Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydio'n fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ac unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 314 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Tachwedd, 2021.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2021 yn gywir.

 

4.

Trefniadau Diogelu Corfforaethol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â throsolwg o waith y Bwrdd Diogelu Corfforaethol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai cyfrifoldeb holl wasanaethau'r Cyngor yw Diogelu Corfforaethol.  Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r Cynllun Gweithredu Diogelu, sefydlwyd Bwrdd Diogelu Corfforaethol Gweithredol gyda phencampwyr diogelu yn dod o’r holl wasanaethau'r Cyngor.  Dywedodd hefyd mai adroddiad yw hwn i roi sicrwydd i'r Aelodau Etholedig o effeithiolrwydd trefniadau diogelu'r Cyngor. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Awdurdod wedi sefydlu Byrddau Diogelu Corfforaethol Strategol a Gweithredol sydd ag agenda cadarn ar waith sy'n cynnwys data pwysig sy'n cael ei rannu â'r Byrddau.  Roedd yn derbyn bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth helaeth a bod angen crynhoi'r wybodaeth yn yr adroddiad nesaf i'r Pwyllgor hwn.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ymhellach fod trefniadau partneriaeth a llywodraethu eraill ar waith megis Byrddau Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Plant ac Oedolion, ar gyfer ymdrin â materion diogelu arbenigol.  Mae gan y Cyngor ddyletswydd i gyfrannu at weithredu’r Byrddau hyn ar lefel ranbarthol.  Mae Bwrdd Herio (CONTEST) Rhanbarthol a'r Dirprwy Brif Weithredwr, Mr Dylan Williams yw cynrychiolydd yr Awdurdod hwn.  Partneriaeth Diogelu Cymunedol Gwynedd a Môn sy'n gyfrifol am oruchwylio rhaglenni Atal (PREVENT) o fewn gwasanaethau'r bartneriaeth.  Y Bwrdd Rhanbarthol ar gyfer Bregusrwydd a Cham-fanteisio sy’n goruchwylio materion Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac mae'r Rheolwr Gwasanaeth Diogelu ac Ansawdd yn cynrychioli'r Awdurdod hwn ar y bwrdd hwn.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau canlynol:-

 

·      Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r sefydliadau partner yn cytuno ynghylch y blaenoriaethau gyda'r trefniadau diogelu ac a ydynt yn rhannu gwybodaeth.  Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at Gam-drin Domestig a nododd fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau partner ar draws Gogledd Cymru; mae hyn yn caniatáu i wersi gael eu dysgu os bydd meysydd penodol yn gweld cynnydd yn ffigurau Cam-drin Domestig ac i fynd i'r afael â'r mater a rhoi gwasanaethau yn eu lle i ddelio â'r mater.  Gwerthusir ar sail amlasiantaethol a chynhelir trafodaethau hefyd o fewn y Bwrdd Bregusrwydd a Cham-fanteisio o ran Cam-drin Domestig.  Nododd fod gan yr Awdurdod hwn wasanaeth 'un drws ffrynt' mewn perthynas ag atgyfeiriadau cam-drin domestig sy'n ymdrin ag achosion cam-drin domestig lefel isel hyd at lefel uchel; ymdrinnir ag achosion mewn ymyriad cynnar i atal problemau posibl rhag cyrraedd lefel uchel o gam-drin a hefyd o ran rhoi plant mewn gofal os bydd y sefyllfa'n gwaethygu. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd fod gan yr Awdurdod hwn weithwyr sy'n delio'n benodol â theuluoedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd a bod perthynas waith dda hefyd gyda Gorwel sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu gymorth i bobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi ac atal digartrefedd;

·      Codwyd cwestiynau ynghylch a oes angen blaenoriaethu unrhyw wasanaeth o fewn y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwersi wedi'u dysgu o ran y pandemig a bod angen canolbwyntio a blaenoriaethu'r gwasanaethau sy'n cael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Dywedodd Deilydd y Portffolio – Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn falch bod presenoldeb yn y cyfarfod wedi gwella ers cynnal cyfarfodydd rhithwir a bod trafodaethau manwl wedi'u cynnal o fewn y Pwyllgorau. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd fod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a diwygiadau dilynol yn sgil Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth â'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Tân ac Achub, i fynd i'r afael â'r agenda diogelwch cymunedol lleol. 

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol bellach wedi bod yn eu lle ers 22 mlynedd, yn fwyaf diweddar, fel partneriaeth sirol ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn.  Nododd mai dyma’r meysydd cyfrifoldeb o hyd:-

 

  • Trosedd ac Anhrefn;
  • Camddefnyddio Sylweddau;
  • Lleihau aildroseddu;
  • Cynnal asesiad strategol i nodi blaenoriaethau (gwaith sydd bellach yn cael ei wneud yn rhanbarthol);
  • Rhoi cynlluniau ar waith i ddelio â'r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)

 

Mae gweithio rhwng partneriaid yn hanfodol i ddiogelwch cymunedol ac mae wedi galluogi'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i rannu data ac arfer da.   Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn parhau i ganolbwyntio ar Gam-drin Domestig. Cytunodd partneriaid, yn ogystal â'r cyfarfodydd rhithwir misol MARACs (Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol) y byddai cyfarfodydd rhithwir wythnosol hefyd yn cael eu cynnal, er mwyn gallu delio â'r ffactorau risg uwch yn gyflym.  Mae'r Bartneriaeth hefyd wedi cyfrannu at y Cynllun Atal sy'n gynllun i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth.  Lansiwyd Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2020 ac mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi cefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth yn Ynys Môn drwy fynychu'r cyfarfodydd rhanbarthol a diweddaru blaenoriaethau a chamau gweithredu perthnasol wrth iddynt godi.   Mae Seiberdroseddu hefyd wedi cynyddu yn sgil gweithgareddau rhithwir a darparwyd hyfforddiant gan Heddlu Gogledd Cymru gan fod twyll wedi'i nodi gan y Bartneriaeth.

 

Dywedodd Ms Daron Owens, y Swyddog Gweithredu a Phrosiectau fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi wynebu llawer o newidiadau dros y blynyddoedd a rhai o'r prif newidiadau yw colli grantiau lleol a cholli cydlynwyr lleol; fodd bynnag, mae'r Bartneriaeth yn canolbwyntio ar gynnal aelodaeth agos a phwrpasol o'r grwpiau rhanbarthol, ac y mae'n hyderus fod anghenion lleol yn rhan annatod o'r holl gynlluniau a gweithgarwch rhanbarthol.  Dywedodd hefyd fod y Bartneriaeth yn gweithio ar sail Cynllun Blynyddol a bod saith blaenoriaeth wedi'u nodi gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Nodir y rhain yn yr adroddiad.  Mae'r blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar asesiad strategol rhanbarthol, Cynllun Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Cynllun Cymunedau Diogelach rhanbarthol.  Mae'r Heddlu'n edrych ar ffigurau troseddu yn gyson, ac yn adolygu'r holl newidiadau ar sail ranbarthol a lleol.  Yna bydd ardaloedd problemus yn cael eu hadolygu gyda chynlluniau Plismona yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r materion.  Mae'r Bartneriaeth yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 619 KB

Cyflwyno y Blaen Raglen Waith.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Cadeirydd wedi cytuno y bydd y cyfarfod y bwriedir ei gynnull ar 8 Chwefror, 2022 yn cael ei ganslo oherwydd nad oes eitemau i'w trafod.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cytuno ar y fersiwn gyfredol o'r flaen raglen waith ar gyfer 2021/2022;

·      Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r flaen raglen waith