Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 12fed Chwefror, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Euryn Morris ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5, Adroddiad Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad, gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 270 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, 2025.  

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2025 yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Eitem 5 - Diogelu Corfforaethol

 

Gweithred 1 – Gwahodd y Fforwm Cadeiryddion / Is-gadeiryddion Sgriwtini i ystyried cyfraniad y Panel Sgriwtini Addysg a’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol i’r gwaith o graffu ar adroddiadau Diogelu Corfforaethol cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

Mae eitem wedi’i chynnwys ar raglen cyfarfod nesaf y Fforwm Cadeiryddion / Is-gadeiryddion Sgriwtini a gynhelir ar 25 Mawrth 2025.

 

Gweithred 2 – Sicrhau bod yr Aelodau Etholedig a staff yn rhoi blaenoriaeth i fynychu hyfforddiant mandadol ar ddiogelwch seiber.

 

Mae’r weithred yn flaenoriaeth i bob Cyfarwyddwr a Phennaeth Gwasanaeth.  Data Presenoldeb : Staff : 69% / Aelodau Etholedig : 97%.

 

Gweithred 3 – Trefnu cyflwyniad yn ystod Sesiwn Briffio Aelodau ar gyfraniad ysgolion i drefniadau Diogelu Corfforaethol yr Awdurdod. 

 

Mae eitem wedi’i chynnwys ar raglen y Sesiwn Briffio Aelodau a gynhelir ar 3 Gorffennaf 2025.

 

Gweithred 4 – Ystyried strwythur yr adroddiadau Diogelu Corfforaethol, ac yn benodol, rhoi blaenoriaeth i gynnwys gwybodaeth ar wahân ar drefniadau diogelu mewn ysgolion.

 

Ystyriwyd y weithred a bydd camau’n cael eu cymryd.

 

 

4.

Adolygu Polisi Iaith Gymraeg pdf eicon PDF 1010 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod Polisi Iaith Gymraeg presennol y Cyngor wedi’i fabwysiadu yn 2016, pan ddaeth y safonau iaith Gymraeg statudol i rym. Mae dealltwriaeth o’r safonau wedi aeddfedu ers hynny, ac mae arferion yr Awdurdod mewn perthynas â’r iaith wedi datblygu’n sylweddol.  Mae’r polisi’n effeithio ar bawb sy’n delio â’r Cyngor, a lluniwyd y polisi drafft er mwyn cyflawni gofynion statudol y safonau iaith Gymraeg. Ychwanegodd fod y polisi drafft yn cyfrannu at nodau Cynllun y Cyngor a’r strategaeth hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaeth y Pwyllgor :-

 

·     Gofynnwyd beth yw’r prif heriau o ran rhoi polisi iaith Gymraeg ar waith.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod 55.8% o boblogaeth yr Ynys yn gallu siarad Cymraeg ac mae’r Awdurdod yn ffodus wrth recriwtio i swyddi ei fod yn gallu denu pobl leol fel arfer, sy’n gallu cyrraedd y meini prawf iaith Gymraeg. Wrth gydnabod ei bod yn anodd penodi pobl sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddynt i rai swyddi, mae’r Awdurdod yn darparu hyfforddiant er mwyn gwella gallu staff yn y Gymraeg. Ychwanegodd fod llawer o frwdfrydedd ymysg staff yr Awdurdod tuag at y Gymraeg ac mae nifer o staff hefyd yn cofrestru ar gyrsiau i wellau eu sgiliau iaith. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth mai adolygiad o’r Polisi Iaith Gymraeg yw hwn ac mae staff yn gyfarwydd â safonau iaith Gymraeg yr Awdurdod. Yn ystod sesiynau cynefino ar gyfer staff newydd, tynnir sylw at y safonau iaith Gymraeg ac mae gwybodaeth hefyd ar wefan fewnol yr Awdurdod ar gyfer staff. 

·     Holwyd sut mae arferion y Cyngor wedi newid ers i’r safonau iaith Gymraeg ddod i rym yn 2016? Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod sgiliau iaith Gymraeg wedi’u hymgorffori yn y swyddi sydd ar gael yn y Cyngor. Ychwanegodd fod diwylliant yr Awdurdod wedi newid ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y Gymraeg. Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael ar gyfer unrhyw un sydd ddim yn siarad Cymraeg. Yn ystod cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, nodwyd bod aelodau wedi mynegi pryderon am gyfrwng iaith rhai o’r sesiynau hyfforddi ac at ddiwylliant cyffredinol a allai ymddieithrio pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y mater wedi bod yn destun trafodaeth fewnol a chyflwynir adroddiad yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  Bydd y sesiynau hyfforddi’n cael eu cyflwyno i Aelodau Etholedig yn y Gymraeg a’r Saesneg, a dyma yw’r trefniadau presennol ar gyfer staff hefyd.  Ychwanegodd bod y Cyngor wedi cysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynglŷn â’r mater a godwyd, ond ni dderbyniwyd ymateb eto.

·     Gofynnwyd beth yw’r prif wahaniaethau rhwng y polisi drafft a’r Polisi Iaith Gymraeg presennol? Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod y Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig wedi’i symleiddio trwy gynnwys egwyddorion cyffredinol er mwyn cadarnhau sut mae’r Awdurdod yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau. Ychwanegodd nad oes fawr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad - Crynodeb o sefyllfa gyfredol ADY a CH pdf eicon PDF 689 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADY a Ch) wedi’i sefydlu ym Medi 2017 fel gwasanaeth ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd. Mae’r gwasanaeth wedi datblygu ers hynny er mwyn ymateb i newid yn y galw a’r cyd-destun ehangach. Roedd y gwasanaeth yn destun adolygiad allanol yn 2020, ac eto yn 2023. Mae pob ysgol yn derbyn arian i ddarparu ar gyfer dysgwyr sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol. 

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaeth y Pwyllgor :-

 

·         Gofynnwyd i ba raddau mae’r gwasanaeth ADY a Ch yn cynnig gwerth am arian, a pha gynlluniau sydd ar waith i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i leihau biwrocratiaeth a gwella effeithlonrwydd a gwerth am arian? Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc nad yw deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn y gwasanaeth ADY a Ch ar hyn o bryd, oherwydd y goblygiadau diogelwch a chyfreithiol, ond mae ymchwil yn cael ei wneud fydd yn cynorthwyo i gyflwyno deallusrwydd artiffisial yn y dyfodol. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad fod ymdrechion yn canolbwyntio ar leihau biwrocratiaeth mewn perthynas â’r cynlluniau datblygu unigol a hwyluso gwaith y Cydlynwyr o ran diweddaru’r cynlluniau hynny. Nododd fod Penaethiaid yn gofyn am fanciau o dargedau y gall ysgolion eu defnyddio gyda disgyblion sydd ag anghenion penodol er mwyn lleihau biwrocratiaeth, a gobeithir y bydd symud i ddull cyllido newydd, trwy fformiwla, ym mis Mawrth 2025 yn lleihau biwrocratiaeth hefyd.

·         Gofynnwyd a oes unrhyw effeithiau andwyol posib yn gysylltiedig â’r dull ariannu trwy fformiwla a gyflwynir ym mis Mawrth 2025, ac a fyddai defnyddio fformiwla’n annog anghydfod ymysg ysgolion. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai modd trefnu Sesiwn Friffio ar y dull cyllido newydd trwy fformiwla a manylion y Cynllun Gweithredu ADY a Ch. Nododd nad yw’r dull cyllido trwy fformiwla ond yn berthnasol i’r sector cynradd ar hyn o bryd. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad y byddai’r fformiwla newydd yn cynnig mwy o sefydlogrwydd ariannol er mwyn cynnal lefelau staffio ac y byddai’n gyfundrefn fwy cyson o fewn ysgolion. Nododd bod y fformiwla’n seiliedig ar nifer y dysgwyr sydd â Chynllun Datblygu Unigol, yn ogystal â difrifoldeb anghenion y dysgwyr. Bydd y fformiwla newydd yn seiliedig ar unigolion a chymhlethdodau disgyblion. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynglŷn â phryd fydd y fformiwla newydd yn cael ei gyflwyno yn y sector uwchradd. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr - Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad, mai’r gobaith yw cynnal trafodaeth y flwyddyn nesaf ynglŷn â chyflwyno system debyg yn y sector uwchradd.   

·         Holwyd a oes mwy o rieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn dewis addysgu eu plant yn y cartref. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y gwasanaeth addysg yn creu cynlluniau unigol ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Cynnydd Panel Sgriwtini Addysg pdf eicon PDF 230 KB

Cyflwyno adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.

Cofnodion:

 

Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones, mai hwn yw pumed adroddiad cynnydd y panel ac mae’n cyfeirio at y cyfnod rhwng Hydref 2024 ac Ionawr 2025. Nododd i’r Panel gyfarfod ar bedwar achlysur yn ystod y cyfnod hwn ac ystyriwyd y materion canlynol :-

 

·     Yr Iaith Gymraeg;

·     Gwella Dysgu ac Addysgu;

·     Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant;

·     Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant;

·     Rhaglen Waith y Panel Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Hydref 2024 - Ionawr 2025.

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaeth y Pwyllgor :-

 

·     Gofynnwyd pa awgrymiadau y gellir eu gwneud i gryfhau gwaith y Panel ymhellach. Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod y panel wedi gofyn i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc baratoi adroddiad i’r panel ynglŷn â diogelwch mewn ysgolion ar yr Ynys, a hynny’n dilyn dau ddigwyddiad trasig mewn dwy ysgol yn ddiweddar. 

·     Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor oni fyddai’n fwy priodol i’r Panel Sgriwtini Addysg, yn hytrach na’r Panel Sgriwtini Cyllid, graffu ar wariant ysgolion. Mewn ymateb, dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod y panel yn ystyried pynciau amrywiol a’i fod yn ystyried ariannu ysgolion. Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn y dylai Swyddogion proffesiynol drafod ariannu ysgolion ac adrodd i’r Panel Sgriwtini Cyllid. Nodwyd y dylai cofnodion y tri Phanel Sgriwtini gael eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o drafodaethau’r panelau hyn. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg ei fod o’r farn bod y Panel Sgriwtini Addysg yn cryfhau’r Gwasanaeth Addysg.  Nododd fod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu peidio â lleihau’r cyllid i ysgolion yn y cynigion ar gyfer cyllideb 2025/26, ac un o’r prif resymau dros hynny oedd y pwysau ar y gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.  Nododd fod pwysau’n cael ei roi ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio cael rhagor o arian ar gyfer addysg a’r gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Gweithgor Sgriwtini wedi’i gynnal yn ddiweddar a bod rolau a chysylltiadau rhwng y Panelau Sgriwtini wedi cael eu trafod. Pan roddir cam 2 yr Adolygiad Sgriwtini ar waith, nododd y bydd trafodaeth ynghylch sut mae’r tri Phanel Sgriwtini yn adrodd i’r rhiant Bwyllgor Sgriwtini. Ychwanegodd mai rôl y Panel Sgriwtini Cyllid yw monitro’r gyllideb, ac na ddylid gwanhau rôl y Panel. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai Swyddogion perthnasol drafod y sylwadau am waith y tri Phanel Sgriwtini ymhellach ac adrodd i’r Fforwm Cadeiryddion/Is-gadeiryddion maes o law. 

·     Cyfeiriwyd at bwysau ar ysgolion yn gysylltiedig â disgyblion bregus ac anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad. Gofynnwyd pa gefnogaeth a darpariaeth sydd ar gael i staff addysgu os ydynt yn gorfod delio â sefyllfaoedd anodd a all godi mewn ysgol. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod y Gwasanaeth Addysg yn cyflogi Swyddogion Lles i gefnogi staff addysgu, ac mae’r Gwasanaeth Cwnsela Medra ar gael i staff hefyd. Ychwanegodd fod Diwrnod Llesiant yn cael ei drefnu ar gyfer staff ar ôl hanner tymor ac y byddai nifer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Enwebu Aelod o'r Pwyllgor ar y Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 492 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini ynglŷn ag enwebu aelod o’r Pwyllgor i’r Panel Sgriwtini Cyllid.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhelir ar 12 Mawrth 2025.

 

8.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2024/2025 pdf eicon PDF 489 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn manylu ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2024/25.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·       Cytuno ar fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2024/25.

·       Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.