Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Rhif. | Eitem |
---|---|
FPL/2022/51 - Cais llawn ar gyfer codi llety ategol 6 llofft ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ym Mhlas Rhianfa, Glyngarth, Porthaethwy Cofnodion: Amlinellodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y cais a’i leoliad ar safle’r hen gyrtiau tennis nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio o fewn gerddi Gwesty Plas Rhianfa. Dangoswyd cynlluniau a lluniau i Aelodau er mwyn rhoi syniad iddynt o ddyluniad yr estyniad arfaethedig. Dangoswyd fideos i Aelodau hefyd a oedd yn dynodi’r ddwy fynedfa i’r Gwesty ynghyd â safle’r cais o fewn ei gyd-destun ar dir y Gwesty ac mewn perthynas â’r gerddi a’r prif adeilad rhestredig. Cadarnhawyd fod y cais wedi’i ddiwygio a’i fod bellach ar raddfa lai o’i gymharu â’r cynnig gwreiddiol am adeilad ategol deulawr 8 ystafell wely i fod yn adeilad un llawr ar gyfer 6 ystafell wely ategol. Amlygoddd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, faterion yn ymwneud â pharcio yn enwedig parcio ar y stryd ar ffordd yr A545 Biwmares gan gynnwys i ddanfon nwyddau; y posibilrwydd ar gyfer mwy o lygredd golau ar lannau’r Fenai o fewn AHNE a phryderon mewn perthynas â chadwraeth coed. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y ddarpariaeth parcio yn ddigonol ac yn unol â safonau parcio. Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Cynllunio rai pwyntiau a godwyd mewn perthynas â ffenestri’r adeilad a materion edrych drosodd. Nododd y Pwyllgor y byddai’d ddefnyddiol petai ystadegau damweiniau traffig y ffordd ar gyfer ffordd Biwmares ar gael iddo.
|