Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2021/136 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i fod yn llety gwyliau ynghyd â'i addasu a'i ehangu yn Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech.

Cofnodion:

Dangoswyd fideo i Aelodau o safle’r cais a oedd yn dangos yr adeilad allanol o dan sylw mewn perthynas ag annedd yr ymgeisydd, y fynedfa a’r ffordd yn arwain at y safle. Dangoswyd yr adeilad allanol presennol fel un oedd â tho ar oleddf ac estyniad ffrâm goed â tho gwastad ar ochr yr adeilad a thŷ allan bach â tho ar oleddf yng nghefn/ochr yr adeilad. Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Cynllunio at yr addasiadau a’r gwaith ehangu arfaethedig a’r hyn oedd yn ei olygu.

Dywedodd yr Aelod Lleol fod y cais yn cynnwys gwneud defnydd amgen o adeilad sydd angen ei drwsio a’i ailwampio a thynnodd sylw at y ffaith bod digon o le i drosi’r adeilad o fewn yr lle sydd ar gael.

Gofynnodd Aelodau am gadarnhad mewn perthynas â materion yn ymwneud â mynediad, parcio a dichonoldeb strwythurol yr adeilad allanol presennol.