Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol, wedi'i ffrydio yn fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 315 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 20 Medi, 2021.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 20fed o Fedi 2021 fel cofnod cywir.

 

4.

Y Gymraeg pdf eicon PDF 1 MB

·           Strategaeth Iaith: 2021/26 – adolygiad

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas a’r uchod.

 

·           Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas a’r uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Strategaeth Iaith

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio - Iaith Gymraeg fod yr adroddiad yn ymgorffori’r Strategaeth Iaith Gymraeg 2016 - 2021 (Adroddiad Asesiad) ynghyd â Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026. Dywedodd ei bod yn bwysig nodi fod y Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 yn strategaeth hyrwyddo ddrafft a’i bod yn her paratoi dogfen o’r fath oherwydd diffyg data cyfredol ynghylch sefyllfa’r Iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Nododd ymhellach fod Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 (drafft) yn adeiladu ar sylfaen y strategaeth gyntaf ac yn mabwysiadu targed cyson a meysydd blaenoriaeth h.y. Plant, pobl ifanc a theuluoedd; y gweithle, gwasanaethau Iaith Gymraeg a’r isadeiledd; y Gymuned. Dywedodd y Deilydd Portffolio - Iaith Gymraeg fod yr ystadegau yn dangos fod y nifer o siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys wedi lleihau ond bod y ffigyrau hefyd yn dangos fod oddeutu 38,000 o drigolion yr ynys yn siaradwyr Cymraeg, ffigwr sydd wedi parhau yn sefydlog ers yr 1950au. 

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi a’r Iaith Gymraeg bod gofyn i’r Cyngor baratoi strategaeth i hyrwyddo’r Gymraeg, yn unol â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015. Paratowyd y ddogfen fel strategaeth dros dro i bontio'r cyfnod o ddiwedd 2021 hyd at gyhoeddi data'r Cyfrifiad yn llawn yn ystod 2023 a phwrpas y Strategaeth yw amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo'r iaith a hwyluso ei defnydd ehangach ar Ynys Môn. Dywedodd ymhellach, pan gyhoeddwyd y strategaeth gyntaf yn 2016, y targed oedd gwrthdroi’r lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys yn ôl Cyfrifiad 2011. Gwnaed gwaith gyda sefydliadau partner allweddol trwy Fforwm Cymraeg Ynys Môn a bydd y Fforwm yn cymryd y cyfrifoldeb o fonitro'r cynnydd o ran y cynlluniau gweithredu bob blwyddyn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau a ganlyn: -

 

·          Codwyd cwestiynau ynghylch a oes unrhyw risgiau neu bryderon penodol ynghylch cyflwr yr iaith Gymraeg yn Ynys Môn. Ymatebodd y Rheolwr Polisi ac Iaith Gymraeg fod y pandemig wedi cael effaith ar y Gymraeg oherwydd bod mewnlifiad o bobl yn dod i fyw ar yr Ynys tra nad oes data ar gael ar hyn o bryd i gadarnhau'r effaith; mae angen monitro'r sefyllfa er mwyn canfod yr effeithiau ar gymunedau lleol ac ymateb i'r heriau sy'n deillio o'r mewnlifiad o bobl sy'n dod i fyw ar yr Ynys. Dywedodd y Deilydd Portffolio ar gyfer y Gymraeg ei bod yn bwysig hyrwyddo'r Gymraeg gan fod canran o bobl wedi'u geni ar yr Ynys sy'n tueddu i siarad Saesneg yn y cartref yn hytrach na siarad Cymraeg;

·         Gwnaed sylwadau ei bod yn her craffu ar y Strategaeth a rhoi sylwadau p'un a fydd yn llwyddiannus ai peidio oherwydd y diffyg data cyfredol sydd ar gael. Ymatebodd y Deilydd Portffolio- Iaith Gymraeg ei fod o'r farn ei bod yn bosibl craffu a dod i ganfyddiad cyffredinol ynghylch y rhesymau pam mae canran y siaradwyr Cymraeg wedi lleihau ar yr Ynys. Dywedodd fod Cynllun Gweithredu wedi’i gynhyrchu gyda gofyniad i wella sefyllfa’r Gymraeg yn ysgolion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd - Adroddiad Adolygu pdf eicon PDF 918 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas a’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio - Cynllunio bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd wedi'i fabwysiadu ar 31ain o Orffennaf, 2017 yn unol â'r dyddiad gofynnol statudol ar gyfer cychwyn y broses adolygu oedd 31 Gorffennaf, 2021 a bydd y cyfnod ymgynghori yn cael ei gynnal ar yr adroddiad adolygu.

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol yn darparu strwythur polisi lleol ar gyfer defnydd tir. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol ar waith tan 2025 ond mae angen ei adolygu bob 4 blynedd. Mae'r broses ymgynghori ar y gweill ar hyn o bryd a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn ym mis Mawrth 2022.

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod yr adroddiad adolygu yn mesur perfformiad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ers ei fabwysiadu yn 2017. Mae'r adroddiad adolygu'n cynnwys 6 rhan fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad: -

 

Rhan 1 - Cyflwyniad

Rhan 2 - Gwybodaeth a materion perthnasol

Rhan 3 - Adolygiad CDLl a newidiadau posibl

Rhan 4 - Gofyniad adolygiad ar sail tystiolaeth

Rhan 5 - Cydweithio a pharatoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

Rhan 6 - Casgliadau a'r camau nesaf

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi Cynllunio ymhellach y bydd y broses ymgynghori ar yr Adroddiad Adolygu yn dod i ben ar 20fed o Ragfyr, 2021.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol: -

 

·       Codwyd cwestiynau ynghylch a oes angen mynd i'r afael ag unrhyw faterion ychwanegol fel rhan o'r broses adolygu naill ai'n genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol. Ymatebodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod pryderon ar lefel ranbarthol ynghylch y gwaith ar y Cynllun Datblygu Strategol y bydd ei angen yn ychwanegol at newidiadau posibl mewn deddfwriaeth genedlaethol na ellir eu rhagweld; bydd angen rhoi adnoddau ar waith i wneud gwaith ar y Cynllun Datblygu Strategol hy cyllid ychwanegol a staffio. Dywedodd ymhellach fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn trafod materion cartrefi gwyliau, ail gartrefi ar hyn o bryd ac y gallai gwaith pellach ddeillio o drafodaethau o'r fath;

·      Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gosod amserlen o dair blynedd a hanner i gynnal adolygiad llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol a mynegwyd pryderon bod angen newid y Cynllun Datblygu ar hyn o bryd. Codwyd cwestiynau a ellid adolygu'r polisïau yn y Cynllun fesul cam. Ymatebodd y Rheolwr Polisi Cynllunio, unwaith y bydd y Cytundeb Cyflenwi yn ei le ac wedi’i gytuno gan Lywodraeth Cymru, yr amserlen a bennwyd gan y Llywodraeth yw tair blynedd a hanner i gyflawni'r gwaith. Nododd na fydd modd adolygu polisïau yn y Cynllun fesul cam am fod y polisïau yn integreiddio â'i gilydd;

·       Codwyd cwestiynau ynghylch yr effaith y bydd y Pwyllgor Corfforaethol ar y Cyd (CJC’s) yn ei gael ar yr awdurdodau cynllunio lleol. Ymatebodd y Deilydd Portffolio - Cynllunio y bydd pwysau ychwanegol yn cael eu gosod ar awdurdodau lleol wrth gyflwyno’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 174 KB

Cyflwyno Rhaglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2021/22

·           Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.

 

7.

Eitemau er gwybodaeth pdf eicon PDF 159 KB

·           Bwrdd Gwasanaethau CyhoeddusTrefniadau Llywodraethu

 

·           Adroddiad Cynnydd Ch2: 2021/22 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr eitemau canlynol er gwybodaeth yn unig:-

 

·         Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – Trefniadau Llywodraethiant

·         Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - Adroddiad Cynnydd Chwarter 2, 2021/2022