Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 18fed Ionawr, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.  

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Non Dafydd ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Moderneiddio Cyfleoedd Dydd: Cyfleoedd Dysgu (ardal Caergybi).

 

Bu i’r Cynghorydd Jeff Evans ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 4 – Moderneiddio Cyfleoedd Dydd: Cyfleoedd Dysg (ardal Caergybi).

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·       Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2023;

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2023.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir:-

 

·       Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2023.

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2023.

 

4.

Moderneiddio Cyfleon Dydd : Anableddau Dysgu (ardal Caergybi) pdf eicon PDF 771 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod oddeutu 20 unigolyn gydag anableddau dysgu yn mynychu Canolfan Ddydd Morswyn yn adeilad hen Ysgol Morswyn cyn y pandemig Covid. Pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio, nid oedd yr adeilad yn ddigon mawr ar gyfer yr un faint o bobl gan fod yn rhaid cadw pellter cymdeithasol. Mewn ymateb i’r her, dechreuodd y Gwasanaethau Oedolion gynnal gweithgareddau mewn adeiladau cymunedol yng Nghaergybi.  Mae defnydd cyson ar adeiladau ‘Boston Centre Stage’ a’r ‘Sgowtiaid Morwrol’. Yn draddodiadol mae gweithgareddau dydd ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu yn cael eu darparu mewn adeiladau dynodedig ac mae gan y Cyngor bedwar safle penodol sef Canolfan Ddydd Morswyn, Caergybi, Canolfan Ddydd Gors Felen, Llangefni, Canolfan Ddydd Blaen y Coed, Llangoed a Gerddi Haulfre, Llangoed.  Mae’n bwysig iawn bod dewis o weithgareddau ar gael i bobl ag anableddau dysgu a’u bod yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a gweithgar,  magu hyder ac annibyniaeth a dod yn rhan annatod o’u cymuned leol. Nododd bod y Gwasanaethau Oedolion yn dymuno datblygu’r model ac ehangu’r nifer o leoliadau sy’n darparu gweithgareddau dydd i bobl gydag Anabledd Dysgu yn ardal Caergybi a byddai dargyfeirio adnoddau o Ganolfan Morswyn yn caniatáu buddsoddiad pellach yn y weledigaeth honno.  Rhwng mis Awst a mis Medi 2023, casglodd yr Adran Oedolion farn y bobl sy’n defnyddio gweithgareddau dydd yn ardal Caergybi a’u teuluoedd. Bwriad yr ymarferiad oedd mesur barn defnyddwyr a’u teuluoedd am y gweithgareddau sy’n cael eu darparu o leoliadau cymunedol, a be fyddai pobl yn dymuno ei weld yn y dyfodol. Rhwng 23 Hydref, 2023 a 01 Rhagfyr, 2023 cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol gweithgareddau dydd yng Nghanolfan Morswyn (roedd crynodeb o’r ymatebion ynghlwm â’r adroddiad). Bu i’r Aelod Portffolio amlygu bod y mwyafrif yn dymuno gweld mwy o amrywiaeth yn y ddarpariaeth gofal dydd a mwy o weithgareddau’n cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau. Nododd y byddai rhoi’r gorau i’r gweithgareddau dydd yng Nghanolfan Ddydd Morswyn yn rhyddhau adnoddau ac yn galluogi’r Gwasanaethau Oedolion i symud adnoddau a staff fel y gellir ymestyn y gweithgareddau dydd sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol eraill.  Fodd bynnag, roedd unigolion heb brofiad o weithgareddau cymunedol yn llai cefnogol. Bydd y Gwasanaethau Oedolion yn gweithio gyda’r unigolion yma i weld sut orau i gwrdd  â’u hanghenion. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mai’r hyn sy’n gyrru’r uchelgais i foderneiddio’r cyfleusterau dydd ar gyfer pobl gydag anableddau dydd yw’r angen i ymestyn y cyfleusterau mewn cymunedau lleol a chwrdd ag anghenion y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Yn dilyn y pandemig, mae’r rhan fwyaf o’r bobl a oedd yn mynychu Canolfan Ddydd Morswyn yn cymryd rhan mewn pob math o gyfleoedd mewn cyfleusterau eraill yn y gymuned. Nododd nad ydi’r ddarpariaeth yng Nghanolfan Ddydd Morswyn yn cwrdd â gofynion y defnyddwyr gwasanaeth ac y byddai rhoi’r gorau i ddarparu gweithgareddau dydd yn y Ganolfan yn rhyddhau adnoddau ac yn galluogi’r adran i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd Ch2 : 2023/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pdf eicon PDF 7 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr a oedd yn cynnwys Adroddiad Cynnydd Ch2: 2023/2024 – Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er gwybodaeth. 

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr adroddiad gan nodi bod 5 o brosiectau newydd wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â’r Fargen Twf yn ystod chwarter 2, yn cynnwys prosiect Hwb Hydrogen Menter Môn yng Nghaergybi. Nododd bod cymeradwyo’r prosiectau hyn wedi golygu llawer iawn o waith. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod Chwarter 2: 2023/2024.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2023/2024 pdf eicon PDF 425 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2023/2024 i’w ystyried.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd yr eitem ar Foderneiddio Cyfleoedd Dydd: Anableddau Dysgu, a oedd wedi'i rhaglennu ar gyfer cyfarfod mis Chwefror 2024, yn cael ei haildrefnu i ddyddiad arall sydd heb ei gytuno eto.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Derbyn y fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2023/24 yn amodol ar aildrefnu’r eitem ar Foderneiddio Cyfleon Dydd: Anableddau Dysgu, y bwriadwyd ei thrafod yng nghyfarfod Chwefror 2024, i ddyddiad arall sydd heb ei gytuno eto. 

·         Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.