Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
|
Penodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busines y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar y broses gyfweld ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer er mwyn penodi ar gyfer y sedd wag fel aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.
Yn dilyn cyfarfod y Panel Dethol ar 21 Hydref 2025, lluniodd y Panel restr fer o ymgeiswyr ar gyfer eu cyfweld. Ystyriwyd yr ymgeiswyr yn erbyn y meini prawf a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Nodwyd fod y Panel wedi cynnal cyfweliadau ar gyfer yr ymgeiswyr ar y rhestr fer ar 6 Tachwedd. Roedd y Panel wedi cytuno dod at ei gilydd eto a chynnal cyfweliadau, fel rhan o gyfarfod heddiw, ar gyfer y rhai hynny nad oeddent yn gallu mynychu cyfweliadau ar y 6ed.
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwyno’r Panel. Rhoddodd drosolwg i’r unigolion o rôl aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau ac eglurodd y broses benodi.
Cynhaliodd y Panel gyfweliadau ac yna cynhaliwyd trafodaeth er mwyn gallu dod i benderfyniad ar benodiad.
PENDERFYNWYD: -
• Bod y Panel yn dewis un ymgeisydd i’w henwebu ar gyfer eu penodi ar y Pwyllgor Safonau. • Bod Cadeirydd y Panel yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor Llawn ar y cyfle cyntaf posibl gan enwebu’r ymgeisydd llwyddiannus (yn amodol ar dystlythyrau boddhaol). • Bod Cadeirydd y Panel yn argymell i’r Cyngor Llawn bod yr ymgeisydd sy’n dod yn ail yn y cyfweliadau (cyntaf wrth gefn) ac yn drydydd (ail wrth gefn) yn cael eu penodi yn awtomatig i unrhyw swydd wag sy’n codi ar gyfer aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau petai cyfle o’r fath yn codi o fewn deuddeg mis nesaf (yn amodol ar dystlythyrau boddhaol a chytundeb yr ymgeiswyr). |