Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Non Dafydd ddatgan budd yn Eitem 3 ar yr agenda, gan ei bod yn aelod o Banel yr Heddlu a Throseddu.
Bu i’r Cynghorydd Non Dafydd ddatgan ei bod yn cynrychioli’r Cyngor Sir ar Banel yr Heddlu a Throseddu
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2025. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2025 yn gywir.
Camau gweithredu sy'n deillio o'r cofnodion: -
Gwneud cais i Lywodraeth Cymru i gael cyllid Grant Addysg Llywodraeth Leol am gyfnod o dair blynedd er mwyn gallu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer darpariaeth y Canolfannau Iaith.
Adroddodd y Cadeirydd fod llythyr wedi'i anfon at Weinidog Addysg y Cabinet a Chyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru. Disgwylir ymateb maes o law.
|
|
|
Heddlu Gogledd Cymru Derbyn cyflwyniad gan y Prif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl, a'r Uwcharolygydd Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru i'r cyfarfod.
Rhoddwyd cyflwyniad byr i'r cyfarfod gan gynrychiolwyr Heddlu Gogledd Cymru yn amlinellu eu blaenoriaethau er mwyn gwneud Gogledd Cymru y lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef yn y DU. Tynnwyd sylw hefyd at y bartneriaeth ag awdurdodau lleol i atgyfnerthu eu hymrwymiad i ddiogelu cymunedau lleol ac iechyd y cyhoedd.
PENDERFYNWYD derbyn cynnwys y cyflwyniad gan Heddlu Gogledd Cymru.
|
|
|
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Derbyn cyflwyniad gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru i'r cyfarfod.
Rhoddwyd cyflwyniad byr i'r cyfarfod gan Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn amlinellu rôl Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r berthynas waith agos â Heddlu Gogledd Cymru ynghyd â Sgriwtini a hynny drwy amrywiaeth eang o ffyrdd a thrwy'r Bwrdd Gweithredol Strategol.
PENDERFYNWYD derbyn cynnwys y cyflwyniad gan Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu.
Adroddodd y Prif Weithredwr fod gan yr Heddlu a'r Cyngor Sir bartneriaeth gadarn a’u bod yn cydweithio'n effeithiol ar nifer o lefelau, er bod adnoddau’n brin. Dywedodd fod Ynys Môn yn lle diogel i fyw a bod diogelu cymunedau yn bwysig iawn i'w thrigolion. Cyfeiriwyd at gynllunio ac ymateb i argyfyngau o ystyried y cynnydd mewn traffig trwy borthladd Caergybi, sy'n golygu bod mwy o risg, a’r cydweithio ehangach â Llu’r Ffiniau a'r awdurdod porthladd yn ogystal â'r Heddlu. Cyfeiriodd at y Gymraeg, sy'n un o nodau strategol y Cyngor - bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu yn Ynys Môn a dywedodd ei fod yn falch bod yr Heddlu wedi ymrwymo i flaenoriaethu'r Gymraeg.
Yn dilyn y ddau gyflwyniad gan Heddlu Gogledd Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor: -
· Cyfeiriwyd at gerbydau, gan gynnwys lorïau HGV sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon ar y llinellau igam-ogam wrth ddod at y groesfan pelican yn y Fali, sy'n broblem barhaus. Yr wythnos diwethaf cyfarfu dau aelod o'r Cyngor â Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) o Gaergybi i drafod ffyrdd o ddatrys y mater hwn. Mae aelodau'r cyhoedd hefyd wedi anfon lluniau o gerbydau wedi'u parcio at Gan Bwyll a Heddlu Gogledd Cymru ond nid ydynt wedi derbyn unrhyw adborth hyd yn hyn.
Gofynnwyd a oedd modd i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu lobïo Comisiynwyr Heddlu a Throseddu eraill ledled y wlad a Llywodraeth y DU i newid y gyfraith i roi mwy o bwerau i'r Heddlu fynd i'r afael â'r materion hyn?
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Gwnstabl fod parcio anghyfreithlon ar linellau igam-ogam yn drosedd sy’n gyfystyr â chosb benodedig, a bod pwerau gan Gwnstabliaid i ddelio â nhw, ond nid felly Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Nodwyd bod rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi'i hadolygu i wneud y mwyaf o'u pwerau i ddelio â materion cymunedol lleol, a gellid ailedrych ar hyn i sicrhau eu bod wedi derbyn yr holl hyfforddiant angenrheidiol. Yn achos materion parcio cyffredinol, cyfrifoldeb y Cyngor Sir yw gorfodi'r gyfraith a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig.
Dywedodd yr Uwcharolygydd ei fod yn siomedig bod problemau’n parhau yn y Fali, gan fod ei staff wedi gweithio'n galed i ddatrys y rhain trwy gynnal arolygon a chyfarfodydd lleol. Cytunodd i edrych ar achosion unigol a rhoi adborth maes o law.
· Gofynnwyd cwestiwn am ‘Ymgyrch Stack', a ph’un ai a yw cynlluniau 'parcio cerbydau' yn cyfeirio at ddefnyddio tir ar Ynys Môn neu'r tir mawr pan fydd Pont Britannia ar gau?
Dywedodd yr Uwcharolygydd fod Heddlu Gogledd Cymru’n gweithio'n agos gyda'r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2025/2026 Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu Blaenraglen Waith dangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2025/26, i'w ystyried.
PENDERFYNWYD cytuno ar y fersiwn bresennol o'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2025/26, gan gynnwys y gwelliannau a nodwyd.
|