Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 17eg Mawrth, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.  

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Sonia Williams ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 - Cyllid Llywodraeth y DU - Caergybi: Trawsnewid yn seiliedig ar ddiwylliant a threftadaeth, ond yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd yn gallu cymryd rhan a phleidleisio ar yr eitem hon.

 

Bu i Mrs Christina Williams, Aelod Cyfetholedig, Rhiant Lywodraethwr - Sector Ysgolion Uwchradd ac ADY, ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 8 - Mewnoli’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant ar Ynys Môn, ond yn dilyn cyngor cyfreithiol, roedd yn gallu cymryd rhan a phleidleisio ar yr eitem hon.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 196 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2026.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2026 yn gywir.

 

Gweithred 2 yn codi o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2025:-

 

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn cyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd ar 7 Tachwedd ynghylch y toriadau arfaethedig i wasanaethau Therapi Galwedigaethol ar yr Ynys oherwydd cyfyngiadau ariannu Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Derbyniwyd yr ymateb canlynol gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â’r Bartneriaeth Diogelwch:-

 

Roedd y rolau o fewn y Tîm Iechyd Meddwl yn cael eu hariannu dros dro trwy ‘i-CAN’ gyda chyllid clwstwr yn y tymor byr. Mae’r cyllid bellach wedi dod i ben, gan olygu fod llai o Therapyddion Galwedigaethol yn y meddygfeydd meddygon teulu.  Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo i greu model tymor hir sydd yn gynaliadwy ac ailgyfeirio cleifion at Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol neu ddarpariaeth Trydydd Sector er mwyn lleihau’r effaith ar gleifion.

 

4.

Porthladd Rhydd Ynys Môn - diweddariad ar gynnydd pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd mai gweledigaeth Porthladd Rhydd Ynys Môn yw bod yn hwb fyd-eang ar gyfer arloesi, ynni carbon isel a masnach ryngwladol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y prif faterion canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at y grant o £1m o arian refeniw a £25m o arian sbarduno cyfalaf a nodir yn yr adroddiad. Gofynnwyd a fyddai’r arian hwn yn cael ei rannu ymysg pob safle ar yr Ynys neu a yw wedi'i fwriadu’n benodol ar gyfer hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi. Gofynnwyd hefyd a yw’r arian yn ddigon ar gyfer yr holl safleoedd ac a fydd arian ychwanegol ar gael. Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod y cyllid y cyfeiria’r adroddiad ato ar gyfer yr holl safleoedd a nodwyd ar Ynys Môn. Ar ôl llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, dywedodd y byddai cyfran gyntaf y cyllid yn cael ei ryddhau a bydd cyllid ar gael ar gyfer Safle Peboc yn Llangefni a’r adeilad newydd yn MSParc, Gaerwen. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y statws Porthladd Rhydd yn sicrhau dynodiad safleoedd treth, gan olygu fod y safleoedd yn cael eu cydnabod o dan y gyfraith fel ardaloedd daearyddol lle gall busnesau elwa o ryddhad treth. Bydd yn gyfle hefyd i glustnodi arian tuag at brosiectau fydd yn cynnal a datblygu’r economi. 

·         Nodwyd fod y statws Porthladd Rhydd yn cynnwys tri amcan, fel y noda’r adroddiad, ac un o’r amcanion hynny yw cynyddu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl leol. Gofynnwyd a yw pobl ifanc yn yr ysgolion uwchradd yn cael gwybod pa sgiliau fydd eu hangen ar fusnesau allai sefydlu ar yr Ynys, gan y bydd angen amser cyn y gellir addysgu pynciau nad ydynt yn rhan o’r cwricwlwm.  Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd y bydd arian yn cael ei ryddhau ar ôl llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Ychwanegodd fod angen bod yn ofalus cyn codi disgwyliadau o ran y math o gyfleoedd cyflogaeth allai fod ar gael, gan fod hynny’n llwyr ddibynnol ar ba fusnesau sy’n bwriadu lleoli o fewn y Porthladd Rhydd. Ni ellir rhoi arweiniad ynghylch y cyfleoedd cyflogaeth fydd ar gael cyn hynny. Dywedodd fod yr amser y mae’n ei gymryd i gadarnhau’r statws Porthladd Rhydd wedi creu rhwystredigaeth, gan fod y broses ymgeisio am y statws wedi cychwyn ers mis Medi 2022. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Cynllun Sgiliau wedi’i baratoi a’i gyflwyno gyda’r Achos Busnes ond bydd angen ei ddiweddaru. Nododd y bydd angen profiad Coleg Menai er mwyn ymweld ag ysgolion i rannu gwybodaeth â phobl ifanc am y cyfleoedd cyflogaeth posib.  Mewn perthynas â’r Cynllun Sgiliau, dywedodd fod yr Achos Busnes yn amlygu cyflogaeth o fewn pum sector, sef ynni, adeiladu, uwch weithgynhyrchu, digidol, cyllid a sgiliau proffesiynol. Ychwanegodd fod buddsoddiad preifat i’w weld yn barod gyda’r gwaith clirio sy’n mynd rhagddo ar safle 2Sisters yn Llangefni a safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi. Awgrymodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diweddariad ar Gronfeydd Datblygu Economaidd Llywodraeth Prydain pdf eicon PDF 378 KB

 

  Diweddariad ar gyflawni y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – 2022/2026

 

    Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

 Cyllid Llywodraeth y DU – Caergybi : Trawsnewid yn seiliedig ar Ddiwylliant    a Threftadaeth

 

    Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd i ystyried yr eitemau isod fel un eitem.

 

 

·         Diweddariad ar wireddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ynys Môn 2022/2026

·         Cyllid Llywodraeth y DU - Caergybi: Trawsnewid yn Seiliedig ar Ddiwylliant a Threftadaeth

 

Cyflwynwyd adroddiadau’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Gwynedd fel yr Awdurdod Arweiniol Rhanbarthol a bod y Partneriaid Cyflawni yn monitro cynnydd, gwariant a chydymffurfiaeth yn rheolaidd. Nododd fod arian grant wedi cefnogi prosiectau ledled yr Ynys a’u bod yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd hefyd at Gyllid Llywodraeth y DU : Caergybi, a nododd fod y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU o dan y Rhaglen Ffyniant Bro, rhaglen a ddaw i ben ym mis Mai 2026. Nododd fod tref Caergybi wedi gweld gwelliannau sylweddol yn dilyn cefnogi’r prosiectau a amlygir yn yr adroddiad. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y prif faterion canlynol:-

 

·     Mynegwyd pryderon am newidiadau yn y grant Cronfa Ffyniant Bro yng Nghymru o fis Mai 2026, gyda 70% o’r dyraniad yn arian cyfalaf a 30% yn arian refeniw. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd fod nifer o gyfarfodydd wedi’u cynnal i drafod pryderon am ddyfodol arian grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nododd bod Llywodraeth y DU yn disgwyl i awdurdodau lleol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon allu gweinyddu prosiectau tra bod y fformiwla cyllid yn newid. Codwyd y mater gyda’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ac yn y Senedd, gan fynegi rhwystredigaeth fod y cyllid yn wahanol i’r cyllid fydd ar gael yn Lloegr. Ychwanegodd fod y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi rhoi pwysau ar y ddwy lywodraeth, gan nodi nad yw’n ymarferol cyflawni amcanion y grant Cronfa Ffyniant Gyffredin ar sail yr un amcanion â’r cyllid blaenorol. Mae’n anochel y bydd newidiadau yn y fformiwla ariannu yn golygu fod swyddi sydd yn gysylltiedig ar arian grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu colli. Roedd Aelodau o’r farn y dylid anfon llythyr at Lywodraeth y DU er mwyn mynegi pryderon difrifol am y fformiwla ariannu ar gyfer Cymru. Gofynnwyd a oes unrhyw eglurder ynglŷn â phryd fydd yr arian grant ar gael a ph’un a fydd angen i’r Awdurdod geisio cymorth gan gyrff eraill, yn hytrach na’r sefydliadau partner presennol, h.y. Menter Môn a Môn CF. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd y bydd £3.1m o arian refeniw a £1.1m o arian cyfalaf ar gael ar gyfer 2026/2027. Nododd fod y sefydliadau partner sy’n gweinyddu’r prosiectau’n cael eu monitro’n gyson a derbynnir adborth ynglŷn â natur a nifer y cyfleoedd cyflogaeth a grëwyd yn sgil yr arian grant, gyda’r wybodaeth honno’n cael ei hadrodd i Lywodraeth y DU. Gofynnwyd hefyd a fydd rhaid dychwelyd yr arian grant os yw’r busnesau’n peidio â bod.  Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd fod y cais gwreiddiol am arian Cronfa Ffyniant Gyffredin yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor 2025/26 pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Sgriwtini, oedd yn amlinellu Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2026/2027, i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Douglas Fowlie at Flaen Raglen Waith y Pwyllgor a gofynnodd a fyddai’n bosib symud y gwahoddiad i gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddyddiad cynharach ar y Rhaglen Waith, oherwydd yr adroddiadau am broblemau o fewn y Bwrdd Iechyd lle mae pobl yn disgwyl am oriau cyn cael eu gweld yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r mater yn cael ei ystyried yn y lle cyntaf yn y Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion.

 

PENDERFYNWYD cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2026/27.

 

7.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

8.

Mewnoli'r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad ar Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio - Addysg a’r Gymraeg fod Cyngor Gwynedd wedi hysbysu’r Awdurdod ym mis Mehefin 2025 ei fod yn bwriadu diddymu Partneriaeth ADY a Chynhwysiant Gwynedd ac Ynys Môn, ac ers hynny bu’r Awdurdod hwn yn ystyried cyfres o opsiynau i greu gwasanaeth effeithiol, effeithlon ac addas i bwrpas fydd yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc ar Ynys Môn. Dywedodd y dylai’r Pwyllgor ystyried strwythur y gwasanaeth newydd yn y lle cyntaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cydweithio strategol yn hanfodol er mwyn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon trwy gyd-gynllunio, lleihau dyblygu, symleiddio prosesau a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon. Bydd sefydlu’r trefniadau craidd hyn yn creu cyfleoedd amlwg i gynnwys partneriaid iechyd yn y gwaith yn dilyn sefydlu’r gwasanaeth, cryfhau llwybrau amlasiantaethol ac ymestyn y ddarpariaeth ataliol ledled yr Ynys trwy gryfhau cydweithio rhwng y Gwasanaeth Dysgu a’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd. Trwy sicrhau trefniadau a phrosesau cadarn o’r cychwyn, bydd modd creu gwasanaeth sydd yn fwy rhagweithiol a chynaliadwy, a gwasanaeth sydd ag anghenion plant, teuluoedd ac ysgolion Ynys Môn wrth ei wraidd.

 

Mynegodd aelodau’r Pwyllgor yn gadarn y dylid rhoi lle blaenllaw i blant a phobl ifanc yn y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant ar Ynys Môn, a’i bod yn holl bwysig bod plant a phobl ifanc yn derbyn diagnosis cynnar o’u hanghenion.  

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn cytuno â’r argymhellion yn yr adroddiad, a bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â’r strwythur staffio er mwyn mewnoli’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant ar Ynys Môn.