Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2021/336 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan iechyd, adeiladu mannau parcio newydd ynghyd â thirlunio meddal yng Nghanolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio drosolwg cryno o’r cais a dangoswyd y cynllun safle i Aelodau. Dangoswyd dau fideo i Aelodau - roedd y fideo cyntaf yn dangos y mynediad i safle’r cais a gwelededd cysylltiedig, yr olygfa o’r mynediad tuag at y ganolfan iechyd ynghyd â’r tri lle parcio ychwanegol arfaethedig tu blaen i’r adeilad a dau ar yr ochr. Dangoswyd yr ardal yng nghefn yr adeilad hefyd lle byddai’r estyniad arfaethedig yn cael ei leoli er mwyn darparu pum ystafell ymgynghori. Dywedwyd wrth yr aelodau na fyddai’r estyniad arfaethedig yn rhedeg ar hyd cefn y ganolfan iechyd gyfan. Dangoswyd y coed yng nghefn y ganolfan iechyd, a’r bwriad yw cael gwared ar rai ohonynt fel rhan o’r cynnig. Roedd yr ail fideo yn dangos yr olygfa tuag at y ganolfan iechyd o’r cae chwarae gerllaw.

Mewn ymateb i gwestiwn am faint o goed fyddai’n cael eu torri ac a oedd bwriad adeiladu ffens ar hyd y terfyn gyda’r cae chwarae, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod bwriad i dorri pum coeden, ac y byddai’r ffens bresennol yn cael ei chadw. Byddai’r bonion coed yn cael eu cadw er mwyn caniatáu tyfiant yn y dyfodol.

Mewn ymateb i gwestiwn pellach am effaith yr estyniad ar fflatiau Llys Marcwis gerllaw o ran goredrych, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod maint yr estyniad arfaethedig yn gymedrol; yn ogystal, bydd ffenestri’r ystafelloedd ymgynghori newydd ar gefn yr adeilad, yn edrych tuag at y coetir ac ni fyddant yn edrych dros y fflatiau.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Lleol, fod cais am ymweliad safle wedi’i wneud oherwydd pryderon ynghylch a yw’r ddarpariaeth barcio yn ddigonol; cyflwynodd wybodaeth gefndir am safle’r cais a’r ganolfan iechyd a chyfeiriodd at broblemau parcio hanesyddol.