Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke 2514
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones ddiddordeb personol yn Eitem 4 ar y rhaglen, gan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr.
|
|
Cofnodion Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Panel Dethol a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2019 yn gywir.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 269 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf, ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
I gynnal cyfweliadau ar gyfer rôl Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses gyfweld ar gyfer yr ymgeiswyr ar y rhestr fer i’w penodi i’r pedair sedd wag ar gyfer aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.
Croesawodd y Cadeirydd bob un o’r ymgeiswyr i’r cyfarfod a chyflwynodd aelodau’r Panel. Rhoddodd drosolwg o’r rôl i bob ymgeisydd ac esboniodd y broses benodi.
Cafodd yr ymgeiswyr eu hystyried yn erbyn y meini prawf a nodwyd yn yr adroddiad, a chynhaliwyd cyfweliadau gan y Panel.
PENDERFYNWYD:-
• Bod y Panel yn dewis dim mwy na phedwar ymgeisydd i gael eu penodi’n aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. • Bod Cadeirydd y Panel yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor Llawn ar 10 Medi 2019, i gadarnhau penderfyniad y Panel Dethol i enwebu’r pedwar ymgeisydd llwyddiannus fel aelodau newydd ar y Pwyllgor Safonau. • Bod Cadeirydd y Panel yn argymell i’r Cyngor fod y pumed ymgeisydd yn cael ei benodi’n awtomatig i unrhyw swydd wag ar gyfer aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, petai achos o’r fath yn codi yn ystod y deuddeg mis nesaf. |