Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 12 Rhagfyr, 2018. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2018 fel cofnod cywir.
Materion yn Codi
Adroddiad Blynyddol GwE 2017/18
Cyfeiriwyd at y ffaith bod GwE wedi gwahodd Aelodau o’r Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion i gysgodi gwaith GwE mewn ysgolion yn ystod ymweliadau penodol. Holwyd a oedd trefniant wedi’i wneud er mwyn cynnal ymweliad o’r fath. Ymatebodd y Swyddog Sgriwtini fod yr Adran Addysg mewn trafodaethau ar hyn o bryd i gadarnhau’r trefniadau ar gyfer Aelodau i gysgodi gwaith GwE mewn ysgolion ac y bydd diweddariad yn cael ei roi i’r Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion ar 15 Chwefror, 2019.
|
|
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol PDF 534 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â’r uchod.
Adroddodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn darparu canllawiau strategol i’r holl bartneriaid sydd yn cefnogi unigolion i gynnal eu hiechyd a’u llesiant o fewn cymunedau sy’n gwbl gyson â nod y Cyngor i gefnogi oedolion bregus a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel, yn iach ac yn annibynnol. Nododd fod Rhan 9 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhanbarth yng Nghymru sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i oruchwylio Partneriaethau ac Integreiddiad Gwasanaethau. Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2016. Mae’r Ddeddf yn nodi bod angen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac i sicrhau fod gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol mewn lle i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol yn y ffordd orau. Mae aelodaeth y bwrdd hefyd wedi’i phennu gan ddeddfwriaeth ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd a’r Awdurdodau Lleol yn ogystal â chynrychiolwyr y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae’r Bwrdd wedi cyfethol aelodau o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a Thai ar y Bwrdd. Rhaid i’r Bwrdd hefyd gael cynrychiolydd ar gyfer Gofalwyr a Defnyddwyr Gwasanaeth. Dywedwyd bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi’i gefnogi gan y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol a’r Tîm Cydweithio Rhanbarthol sy’n cael ei letya gan Nghyngor Sir Ddinbych.
Rhoddodd yr Arweinydd fewnwelediad i’r llwyddiannau hyd yma fel y nodwyd yn yr adroddiad, sef:-
· Strategaeth Anabledd Dysgu · Strategaeth Gofalwyr · Gwaith Integreiddio (Cyllidebau Cyfun a Gwaith y Gronfa Gofal Integredig) · Atebolrwydd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’u llwyddiannau hyd yma · Ymateb Gogledd Cymru i ‘Gymru Iachach’ · Dylanwad y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn lleol.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr arweiniad statudol mewn perthynas â gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 angen i awdurdodau lleol wneud trefniadau er mwyn hyrwyddo cydweithrediad â’r partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Mae Rhan 9 o'r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cyflawni eu swyddogaethau. O dan y Ddeddf, mae angen i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn rheoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac er mwyn sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chymorth effeithiol yn ei le er mwyn gallu bodloni anghenion eu poblogaethau perthnasol. Adroddodd bod gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cryfhau dros amser ac mae bod yn rhan o’r Bwrdd yn galluogi’r holl awdurdodau lleol i gael mynediad i gyllid grant sydd ar gae; gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu gwella darpariaethau.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y pwyntiau canlynol:-
· Codwyd cwestiynau o ran a oes yna gydweithio rhwng y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r prif wahaniaethau rhwng y Byrddau. Ymatebodd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyflwyno, Rhaglen Waith y Pwyllgor hyd at Gorffennaf, 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Gorffennaf 2019.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Gorffennaf 2019.
GWEITHRED : Fel yr uchod. |