Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Rhif. | Eitem |
---|---|
FPL/2023/146 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Cae Graham , Pentraeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais cynllunio i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gwelwyd y safle o’r traeth (Traeth Coch, Pentraeth) cyn i aelodau’r Pwyllgor gerdded o fynedfa Tyddyn Waen i safle’r cais lle gwelwyd y safle o du mewn i gwrtil yr eiddo. |
|
FPL/2023/227 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd presennol ynghyd â chodi annedd newydd, ynghyd a addasu yr fynedfa presennol, sustem trin carthffosiaeth, a gwaith cysylltiedig yn Fferm Ty Coch, Rhostrehwfa. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais cynllunio i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gwelwyd y safle o du mewn i gwrtil yr eiddo a dangosodd y Rheolwr Datblygu a Cynllunio i aelodau’r Pwyllgor leoliad y llwybr cyhoeddus sydd gerllaw.
|