Cofnodion

Ymweliadau Safle - Dydd Mercher, 19eg Mehefin, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2024/64 - Cais llawn i ddymchwel y t? presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le a chadw y fynedfa newydd i gerbydau yn Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl

Cofnodion:

Cyflwynwyd y cais i aelodau’r pwyllgor gan y Swyddog Achos. Edrychwyd ar safle’r cais o du blaen yr annedd, a dangoswyd y fynedfa a’r lôn ôl-weithredol i aelodau’r pwyllgor.

 

2.

HHP/2024/56 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 2 Saith Lathen, Ty Croes

Cofnodion:

Cyflwynwyd y cais i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio gan y Swyddog Cynllunio. Edrychwyd ar y safle oddi mewn i’r safle ei hun. Mae aelodau bellach yn gyfarwydd â’r safle a’r hyn sydd o’i amgylch.

 

3.

FPL/2024/40 - Cais llawn ar gyfer defnyddio'r iard bresennol i leoli cynwysyddion storio ar dir yng Nghlwb Golff Ynys Môn, Station Road, Rhosneigr

Cofnodion:

Cyflwynwyd y cais i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio gan y Swyddog Cynllunio. Edrychwyd ar y safle oddi mewn i’r safle. Mae aelodau bellach yn gyfarwydd â’r safle a’r hyn sydd o’i amgylch.

 

 

4.

FPL/2023/181 - Cais llawn ar gyfer codi 6 uned breswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Shirehall, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

Cofnodion:

Cyflwynwyd y cais i aelodau’r pwyllgor gan y Swyddog Achos.