Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Craffu Partneriaethau Strategol - Menter Môn Derbyn cyflwyniad gan Menter Môn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr - Menter Môn i'r cyfarfod i gyflwyno trosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir gan Fenter Môn.
Cydymdeimlodd y Cadeirydd â staff Menter Môn sydd wedi colli aelod gwerthfawr o staff yn ddiweddar.
Dywedodd Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr - Menter Môn fod Menter Môn wedi ei sefydlu gan y Cyngor Sir yn 1995, a bod penderfyniad wedi’i wneud i sefydlu'r cwmni fel cwmni 'nid er elw' yn 1996 i ddarparu rhaglen LEADER yr UE, oedd yn ceisio datblygu atebion i’r heriau’n wynebu ardaloedd gwledig. Ymhlith y prosiectau yn y blynyddoedd cynnar roedd prosiect Gwiwerod Coch Ynys Môn, adfer Bwthyn Swtan, sefydlu Gŵyl Cefni a datblygu'r llwybr arfordirol a Lôn Las Cefni. Mae'r cwmni wedi datblygu dros y blynyddoedd, gan gyflawni prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, ond mae amrywiaeth a phwyslais y gwaith ar Ynys Môn wedi aros yn gyson. Cynlluniau fel Afon Menai, sy'n gwarchod Llygod y Dŵr, gwaith y Fenter Iaith, cynnal Castell Aberlleiniog, cefnogi Theatr Ieuenctid Môn a threfnu Gŵyl Cefni. Mae'r cwmni bellach yn cyflogi 85 o staff, sy'n gweithio ar brosiectau a chontractau yn amrywio o gymorth busnes, ynni adnewyddadwy, i gadwraeth amgylcheddol a thechnoleg SMART. At hyn, dywedodd fod y rhan fwyaf o'r gwaith a wneir yn rhanbarthol ac yn genedlaethol trwy gontractau, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei gadw o fewn y cwmni i gefnogi ei brosiectau amrywiol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Un o'r prosiectau mwyaf yw Morlais, sy'n anelu at ychwanegu gwerth at y llanw a sicrhau bod Ynys Môn yn elwa drwy greu swyddi, cefnogi cadwyni cyflenwi a chynhyrchu incwm ar gyfer prosiectau cymunedol. At hyn, dywedodd Mr Gruffydd fod Brexit yn fygythiad sylweddol i Fenter Môn gan mai'r UE oedd prif ffynhonnell cyllid y rhan fwyaf o brosiectau'r cwmni. O ganlyniad i'r ansicrwydd hwn, ehangodd y cwmni ei bortffolio, gan edrych ar feysydd newydd a datblygu gweithgareddau cynhyrchu incwm. Mae Menter Môn wedi ailedrych ar nodau'r cwmni ac wedi ystyried y prif feysydd i ddatgloi potensial pobl ac adnoddau i sicrhau dyfodol cymunedau. Y nodau yw cefnogi a meithrin pobl; cryfhau'r economi; hyrwyddo'r amgylchedd a dathlu ein diwylliant. Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd yn parhau, yn enwedig o fewn gweithgareddau cymunedol. Mae cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn parhau o bosibl tan fis Mawrth 2025 ac arian ARFOR hefyd tan fis Mawrth 2025 gydag estyniad posibl; mae'r cynlluniau hyn yn cyflogi 25 o staff.
Cyfeiriodd Mr Gruffydd at ymrwymiadau Menter Môn ar Ynys Môn a’u bod yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor 2023-2028. Mae'r rhain yn gyson ag amcanion strategol Cynllun y Cyngor, yn enwedig yr iaith Gymraeg, yr economi a newid hinsawdd fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Cyfeiriodd ymhellach fod Menter Môn yn ymgysylltu'n gyson ag amryw o grwpiau a chymunedau ar draws yr Ynys. Nid yw Menter Môn yn derbyn cyllid craidd ac felly mae'n rhaid i bob gweithgaredd, gan gynnwys ymgysylltu, fod ynghlwm â chontract neu gynllun grant. Serch hynny, mae Menter Môn yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Blynyddol Ynys Môn gan GwE : 2023/2024 Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Gwenno Jones, Mrs Sharon Vaughan a Mr Rhys Williams o GwE i'r cyfarfod.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg mai dyma Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn : 2023/2024. Dywedodd fod yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth agos ac effeithiol gyda GwE. GwE yw'r consortiwm addysg rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn i wella ysgolion, rhannu arfer da, gwybodaeth a sgiliau, cynyddu cryfderau lleol a meithrin gallu. Mae'r adroddiadau'n amlygu prif gryfderau ysgolion Ynys Môn a'r blaenoriaethau y mae angen eu datblygu ymhellach. Nododd fod gwaith da wedi cael ei wneud o fewn yr ysgolion ynglŷn â'r Cwricwlwm i Gymru. At hyn, dywedodd fod adolygiad o rolau a chyfrifoldebau ‘haen ganol’ y system addysg yng Nghymru wedi ei gynnal rhwng Gorffennaf 2023 a Rhagfyr 2023. Edrychodd yr adolygiad ar rôl y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, gyda'r nod o nodi'n glir eu rolau a'u cyfrifoldebau a'u ffrydiau cyllido. Nodwyd y bydd symud i ffwrdd o'r trefniadau presennol ar gyfer cymorth rhanbarthol i bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a fydd yn caniatáu dulliau mwy lleol. Yn sgil hyn, bydd GwE yn cael ei ddiddymu fel gwasanaeth ar 1 Ebrill, 2025. Nododd fod cydweithio rhwng awdurdodau lleol i sicrhau bod y trefniadau trosiannol ar waith i sicrhau bod ysgolion yn cael cymorth addas yn ystod y cyfnod hwn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cydweithio agos wedi bod rhwng yr Awdurdod Addysg a GwE. Mae'r Adroddiad Blynyddol gerbron y Pwyllgor hwn yn cyfeirio at y gwaith a wnaed yn 2023/2024.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol::-
· Yn sgil y Fframwaith Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd newydd, beth yw'r dulliau gorau o graffu ar addysg. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mai partneriaeth yw hon o ran y Fframwaith ac mae Uwch Swyddog o'r Awdurdod Addysg wedi bod yn hwyluso a chadeirio'r bartneriaeth ranbarthol. Nododd nad yw'r Fframwaith Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd newydd yn statudol ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae gwaith da wedi dechrau yn ysgolion yr Awdurdod. Fel rhan o ganllawiau'r Fframwaith mae’r broses graffu’n dal i allu dal yr Aelod Portffolio Addysg yn atebol am safon yr addysg a'r gwasanaethau i gefnogi ysgolion o fewn yr awdurdod. At hyn, dywedodd fod Rhaglen Waith wedi'i sefydlu i asesu’r gwaith sy'n cael ei wneud o fewn ysgolion ac yr edrychir ar adroddiadau Estyn i sicrhau bod eu hargymhellion yn cael eu gweithredu. Credai fod sawl llwybr posibl i gynnal y broses graffu a dywedodd fod llywodraethwyr ysgol hefyd yn rhan o'r broses.
|
|
Adroddiad Cynnydd Panel Sgriwtini Addysg Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg. Cofnodion: Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones mai hwn yw pedwerydd adroddiad cynnydd y Panel sy'n cynnwys y cyfnod rhwng Chwefror a Hydref, 2024. Nododd fod y Panel wedi cyfarfod bum gwaith yn ystod y cyfnod hwn ac wedi ystyried y materion canlynol: :-
· Canllawiau Gwella Ysgolion : Fframwaith ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd (Llywodraeth Cymru); · Y Gymraeg; · Mesur Effaith Arweinyddiaeth; · Arolygiadau Estyn – diweddariad Llywodraeth Cymru; · Yr Amgylchedd Digidol mewn Ysgolion; · Adroddiad Blynyddol GwE Môn : 2023/2024; · Ysgolion mewn Categori, Arolwg dilynol gan Estyn neu'n Derbyn Cymorth Ychwanegol · Rhaglen waith y Panel Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Ebrill – Hydref, 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Euryn Morris ei fod yn gwerthfawrogi bod adroddiad y Panel Sgriwtini Addysg yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn a nododd nad oedd Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol na'r Panel Sgriwtini Cyllid yn adrodd ar y gwaith a wnaed. Credai ei bod yn bwysig bod y Paneli Sgriwtini hyn yn adrodd ar eu gwaith fel bod aelodau etholedig eraill, nad ydynt ar y Panelau hyn, yn ymwybodol o'r cynnydd a wnaed.
Dywedodd y Cadeirydd fod y Panel Sgriwtini Cyllid yn adrodd i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Nododd y byddai'n codi'r mater yn y Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion yn ei gyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod diwethaf o ran gwaith y Panel Sgriwtini Addysg.
GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.
|
|
Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor : 2024/2025 Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn nodi Blaenraglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2024/2025 i'w ystyried.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar y fersiwn bresennol o'r blaenraglen waith ar gyfer 2024/2025; · Nodi'r cynnydd hyd yma wrth weithredu ar y blaenraglen waith.
|