Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2025. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Panel Dethol a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2025 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir. |
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
|
Penodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol: -
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses gyfweld ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer er mwyn penodi ar gyfer y sedd wag fel aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod y Panel Dethol wedi cwrdd ar 21 Hydref 2025 i lunio rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld.
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwyno’r Panel. Rhoddodd drosolwg o rôl y aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau ac egluro’r broses penodi i bob unigolyn.
Cafodd yr ymgeiswyr eu hystyried yn erbyn y meini prawf a amlinellwyd yn yr adroddiad, a chynhaliwyd y cyfweliadau gan y Panel.
Gan nad oedd modd i bob ymgeisydd ar y rhestr fer fynychu cyfarfod heddiw, cytunodd y Panel i gynnal cyfweliadau pellach ar gyfer yr ymgeiswyr hynny ar ddyddiad i gytuno arno.
PENDERFYNWYD fod y Panel Dethol yn cwrdd eto i gyfweld yr ymgeiswyr perthnasol a dod i benderfyniad ar benodi aelod annibynnol i’r Pwyllgor Safonau ar 13 Tachwedd 2025.
|