Cofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Proposed venue: Cyfarfod Rhithiol

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymweliad Safleoedd

Cofnodion:

1. FPL/2021/144 – Cais llawn ar gyfer gwneud gwaith dymchwel rhannol ynghyd â gwneud addasiadau ac estyniadau er mwyn creu unedau ychwanegol yn Llys Y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi

 

Dangoswyd lluniadau ynghyd â fideo o’r ardal a’r eiddo cyfagos. Trafodwyd manylion y cais. 

 

2. FPL/2021 – Cais llawn ar gyfer gosod 2 gwt bugail yn Rhosydd, Brynteg

 

Dangoswyd lluniadau ynghyd â fideo o’r ardal, yr eiddo cyfagos a’r llwybr arfaethedig at y safle. Cafodd lluniadau o’r cytiau bugail arfaethedig hefyd eu dangos yn y cyfarfod.

 

3. HHP/2021/183 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd â chodi ystafell ardd yn Dirion Dir, Llangefni

 

Dangoswyd y lluniadau ynghyd â fideo o’r ardal leol ac o safbwynt eiddo cymdogion.  

 

4. HHP/2021/157 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau i The Old Smithy, Marianglas

 

Cafodd lluniadau eu dangos ynghyd â fideo o’r ardal leol a lleoliad y safle mewn perthynas ag eiddo cyfagos.