Cofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2022/195 - CAIS LLAWN AR GYFER CODI TYRBIN GWYNT 13.5 METR O UCHDER, 5KW YM MHENDREF, LLANFAIRYNGHORNWY

Cofnodion:

Dangoswyd fideos o’r safle a lleoliad arfaethedig y tyrbin gwynt i Aelodau ynghyd â fideos o’r eiddo drws nesaf a’r uned wyliau a gymeradwywyd yn ddiweddar. Dangoswyd fideos hefyd o’r maes gwersylla cyfagos a’r llwybr troed a oedd yn pasio’r tyrbin gwynt arfaethedig. Mae’r maes gwersylla tua 120m i 135m o’r cais. Hysbyswyd Aelodau y byddai uchder y tyrbin gwynt yn 14.5m i dop y tyrbin. Codwyd cwestiynau am y lefelau sŵn arfaethedig a fyddai’n dod o’r tyrbin a gofynnwyd am gynnwys manylion yn adroddiad y Swyddog Achos.