Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 23 Medi 2025.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Panel Dethol a gynhaliwyd ar 23 Medi 2025 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir. |
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod: -
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
|
Penodi Aelod Annibynnol i sedd wag ar y Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/ Swyddog Monitro i’r Panel Dethol er mwyn ystyried y trefniadau i benodi Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.
Adroddodd y Swyddog Monitro, yn dilyn cyfarfod y Panel Dethol ar 23 Medi 2025, bod y swydd wag ar gyfer Aelod Annibynnol wedi ei hysbysebu ar wefan y Cyngor, Twitter a Facebook, Bangor and Anglesey Mail a’r Daily Post, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5:00 pm ar 10 Hydref 2025.
Ystyriodd y Panel y ceisiadau a gafwyd yn erbyn y meini prawf gosod a gytunwyd ymlaen llaw ac a amlinellwyd yn yr adroddiad er mwyn llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer cael eu cyfweld.
PENDERFYNWYD: -
• Bod y Panel Dethol wedi ystyried pob cais (Atodiad 1 o’r adroddiad) ac wedi llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer eu cyfweld. • Bod y Panel Dethol yn cytuno ar bob elfen o’r broses gyfweld fel â ganlyn:-
• Y cwestiynau i’w gofyn; • Y matrics sgorio fel y nodir yn Atodiad 4 o’r adroddiad; • Sut y bydd y matrics sgorio yn gweithio; • Bod yr ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad ar ddyddiad ac amser i’w gadarnhau. • Gofyn am dystlythyrau cyn y cyfweliad gan bob ymgeisydd a roddir ar y rhestr fer (gyda chaniatâd pob ymgeisydd sydd ar y rhestr fer). |