, 2016.

 

GWEITHREDU: Y Swyddog Sgriwtini i gydgysylltu â’r Swyddogion perthnasol mewn perthynas â'r uchod.