Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Rhif. | Eitem |
---|---|
FPL/2022/215 - - CAIS LLAWN A'R GYFER CODI SIED AMAETHYDDOL I STORIO PEIRIANNAU YNGHYD Â CHADW'R GWAITH AIL WYNEBU I'R TRAC YN CAPEL BACH, RHOSYBOLl Cofnodion: Dangoswyd y cynlluniau arfaethedig a chynllun lleoliad y cais i’r Aelodau cyn iddynt gael mynediad i’r safle. Cyfeiriodd y Swyddogion at y llain galed ar y safle ac fe gyflwynwyd y cynllun lleoliad unwaith eto i Aelodau er mwyn iddynt allu gweld lleoliad y cais. Bu’r Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol, dynnu sylw at yr amrywiaeth o siediau amaethyddol eraill yn yr ardal a gofynnodd bod Aelodau yn edrych ar sied amaethyddol arall a oedd wedi’i lleoli i lawr y ffordd o’r safle hwn. Holodd Aelodau’r Pwyllgor am bwrpas arfaethedig y sied. Cadarnhaodd yr Aelodau Lleol, a oedd ar safle'r cais arfaethedig, leoliad y sied ac y byddai mewn pant yn y tirlun. Tynnwyd sylw Aelodau’r Pwyllgor hefyd at y safle carafanau a’r man chwarae yn ystod yr ymweliad safle.
|