Rhaglen a chofnodion drafft

Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Safonau - Panel Dethol - Dydd Mawrth, 23ain Medi, 2025 3.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd Margaret M Roberts yn Gadeirydd ar gyfer y broses penodi.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Recriwtio Aelod Annibynnol Newydd i'r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, sy’n gofyn i’r Panel benderfynu ar y meini prawf dewisol wrth recriwtio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â’r uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y bydd tymor un o bump aelod annibynnol y Pwyllgor Safonau’n dod i ben ddiwedd y flwyddyn hon.  Dywedodd fod y Panel Dethol yn dilyn proses recriwtio er mwyn penodi aelod newydd i’r Pwyllgor Safonau am gyfnod o hyd at wyth mlynedd. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y broses penodi yn cynnwys tri cham, a’r cyntaf yw dewis y meini prawf perthnasol ar gyfer manyleb person y rôl.  Yn ail, cymeradwyo’r hysbyseb, y pecyn ymgeisio a’r trefniadau hysbysebu.  Yn drydydd, ystyried cwestiynau yr hoffai’r Panel eu gofyn yn ystod cyfweliadau.  Nodwyd y bydd y Panel yn cwrdd ar 21 Hydref 2025 i lunio rhestr fer, gyda chyfweliadau’n cychwyn 6 Tachwedd 2025.  Bydd y Panel Dethol yn cyflwyno ei argymhellion er mwyn cael cymeradwyaeth y Cyngor llawn fis Rhagfyr.

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro ar feini prawf deddfwriaethol (Atodiad 1), sy’n statudol ac yn cynnwys gofyniad sylfaenol bod rhaid i unrhyw ymgeisydd ei fodloni er mwyn cael ei ystyried.  Dywedodd y gellir hefyd rhoi meini prawf lleol, sy’n ofynion ychwanegol, ar waith (Atodiad 2), sy’n cynnwys sgiliau a all fod yn fanteisiol. 

 

Gwnaeth y Panel drafod yr opsiynau sydd ar gael a chytuno i ddefnyddio’r meini prawf statudol ar gyfer y rôl (fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad).

 

PENDERFYNWYD cytuno fod y Panel Dethol yn mabwysiadu gofynion y meini prawf deddfwriaethol ar gyfer recriwtio aelod annibynnol newydd i’r Pwyllgor Safonau.

4.

Cymeradwyo'r hysbyseb a'r gwaith papur ar gyfer recriwtio aelod Annibynnol newydd i'r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar yr hysbyseb papur newydd drafft a’r Ffurflen Gais arfaethedig ar gyfer y broses recriwtio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â’r uchod.

 

Nodwyd bod rhaid hysbysebu unrhyw swydd wag ar gyfer aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau mewn dau bapur newydd lleol.  Cyfeiriwyd at swydd wag yn 2023, lle rhoddwyd hysbysebion ar wefan y Cyngor, Twitter, Facebook, Bangor and Anglesey Mail a Daily Post.

 

Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar yr opsiynau sydd ar gael mewn perthynas â hysbysebu’r swydd wag a’r costau.  Cytunodd y Panel i osod hysbysiad mewn dau bapur newydd lleol, gan ddarparu dolen at y ffurflen gais a phapurau cefndirol, yn ogystal â hyrwyddo’r rôl ar wefan y Cyngor, Facebook, Twitter ac unrhyw lwyfan digidol priodol arall sydd ar gael i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Cymeradwyo’r hysbyseb drafft yn Atodiad 1 yr adroddiad.

  Derbyn y llythyr drafft ar gyfer ymgeiswyr yn Atodiad 2 yr adroddiad.

  Hysbysebu’r swydd wag mewn dau bapur newydd lleol, yn ogystal â

   gwefan y Cyngor, Facebook, Twitter ac unrhyw lwyfan digidol priodol

   arall sydd ar gael i’r Cyngor.

5.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 125 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod: -

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r

cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y

posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn

  Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

  “Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 12 oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

6.

Cwestiynau posib ar gyfer y cyfweliadau i benodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro sy’n gofyn i’r Panel ystyried cwestiynnau cyfweliad addas.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Gyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro yn gofyn i’r Panel Dethol ystyried a chytuno ar gwestiynau cyfweld addas ar gyfer yr ymgeiswyr ar y rhestr fer o’r meini prawf a fabwysiadwyd. 

 

Darparwyd rhestr o gwestiynau cyfweld yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Cytunodd y Panel fod y cwestiynau’n briodol ar gyfer y broses gyfweld heb unrhyw ddigwyddiadau. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Fod y Panel yn ystyried a chytuno ar y cwestiynau cyfweld ar gyfer

   ymgeiswyr posibl, fel y’u cyflwynwyd yn Atodiad 1, yn seiliedig ar y

   meini prawf a drafodwyd yn Eitem 3 a 4 yr agenda.

  Fod y Panel Dethol wedi cwrdd ar 21 Hydref 2025 i ystyried y ceisiadau

   a dderbyniwyd, ac i lunio rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld.