Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
OP/2025/3 - Cais amlinellol gyda phob mater wedi'i gadw'n ôl i godi annedd ar dir ger Ty'n Llain, Malltraeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio y cais o fynedfa’r safle. Eglurwyd wrth Aelodau’r Pwyllgor fod safle’r cais o fewn ffin datblygu Malltraeth ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law. Yr unig wrthwynebiad oedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru gan fod mwyafrif y safle wedi’i leoli o fewn Parth Llifogydd C2. Eglurodd y Swyddog Cynllunio fod y cais wedi’i asesu yn erbyn y Nodyn Cyngor Technegol blaenorol sef TAN 15 gan fod y cais wedi’i gyflwyno cyn i’r Nodyn Cyngor Technegol newydd ddod i rym.
|
|
|
FPL/2025/97 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd yn ei lle yn Ponta Delgada, Ystâd Ravens Point, Bae Trearddur. Cofnodion: Cyflwynwyd y cais gan y Swyddog Cynllunio o’r fynedfa bresennol. Cerddodd Aelodau’r Pwyllgor tuag at gefn yr eiddo er mwyn dod yn gyfarwydd â’r safle a’i leoliad.
|