Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Chwefror, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2019 fel cofnod cywir. |
|
Datblygiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Gymuned ar gyfer Oedolion PDF 148 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Prif Swyddog o Medrwn Môn i’r cyfarfod. Croesawodd hefyd Dr Dyfrig ap Dafydd, Meddyg Teulu o Langefni sydd hefyd yn arwain ar y prosiect clwstwr meddygon teulu ar Ynys Môn.
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro mewn perthynas â lle mae’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth i newid sut y darperir cymorth o fewn cymunedau. Bydd y meysydd gwaith hyn yn hanfodol er mwyn newid y ffordd o wneud pethau dros y blynyddoedd i ddod.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro, cynrychiolwr o Fwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Dyfrig ap Dafydd a’r Prif Swyddog o Menter Môn fel a ganlyn:-
· Model Clystyrau Meddygon Teulu – Er mwyn gwella gallu Ymarferwyr Gofal Sylfaenol i gefnogi eu cymunedau mae’r Model Clystyrau Meddygon Teulu’n cael ei gryfhau ar draws Gogledd Cymru. Clwstwr yw grŵp o ymarferwyr gofal sylfaenol sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn ardaloedd daearyddol penodol er mwyn sicrhau fod gwasanaethau a chefnogaeth addas ar gael ac yn cael eu darparu’n lleol o fewn yr ardal honno. Mae 11 o feddygfeydd Meddygon Teulu a fydd yn gweithredu o fewn ardal Clwstwr Ynys Môn.
Mae un clwstwr yn Ynys Môn sydd wedi gweld gwelliannau lleol diweddar yn cynnwys cynyddu capasiti drwy ddarparu Ffisiotherapyddion a Fferyllwyr ychwanegol o fewn y gwasanaeth. Mae Ffisiotherapyddion Ymarfer Uwch yn caniatáu i bobl sydd â phroblemau cyhyrysgerbydol gael eu gweld yn lleol gan Uwch Ymarferydd Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol yn hytrach na gweld eu meddyg teulu. Mae’r gwasanaeth a arweinir gan Ffisiotherapyddion yn golygu bod modd i gleifion gael eu gweld yn lleol yn brydlon ac i’r cyflwr gael ei reoli’n gynnar ac o ganlyniad, atal y cyflwr rhag gwaethygu a’r risg o ddatblygu cyflyrau cronig. Mae Clwstwr Ynys Môn wedi bod yn gweithio’n agos â Chanolfan Iechyd Meddwl a Llesiant Abbey Road er mwyn sefydlu darpariaeth ar gyfer cleifion Iechyd Meddwl Haen 0 o fewn y feddygfa.
Bydd Clwstwr Ynys Môn yn canolbwyntio ar ddatblygu ymhellach y meysydd canlynol o Ebrill 2019 ymlaen:-
gwasanaeth ymhellach o gwmpas yr hybiau cymunedol er mwyn tynnu cleifion oddi wrth y feddygfa.
· Tîm Adnoddau Cymunedol – Bydd 3 Tîm Adnoddau Cymunedol yng Nghlwstwr Ynys Môn. O fewn pob ardal, bydd o leiaf un lle hawdd cael ato (naill ai lle parhaol neu le y gellir ei rentu / ddefnyddio yn ôl yr angen) fydd yn caniatáu i’r Tîm Amlddisgyblaethol gynnal trafodaethau am gleifion. Yn ymarferol, bydd datblygu Timau Adnoddau Cymunedol yn Ynys Môn yn golygu y bydd ein Gweithwyr Cymdeithasol Oedolion a Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio’n bennaf o’r canolfannau lleol hyn. Nod y Tîm Adnoddau Cymunedol yw y bydd gan bob oedolyn sy’n byw ar Ynys Môn fynediad syml ac uniongyrchol i Dîm Adnoddau Cymunedol erbyn diwedd 2019/20. Bydd y Timau yn darparu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Reolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ar gyflawni’r Cynllun Llesiant ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn.
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw gwella llesiant economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Cyhoeddwyd Asesiad o Lesiant y BGC ar gyfer ardaloedd llesiant Ynys Môn ym mis Mai 2017 ac yn dilyn cyfres o sesiynau ymgysylltu ac ymgynghori fe gyhoeddwyd y Cynllun Llesiant ym 2018. Ceir cadarnhad yn y Cynllun Llesiant o’r ddau amcan a chwe maes blaenoriaeth ble cytunwyd gall y Bwrdd gydweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau i drigolion Gwynedd ac Ynys Môn.
Adroddodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i sefydlu ar sylfaen gadarn gyda disgwyl y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y Bwrdd er mwyn cyflawni ei ymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).
Adroddodd Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cytuno ar y meysydd blaenoriaeth er mwyn cyflawni’r amcanion a nodir o fewn yr adroddiad. Mae pedwar is-grŵp wedi eu sefydlu o dan Amcan 1 - Cymunedau sy’n ffynnu ac yn llewyrchus yn y tymor hir fel a ganlyn:-
busnes manwl ar gyfer (1) Gwerthuso modelau tai arloesol. (2) Cyflwyno achos ariannol a threfniadau ariannu ar gyfer y cynlluniau (3) Datblygu tai arloesol yn ein cymunedau
pwysleisio’r berthynas rhwng cydraddoldeb a thlodi ac yn datblygu teclyn i ymestyn asesiadau effaith cydraddoldeb i gynnwys effeithiau tlodi yn ogystal.
galluogi’r BGC i ystyried effeithiau newid hinsawdd ar y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir i gymunedau yn yr ardal.
Adroddodd Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ymhellach bod y ddau faes blaenoriaeth ‘iechyd a gofal oedolion’ a lles a chyraeddiadau plant a phobl ifanc yn cyfrannu tuag at Amcan 2. Cytunwyd sefydlu un is-grŵp er mwyn mynd i’r afael â’r ddwy flaenoriaeth – Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig y Gorllewin.
Bydd yr Is-grwpiau yn cyflwyno adroddiadau diweddaru i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyfarfod a gynhelir ar 13 Mawrth, 2019 er mwyn ceisio cefnogaeth y Bwrdd i ddatblygu’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma gan yr is-grwpiau. Mae’r Is-grŵp yn adrodd i’r Bwrdd yn chwarterol. Nodwyd hefyd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar hyn o bryd yn destun craffu gan y Pwyllgorau Sgriwtini dynodedig yn awdurdodau lleol Gwynedd a Môn. Rhagwelir y bydd adroddiad blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei gyflwyno i’w Pwyllgorau Sgriwtini ym mis Mehefin.
Dywedodd Mrs Ffion Johnson, Cyfarwyddwr Ardal Gorllewin Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai hi ar hyn o ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at Gorffennaf 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Gorffennaf, 2019.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Gorffennaf 2019.
GWEITHRED : Fel yr uchod. |