Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Rhif. | Eitem |
---|---|
FPL/2021/370 - - Cais llawn ar gyfer newidiadau i ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/212(newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau, yn Chwarelau, Brynsiencyn. Cofnodion: Cafodd fideo o safle’r cais a’r ffordd tuag at y safle ei dangos i’r Aelodau ynghyd â chynllun safle a’r man pasio ôl-weithredol. |
|
HHP/2021/303 -Cais llawn i ddymchwel ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi swyddfa gartref/campfa yn ei le yn Pant y Bwlch, Llanddona. Cofnodion: Cafodd fideo o leoliad yr ystafell ardd bresennol ei dangos i’r Aelodau, ynghyd â’r eiddo a lleoliad y safle. |
|
FPL/2021/61 - 3. FPL/2021/61 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i 2 uned gwyliau, newid defnydd modurdy dwbl ar wahân i anecs ynghyd a datblygiadau cysylltiedig yn Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch. Cofnodion: Cafodd fideo o safle’r cais a’r ffordd tuag at y safle ei dangos i Aelodau a dangoswyd yr eiddo cyfagos i’r safle. Gwelodd yr Aelodau yr adeiladau allanol y mae bwriad i’w trosi a oedd wedi eu lleoli ar y safle. Cafodd waliau’r terfyn, y coed a’r llwyni yr argymhellir eu lleihau mewn maint hefyd eu dangos i Aelodau. |