Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Committee Room 1, Council Offices, Llangefni / Zoom
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.
Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 ar yr agenda. Dywedodd ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr, gan ei fod wedi bod yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned gydag ef.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2023. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2023 yn gywir.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 116 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
I gynnal cyfweliadau ar gyfer Rôl Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses gyfweld ar gyfer yr ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer y swydd wag Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau.
Croesawodd y Cadeirydd bob ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwynodd y Panel. Rhoddodd drosolwg o’r rôl Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i bob ymgeisydd ac eglurodd y broses benodi.
Ystyriwyd yr ymgeiswyr yn erbyn y meini prawf yn yr adroddiad, a chynhaliwyd cyfweliadau gan y Panel.
Gan fod un o’r ymgeiswyr a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer methu â bod yn bresennol am resymau personol, trafododd a chytunodd y Panel i gyfweld yr ymgeisydd ryw bryd eto.
PENDERFYNWYD y bydd y Panel Dethol yn cyfarfod eto i gyfweld yr ymgeisydd dan sylw ac i benodi aelod annibynnol i’r Pwyllgor Safonau. Dyddiad ac amser i’w gadarnhau. |