Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Chwefror, 2018. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2018. |
|
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Y Cynllun Llesiant (Drafft) PDF 627 KB Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd y Cyngor.
Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â’r uchod.
Amlinellodd y Swyddog Sgriwtini rôl statudol y Pwyllgor Sgriwtini fel gofyniad statudol o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n datgan bod yn rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori â phwyllgorau sgriwtini awdurdodau lleol (yn ogystal ag ymgyngoreion eraill a enwir) ynghylch paratoi eu hasesiadau o Lesiant Lleol a’u Cynlluniau Llesiant lleol.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr amcanion yn y Ddeddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol, sef amcanion y mae angen iddynt hefyd fod yn gyson ag amcanion yr Awdurdod yn ei Gynllun Corfforaethol, a dywedodd bod angen sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion a dyheadau trigolion yr Ynys. Ar ôl ystyried y data a gafwyd o’r broses ymgynghori ar y Cynllun Llesiant, dywedodd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dod i’r casglaid mai’r negeseuon allweddol o’r asesiad oedd :-
· Yr angen i gynnal ysbryd cymunedol iach · Pwysigrwydd diogelu’r amgylchedd naturiol · Deallt effaith newidiadau demograffig · Diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg · Hyrwyddo’r defnydd o adnoddau naturiol i wella iechyd a llesiant yn y tymor hir · Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i alluogi mynediad i wasanaethau a chyfleusterau · Yr angen am swyddi o ansawdd da a chartrefi fforddiadwy i bobl leol · Effaith tlodi ar lesiant · Sicrhau bod gan bob plenty gyfle i lwyddo
Dywedodd hi hefyd ei bod yn bwysig bod pob sefydliad partner yn fodlon bod eu hamcanion a’u blaenoriaethau’n cael eu diwallu a bod angen i negeseuon allweddol yr asesiad fod yn ddigon eang i fynd i’r afael â materion o fewn y Cynllun Llesiant.
Sicrhaodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi chwarae rhan lawn yn y gwaith o baratoi’r Cynllun Llesiant ac mai’r her yw sicrhau bod gweithio mewn partneriaeth rhwng aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael mwy o effaith nag unrhyw sefydliad partner yn gweithio ar ei ben ei hun.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chododd y materion canlynol :-
· Gofynnwyd a oes perygl y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd yn ‘siop siarad’. Ystyriwyd y dylai’r Bwrdd fod yn rhagweithiol ac y dylai allu dangos bod y sefydliadau partner yn gweithio gyda’i gilydd i gwrdd ag amcanion y Cynllun. Cyfeiriodd yr aelodau at y broses ymgynghori ar y Cynllun Llesiant a nododd mai dim ond 250 o ymatebion a dderbyniwyd. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r Cynllun ymysg preswylwyr y ddau awdurdod. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor y cynhaliwyd nifer o weithdai ymgynghori statudol ar y Cynllun Llesiant Drafft ac yr ymgynghorwyd â grwpiau cymunedol ar draws yr Ynys. Nododd fod Is-grŵp wedi’i sefydlu a gadeirir gan Brif Swyddog Medrwn Môn (aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) i werthuso sut mae’r Bwrdd yn cyfathrebu â thrigolion ac yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd. ‘Roedd y Pwyllgor hefyd o’r farn y byddai o fudd, o bryd i’w gilydd, i Gadeirydd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Strategaeth Leol Cyfranogiad Tenantiaid 2018 PDF 436 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai.
Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Strategaeth Dai Comisiynu a Pholisi mai nod y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol yw sicrhau bod tenantiaid yn deal eu bod yn gallu gweithio gyda’r Awdurdod fel landlord i rannu gwybodaeth a syniadau ar gyfer gwella gwasanaethau tai. Fel landlord cymdeithasol, mae’n rhaid i’r Awdurdod fel â strategaeth o’r fath er mwyn cydymffurfio â Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Genedlaethol 2017 Llywodraeth Cymru.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chododd y materion canlynol :-
· Gofynnwyd sut mae’r awdurdod yn cyfathrebu â thenantiaid a sut mae’n mynd ati i geisio cael ymatebion gan denantiaid nad ydynt fel arfer yn ymateb i ymarferiad o’r fath. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth – Strategaeth Dai, Comisiynu a Pholisi fod holiadur yn cael ei anfon at denantiaid y Cyngor a bod ymgyrch trwy’r cyfryngau cymdeithasol i annog tenantiaid i rannu barn a syniadau ac i gymryd rhan er mwyn gwella’r gwasanaeth. Cyfeiriodd hefyd at ‘Ddiwrnodau Glanhau Cymunedol’ ac mai nod y rheini yw bod tenantiaid yn ymfalchȉo yn eu stadau lleol. Sefydlwyd Panel Tenantiaid a Swyddogion Môn sy’n cynnwys tenantiaid a swyddogion tai sy’n cwrdd bob chwarter i fonitro cynnydd y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai ei bod yn bywsig bod tenantiaid yr Awdurdod y gallu cymharu’r gwasanaethau a gynigir gan y gwasanaeth tai hwn gyda gwasanaethau awdurdodau eraill a Chymdeithasau Tai, a’u bod yn gallu gwneud hynny oherwydd bod un o’r aelodau yn mynychu Digwyddiadau Ffederasiwn Tenantiaid Cymru. · Gofynnwyd a yw tenantiaid mewn cymunedau llai yn gallu cyfrannu i’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid ac a oes ganddynt lais yn y broses. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai bod tenantiaid o gymunedau gwledig yn mynychu Panel Tenantiaid a Swyddogion Môn. · Cododd aelod y dylai cynrychiolydd o Gymdeithas Dai fod yn bresennol mewn perthynas â’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth – Strategaeth Dai, Comisiynu a Pholisi y gellir ymestyn gwahoddiad i gynrychiolydd i unrhyw sesiwn friffio a drefnir yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol i bwrpas ymgynghori.
GWEITHREDU : Fel y nodir uchod. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mehefin 2019.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Mehefin 2019.
GWEITHREDU : Fel y nodir uchod |