Rhaglen a chofnodion

Ymweliadau Safle - Dydd Mercher, 24ain Ionawr, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2023/146 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Cae Graham , Pentraeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais cynllunio i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gwelwyd y safle o’r traeth (Traeth Coch, Pentraeth) cyn i aelodau’r Pwyllgor gerdded o fynedfa Tyddyn Waen i safle’r cais lle gwelwyd y safle o du mewn i gwrtil yr eiddo.

2.

FPL/2023/227 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd presennol ynghyd â chodi annedd newydd, ynghyd a addasu yr fynedfa presennol, sustem trin carthffosiaeth, a gwaith cysylltiedig yn Fferm Ty Coch, Rhostrehwfa.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais cynllunio i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gwelwyd y safle o du mewn i gwrtil yr eiddo a dangosodd y Rheolwr Datblygu a Cynllunio i aelodau’r Pwyllgor leoliad y llwybr cyhoeddus sydd gerllaw.