Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim wedi ei dderbyn.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.  

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar gynnydd y Bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (ADY ac Ch).

 

Adroddodd yr Uwch-reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (Gwynedd a Môn) fod y Gwasanaeth ADY ac Ch integredig wedi bod ar waith er mis Medi 2017. O ran cyd-destun Deddfwriaethol, bydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd a Deddfwriaeth Tribiwnlys Cymru (2018) yn dod i rym yn raddol o fis Medi 2021. Cadarnhawyd y Cod terfynol yn y Senedd y 23ain o Fawrth, 2021.

 

Mae tair rhan i’r adroddiad:-

 

Rhan 1 – Arfarniad Allanol y Gwasanaeth

 

Yn ystod mis Ionawr / Chwefror 2021, comisiynwyd Mrs Caroline Rees, Arolygydd Allanol Estyn, i gynnal adolygiad o Strategaeth ADY ac Ch Môn a Gwynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad dros gyfnod o bedair wythnos. Fel rhan o'r adolygiad, cyfarfu Mrs Rees â nifer o aelodau o dîm a rhanddeiliaid ysgolion a'r awdurdod lleol. Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr yn amlinellu camau gweithredu. Cafodd crynodeb o'r adroddiad ei gynnwys yn yr adroddiad i'r Pwyllgor ynghyd â meysydd pwysig ar gyfer datblygu rhagor ar y Gwasanaeth.

 

Rhan 2 – Cymorth yn ystod cyfnod COVID (Mawrth 2020)

 

Mae'r cyfnodau clo er mis Mawrth 2020 wedi creu heriau sylweddol i blant a phobl ifanc, ac i'r holl weithlu addysg. Mae'r Gwasanaeth ADY ac Ch wedi adolygu'r model cyflenwi mewn cyfnod byr iawn i ymateb i hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r ddyletswydd statudol i roi gwasanaeth yn unol â’r Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig (2002) wedi parhau, ac mae'r gwaith trosglwyddo ar gyfer y Ddeddfwriaeth newydd hefyd wedi parhau. Bu cydweithredu cyson, hefyd, rhwng y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, Gwasanaethau Plant ac Asiantaethau Iechyd i sicrhau y cydlynir â'r gwaith hwn.

 

Yn ystod tymor yr hydref, cynhaliodd Estyn Arolygiad Thematig o ymateb Awdurdodau Cymru i’r pandemig yng nghyd-destun Dysgwyr Bregus. Canmolwyd y Gwasanaeth ADY ac Ch am y meysydd cyflenwi a chyflwynwyd yr adroddiad i'r awdurdod lleol.

 

Rhan 3 – Crynhoi

 

Yng nghyd-destun Cynlluniau Gwella Tîm unigol dros y flwyddyn ddiwethaf, yr Adroddiad Gwerthuso Allanol ac Arolygiad Thematig Estyn, daeth i’r amlwg fod cynnydd y Gwasanaeth, gyda’r isod, yn gryfderau ac yn flaenoriaethau / meysydd datblygu allweddol:-

 

Cryfderau –

 

  • Mae system Offer Datblygu Unigol electronig wedi'i datblygu, a chaiff bellach  ei defnyddio gan bob ysgol, yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus. Mae'r system yn hwyluso gwaith ysgolion a'r gwasanaeth yn sylweddol;
  • Mae'r Prosiect Meithrin Ysgolion yn parhau i gael ei weithredu ac mae canlyniadau cadarnhaol i’w gweld mewn addysg gynradd ac uwchradd;
  • Mae View 2 yr Adolygiad Strategol, sy'n ymwneud â Thrawsnewid Deddfwriaethol, yn gwneud cynnydd da ac mae’n parhau i sicrhau bod Ynys Môn yn barod ar gyfer y ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd ym mis Medi 2020;
  • Mae Strategaeth Hyfforddi'r Gwasanaeth wedi'i gosod a hyfforddiant wedi'i gyflwyno. Mae hyn bellach yn rhan annatod o rôl pob tîm;
  • Mae defnyddio TOM (Mesurau Canlyniadau Therapi) yn cael ei ymestyn ymhellach fel bod modd adrodd yn ehangach ar gynnydd plant, gan fod gofyn defnyddio dulliau cyfannol er mwyn dangos  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Cynnydd - Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion pdf eicon PDF 443 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd y Swyddog Craffu ar y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn cyfeirio at bedwar cyfarfod olaf y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion ac yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Tachwedd 2020 a Mawrth 2021. Nododd fod Gwaith monitro safonau ysgolion unigol wedi hen ennill ei blwyf a’i fod yn parhau i ddatblygu. Yn dilyn trafodaeth ym mis Hydref 2019 ar y rhaglen i fonitro safonau mewn ysgolion unigol, roedd tystiolaeth gref o weithredu ar y penderfyniad i ddatblygu craffu ymhellach. Fodd bynnag, roedd canlyniad y pandemig wedi cael effaith ar y gwaith ar hyn o bryd a bwriad y Panel oedd ailedrych ar yr ymweliadau hyn pan fyddai amodau'n caniatáu. O’r herwydd, byddai angen i'r Panel addasu'r ffordd yr oedd yn gweithio a chraffu ar berfformiad ysgolion unigol. Roedd lle i'r Panel gyflawni'r gwaith hwn yn rhithwir yn y dyfodol.

 

Crybwyllodd y Cadeirydd fod y Panel wedi ystyried y materion a ganlyn: -

 

·         Ymateb y Cyngor i Covid-19 (Rhan 3): Cymorth i Blant sy'n Fregus a Phrosiect Caergybi;

·         Darpariaeth Lles;

·         Adroddiad Cynnydd GwE 2020/21: Cefnogi Ysgolion yn ystod pandemig Covid-19;

·         Y Gymraeg;

·         Ysgolion Arbennig;

·         Camau nesaf;

·         Estyn: cefnogaeth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ymateb i Covid-19;

·         Teithiau dwy Ysgol Uwchradd ar yr Ynys;

·         Diweddariad ar ddatblygiadau Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant Gwynedd a Môn;

·         Cefnogaeth ddigidol i ysgolion a datblygiadau cyffredinol ynghylch y Gymraeg.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gwneud y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·         Sut y gallai’r Panel ddatblygu fel y gellid clywed llais y plentyn / disgyblion. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Gwasanaeth Addysg yn annog disgyblion i fynegi eu barn fel rhan o weithgareddau ac addysg yr ysgol. Nododd fod y Cyngor Ysgol yn rhoi cyfle i ddisgyblion godi materion o bryder ac yn sicrhau bod syniadau / gweledigaeth bosibl y plant yn gwella’r gwaith yr oedd yr ysgolion yn canolbwyntio arno;

·         Gofynnwyd a oedd camau a gymerwyd gan y Panel yn ddigon cadarn ac a oedd faint o waith a wnaed yn briodol ac a oedd angen trosglwyddo materion i'r Pwyllgor Craffu. Ymatebodd y Cadeirydd gan ddweud fod y Swyddogion Addysg yn mynd i’ Panel ynghyd â chynrychiolwyr o GwE. Mynegodd ymhellach fod y cysylltiad â GwE yn fanteisiol i'r Panel er mwyn rhoi sylw i faterion a rhannu gwybodaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod trafodaethau yn y Panel yn gallu ymwneud â materion a allai fod yn broblem yn y dyfodol gyda sbectrwm addysgol; gallai cynrychiolwyr y Panel herio Swyddogion o'r Gwasanaeth Addysg a GwE. Nododd fod gwahoddiad hefyd wedi'i roi i Estyn i ddod i unrhyw gyfarfod o'r Panel.

·         Gofynnwyd a oedd gan y Panel dystiolaeth ei fod yn ychwanegu gwerth at y gwasanaeth Addysg. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc trwy ddweud y câi gwaith paratoi sylweddol  ei wneud ar gyfer y Panel a bod cofnodion ac adroddiadau ar gael. Nododd fod y Gwasanaeth Addysg wedi elwa  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 970 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Sgriwtini.

 

Gofynnod y Cynghorydd T Ll Hughes MBE am i Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael gwahoddiad i ddod i’r Pwyllgor Sgriwtini hwn 

 

PENDERFYNWYD:

 

·           Nodi’r Rhaglen Waith ar gyfer y cyfnod o fis Mehefin 2021 i fis Tachwedd 2021.

·           Estyn gwahoddiad i Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini hwn yn y dyfodol.