Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol, Ymweliadau Safle - Dydd Mercher, 16eg Tachwedd, 2022 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

HHP/2022/46 - Tan yr Allt Bach, Llanddona

Cofnodion:

Hysbyswyd yr Aelodau fod trefniadau’n cael eu gwneud i’r Pwyllgor ailymweld â’r safle mewn person.

 

2.

FPL/2022/189 - Bilash, Dew Street, Porthaethwy

Cofnodion:

Dangoswyd llun lloeren o safle’r cais i’r Aelodau. Dangoswyd fideo o’r lôn gul at safle’r cais oddi ar Stryd y Gwlith ac roedd yr ail fideo yn dangos yr adeilad dan sylw yn ei gyd-destun mewn perthynas â’r adeiladau o’i amgylch, ynghyd â’r llwybr yn ôl ar hyd y lôn gul i Stryd y Gwlith.

 

Mewn ymateb i gwestiynau am ba mor hwylus yw’r mynediad ac a oedd unrhyw un yn byw yn yr adeilad, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod y Gwasanaeth Priffyrdd yn fodlon â’r trefniadau mynediad a pharcio a bod yr adeilad dan sylw’n cael ei feddiannu ar hyn o bryd.

 

Amlygodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Robin Williams, bryderon am y mynediad, yn enwedig ar gyfer cerbydau brys megis injan dân, o ystyried y lôn gul at yr adeilad, ynghyd ag edrychiad eilradd yr adeilad fel annedd mewn ardal gadwraeth a’i fod yn anghydnaws yng nghanol adeiladau sy’n adeiladau masnachol yn bennaf.

 

3.

FPL/2022/53 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Robin Williams ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod yr ymweliad safle rhithiol hwn.

 

Dangoswyd llun lloeren o safle’r cais a’r fynedfa i’r Aelodau. Roedd y fideo gyntaf yn dangos golygfa agosach o’r fynedfa a’r ardal ger y safle, gan gynnwys eiddo un llawr sydd ar derfyn safle’r cais yng Nghae Braenar. Dangoswyd ail fideo a oedd yn rhoi golygfa ehangach o’r eiddo yn yr ardal o amgylch y safle a oedd yn cynnwys eiddo deulawr. Dangoswyd trydydd fideo a oedd yn dangos y lôn o’r fynedfa a safle’r cais trwy Gae Braenar i’r briffordd, gan ddangos bloc o fflatiau tri llawr gryn bellter oddi wrth y safle.

 

Dangoswyd map o’r safle i Aelodau hefyd, ynghyd â’r math o dai y bwriedir eu hadeilad fel rhan o’r datblygiad.

 

4.

HHP/2022/230 - Dinas Bach, 5 Ystad y Fron, Aberffraw

Cofnodion:

Dangoswyd llun lloeren o safle’r cais i Aelodau ynghyd â’r cynlluniau safle a’r ddau estyniad un llawr arfaethedig. Roedd y fideo cyntaf yn dangos yr olygfa o’r aber a oedd yn gosod yr eiddo dan sylw yn ei gyd-destun mewn perthynas â’r eiddo o’i amgylch. Roedd yr ail fideo yn dangos yr olygfa o ardd yr eiddo drws nesaf, 4 Y Fron, gan gynnwys y terfyn gyda rhif 5 a’r garej to fflat bresennol fyddai’n cael ei dymchwel fel rhan o’r cynnig, gydag estyniad un llawr yn cael ei adeiladu yn ei lle. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai’r estyniad newydd arfaethedig 0.8m yn lletach na’r garej bresennol ac felly byddai 0.8m yn agosach at y terfyn gyda 4 Y Fron. Roedd y trydydd fideo yn dangos yr olygfa o’r mynediad i 5 Y Fron, yn ogystal â lleoliad arfaethedig yr ail estyniad un llawr ar ochr arall yr eiddo, ynghyd â lôn y stad a thai cyfagos.

 

 

5.

VAR/2022/41 - 1 Blue Water Close, Bae Trearddur

Cofnodion:

Hysbyswyd yr Aelodau fod gwaith wedi dechrau cyn rhyddhau’r amodau a nodir uchod a dyna’r rheswm dros gyflwyno’r cais hwn. Mae’r caniatâd cynllunio wedi’i ddiogelu gan fod tystysgrif defnydd cyfreithlon wedi’i rhoi oherwydd bod gwaith perthnasol wedi dechrau mewn perthynas â chaniatâd cynllunio amlinellol blaenorol a chaniatâd ar gyfer materion a gadwyd yn ôl. Dangoswyd llun lloeren o’r safle ac amlinellwyd manylion y cais a gymeradwywyd ar gyfer 6 annedd preswyl. Dangoswyd fideo o safle’r cais a’r mynediad; roedd yr ail fideo yn dangos y mynediad o’r safle i’r briffordd, ac roedd y trydydd fideo yn dangos yr ardal gerllaw’r safle, gan gynnwys eiddo cyfagos a oedd wedi cael ei effeithio gan lifogydd yn y gorffennol, yr olygfa ar hyd y lôn sy’n gwasanaethu stad Lôn Trearddur a’r gymysgedd o wahanol fathau o eiddo ar y stad honno.

 

Dangoswyd y cynllun safle a gymeradwywyd i’r Aelodau; esboniwyd y newidiadau arfaethedig o ran dyluniad ac ail-leoli dau o’r anheddau fel rhan o’r cais presennol

6.

FPL/2022/172 - Fferm Eirianallt Goch Farm, Carmel, Llanerchymedd

Cofnodion:

Dangoswyd llun lloeren o safle’r cais a’r adeiladau perthnasol i’r Aelodau. Dangoswyd cyfres o fideos gyda Fideo 1 yn darparu golygfa o’r adeilad dan sylw o’r drychiadau blaen, ochr a chefn; roedd Fideo 2 yn gosod y cyd-destun, gan ddangos yr olygfa o’r iard a’r mynediad; roedd Fideo 3 yn dangos lluniau wrth deithio o’r mynediad i’r briffordd ac roedd Fideo 4 yn dangos yr annedd amaethyddol a ganiatawyd yn wreiddiol, ynghyd ag Erw Las, sef ail annedd amaethyddol a ganiatawyd ar y fferm. Roedd Fideo 5 yn dangos golygfa o’r fferm o’r briffordd.

 

Dangoswyd y cynllun safle hefyd ac roedd yn darparu manylion am y bwriad i drosi’r adeilad yn annedd. Cadarnhawyd fod safle’r cais wedi’i leoli oddi ar lôn y B5112 rhwng Llannerch-y-medd a Threfor.