Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 4 ar yr agenda. Nododd ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr gan ei fod wedi eistedd gydag ef fel aelod ar y Cyngor Iechyd Cymunedol. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2023. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol Panel Dethol y Pwyllgor Safonau, a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2023, fel cofnod cywir. |
|
Cau Allan y Was a'r Cyhoedd PDF 265 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Penodi Aelod Annibynnol i swydd wag ar y Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses ddethol ar gyfer penodi Aelod Annibynnol newydd ar y Pwyllgor Safonau.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn dilyn cyfarfod y Panel Dethol a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023 bod y swydd wag ar gyfer Aelod Annibynnol wedi’i hysbysebu ar wefan y Cyngor, Twitter, Facebook, y Bangor and Anglesey Mail ac yn y Daily Post. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau oedd 5:00pm ar 7 Gorffennaf 2023.
Ystyriodd y Panel y ceisiadau a dderbyniwyd yn erbyn y meini prawf gosod a oedd wedi’i gytuno arno ymlaen llaw fel y nodwyd yn yr adroddiad a hynny er mwyn llunio rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld.
Mewn perthynas â’r cwestiynau cyfweliad (Atodiad 4) fe gytunwyd y dylid rhoi Cwestiwn 7 cyn Cwestiwn 8 ar y daflen asesu cyfweliad.
PENDERFYNWYD:-
• Bod y Panel Dethol wedi ystyried pob cais (a oedd wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad) a lluniwyd rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld. • Cytunodd y Panel Dethol ar yr ohebiaeth arfaethedig i’w hafnon at yr ymgeiswyr a lwyddodd / na lwyddodd i dderbyn cyfweliad, fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad. • Trafododd y Panel Dethol y broses gyfweld a chadarnhawyd y cwestiynau a fyddai’n cael eu gofyn ynghyd â’r drefn, y sgorio a’r matrics sgorio fel y nodwyd yn Atodiad 4 o’r adroddiad. • Nodwyd mai’r cyfnod mewn perthynas â Chwestiwn 7 o Atodiad 4 yw 6 mis. • Penderfynwyd derbyn y llythyrau arfaethedig i’w hanfon at ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus yn dilyn y cyfweliadau fel y nodwyd yn Atodiadau 5.1 a 5.2. • Cytunodd y Panel y dylid gwahodd yr ymgeiswyr a oedd wedi eu rhoi ar y rhestr fer am gyfweliad ar ddyddiad ac amser i’w gadarnhau. • Cytunodd y Panel na fydd cais am eirda yn cael ei wneud tan ar ôl y broses ddethol. |