Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim wedi ei dderbyn. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar gynnydd y Bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (ADY ac Ch).
Adroddodd yr Uwch-reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (Gwynedd a Môn) fod y Gwasanaeth ADY ac Ch integredig wedi bod ar waith er mis Medi 2017. O ran cyd-destun Deddfwriaethol, bydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd a Deddfwriaeth Tribiwnlys Cymru (2018) yn dod i rym yn raddol o fis Medi 2021. Cadarnhawyd y Cod terfynol yn y Senedd y 23ain o Fawrth, 2021.
Mae tair rhan i’r adroddiad:-
Rhan 1 – Arfarniad Allanol y Gwasanaeth
Yn ystod mis Ionawr / Chwefror 2021, comisiynwyd Mrs Caroline Rees, Arolygydd Allanol Estyn, i gynnal adolygiad o Strategaeth ADY ac Ch Môn a Gwynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad dros gyfnod o bedair wythnos. Fel rhan o'r adolygiad, cyfarfu Mrs Rees â nifer o aelodau o dîm a rhanddeiliaid ysgolion a'r awdurdod lleol. Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr yn amlinellu camau gweithredu. Cafodd crynodeb o'r adroddiad ei gynnwys yn yr adroddiad i'r Pwyllgor ynghyd â meysydd pwysig ar gyfer datblygu rhagor ar y Gwasanaeth.
Rhan 2 – Cymorth yn ystod cyfnod COVID (Mawrth 2020)
Mae'r cyfnodau clo er mis Mawrth 2020 wedi creu heriau sylweddol i blant a phobl ifanc, ac i'r holl weithlu addysg. Mae'r Gwasanaeth ADY ac Ch wedi adolygu'r model cyflenwi mewn cyfnod byr iawn i ymateb i hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r ddyletswydd statudol i roi gwasanaeth yn unol â’r Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig (2002) wedi parhau, ac mae'r gwaith trosglwyddo ar gyfer y Ddeddfwriaeth newydd hefyd wedi parhau. Bu cydweithredu cyson, hefyd, rhwng y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, Gwasanaethau Plant ac Asiantaethau Iechyd i sicrhau y cydlynir â'r gwaith hwn.
Yn ystod tymor yr hydref, cynhaliodd Estyn Arolygiad Thematig o ymateb Awdurdodau Cymru i’r pandemig yng nghyd-destun Dysgwyr Bregus. Canmolwyd y Gwasanaeth ADY ac Ch am y meysydd cyflenwi a chyflwynwyd yr adroddiad i'r awdurdod lleol.
Rhan 3 – Crynhoi
Yng nghyd-destun Cynlluniau Gwella Tîm unigol dros y flwyddyn ddiwethaf, yr Adroddiad Gwerthuso Allanol ac Arolygiad Thematig Estyn, daeth i’r amlwg fod cynnydd y Gwasanaeth, gyda’r isod, yn gryfderau ac yn flaenoriaethau / meysydd datblygu allweddol:-
Cryfderau –
|
|
Adroddiad Cynnydd - Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion PDF 443 KB Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd y Swyddog Craffu ar y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.
Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn cyfeirio at bedwar cyfarfod olaf y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion ac yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Tachwedd 2020 a Mawrth 2021. Nododd fod Gwaith monitro safonau ysgolion unigol wedi hen ennill ei blwyf a’i fod yn parhau i ddatblygu. Yn dilyn trafodaeth ym mis Hydref 2019 ar y rhaglen i fonitro safonau mewn ysgolion unigol, roedd tystiolaeth gref o weithredu ar y penderfyniad i ddatblygu craffu ymhellach. Fodd bynnag, roedd canlyniad y pandemig wedi cael effaith ar y gwaith ar hyn o bryd a bwriad y Panel oedd ailedrych ar yr ymweliadau hyn pan fyddai amodau'n caniatáu. O’r herwydd, byddai angen i'r Panel addasu'r ffordd yr oedd yn gweithio a chraffu ar berfformiad ysgolion unigol. Roedd lle i'r Panel gyflawni'r gwaith hwn yn rhithwir yn y dyfodol.
Crybwyllodd y Cadeirydd fod y Panel wedi ystyried y materion a ganlyn: -
· Ymateb y Cyngor i Covid-19 (Rhan 3): Cymorth i Blant sy'n Fregus a Phrosiect Caergybi; · Darpariaeth Lles; · Adroddiad Cynnydd GwE 2020/21: Cefnogi Ysgolion yn ystod pandemig Covid-19; · Y Gymraeg; · Ysgolion Arbennig; · Camau nesaf; · Estyn: cefnogaeth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ymateb i Covid-19; · Teithiau dwy Ysgol Uwchradd ar yr Ynys; · Diweddariad ar ddatblygiadau Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant Gwynedd a Môn; · Cefnogaeth ddigidol i ysgolion a datblygiadau cyffredinol ynghylch y Gymraeg.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gwneud y prif bwyntiau a ganlyn:-
· Sut y gallai’r Panel ddatblygu fel y gellid clywed llais y plentyn / disgyblion. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Gwasanaeth Addysg yn annog disgyblion i fynegi eu barn fel rhan o weithgareddau ac addysg yr ysgol. Nododd fod y Cyngor Ysgol yn rhoi cyfle i ddisgyblion godi materion o bryder ac yn sicrhau bod syniadau / gweledigaeth bosibl y plant yn gwella’r gwaith yr oedd yr ysgolion yn canolbwyntio arno; · Gofynnwyd a oedd camau a gymerwyd gan y Panel yn ddigon cadarn ac a oedd faint o waith a wnaed yn briodol ac a oedd angen trosglwyddo materion i'r Pwyllgor Craffu. Ymatebodd y Cadeirydd gan ddweud fod y Swyddogion Addysg yn mynd i’ Panel ynghyd â chynrychiolwyr o GwE. Mynegodd ymhellach fod y cysylltiad â GwE yn fanteisiol i'r Panel er mwyn rhoi sylw i faterion a rhannu gwybodaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod trafodaethau yn y Panel yn gallu ymwneud â materion a allai fod yn broblem yn y dyfodol gyda sbectrwm addysgol; gallai cynrychiolwyr y Panel herio Swyddogion o'r Gwasanaeth Addysg a GwE. Nododd fod gwahoddiad hefyd wedi'i roi i Estyn i ddod i unrhyw gyfarfod o'r Panel. · Gofynnwyd a oedd gan y Panel dystiolaeth ei fod yn ychwanegu gwerth at y gwasanaeth Addysg. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc trwy ddweud y câi gwaith paratoi sylweddol ei wneud ar gyfer y Panel a bod cofnodion ac adroddiadau ar gael. Nododd fod y Gwasanaeth Addysg wedi elwa ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Sgriwtini.
Gofynnod y Cynghorydd T Ll Hughes MBE am i Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael gwahoddiad i ddod i’r Pwyllgor Sgriwtini hwn
PENDERFYNWYD:
· Nodi’r Rhaglen Waith ar gyfer y cyfnod o fis Mehefin 2021 i fis Tachwedd 2021. · Estyn gwahoddiad i Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini hwn yn y dyfodol. |