Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio drosolwg cryno
o’r cais a dangoswyd y cynllun safle i Aelodau. Dangoswyd dau
fideo i Aelodau - roedd y fideo cyntaf yn dangos y mynediad i
safle’r cais a gwelededd cysylltiedig, yr olygfa o’r
mynediad tuag at y ganolfan iechyd ynghyd â’r tri lle
parcio ychwanegol arfaethedig tu blaen i’r adeilad a dau ar
yr ochr. Dangoswyd yr ardal yng nghefn yr adeilad hefyd lle
byddai’r estyniad arfaethedig yn cael ei leoli er mwyn
darparu pum ystafell ymgynghori. Dywedwyd wrth yr aelodau na
fyddai’r estyniad arfaethedig yn rhedeg ar hyd cefn y
ganolfan iechyd gyfan. Dangoswyd y coed yng nghefn y ganolfan
iechyd, a’r bwriad yw cael gwared ar rai ohonynt fel rhan
o’r cynnig. Roedd yr ail fideo yn dangos yr olygfa tuag at y
ganolfan iechyd o’r cae chwarae gerllaw.
Mewn ymateb i gwestiwn am faint o goed
fyddai’n cael eu torri ac a oedd bwriad adeiladu ffens ar hyd
y terfyn gyda’r cae chwarae, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio fod bwriad i dorri pum coeden, ac y byddai’r ffens
bresennol yn cael ei chadw. Byddai’r bonion coed yn cael eu
cadw er mwyn caniatáu tyfiant yn y dyfodol.
Mewn ymateb i
gwestiwn pellach am effaith yr estyniad ar fflatiau Llys Marcwis
gerllaw o ran goredrych, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod
maint yr estyniad arfaethedig yn gymedrol; yn ogystal, bydd
ffenestri’r ystafelloedd ymgynghori newydd ar gefn yr
adeilad, yn edrych tuag at y coetir ac ni fyddant yn edrych dros y
fflatiau.
Dywedodd y
Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Lleol, fod cais am ymweliad safle
wedi’i wneud oherwydd pryderon ynghylch a yw’r
ddarpariaeth barcio yn ddigonol; cyflwynodd wybodaeth gefndir am
safle’r cais a’r ganolfan iechyd a chyfeiriodd at
broblemau parcio hanesyddol.