Cofnodion

Ymweliadau Safle - Dydd Mercher, 23ain Hydref, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2024/76 - Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio’r cais i aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gwelwyd y safle o’r fynedfa arfaethedig newydd yn Y Garnedd, Llanfairpwll.

 

2.

FPL/2024/105 - Cais llawn i godi 30 o anheddau preswyl (100% o unedau tai fforddiadwy), newidiadau i'r fynedfa bresennol, creu mynedfa newydd a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Lleoliad: Tir i'r Gogledd-Ddwyrain o Gwêl y Llan, Llandegfan.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais i aelodau o’r Pwyllgor Cynllunbio a Gorchmynion. Gwelwyd safle’r cais o’r fynedfa arfaethedig newydd yn Gwêl y Llan ac o Gwêl Eryri (Mill End Estate), Llandegfan.