Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Committee Room 1 / Zoom
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol yn Eitem 4 ar agenda. Bu ddatgan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr wedi iddo gyd-eistedd af ar y Cyngor Iechyd Cymunedol. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023.
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 116 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
I gynnal cyfweliadau ar gyfer Rôl Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses gyfweld ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer i’w penodi i’r sedd wag fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau.
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod blaenorol am resymau personol. Cyflwynodd y Cadeirydd Aelodau’r Panel a rhoddodd drosolwg i’r ymgeisydd o rôl aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau ac eglurodd y broses benodi.
Ystyriwyd yr ymgeisydd yn erbyn y meini prawf a amlinellwyd yn yr adroddiad a chynhaliwyd y cyfweliad gan y Panel.
Cafodd yr ymgeiswyr a fynychodd y cyfarfod blaenorol a’r ymgeisydd yn y cyfarfod hwn eu hystyried yn erbyn y meini prawf a PENDERFYNWYD:-
• Bod y Panel yn dewis un ymgeisydd i’w henwebu gan y Panel ar gyfer eu penodi i’r Pwyllgor Safonau; • Gofyn am eirda ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus; • Bod Cadeirydd y Panel yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor llawn, ar y cyfle rhesymol cyntaf, yn enwebu’r ymgeisydd llwyddiannus (yn amodol ar eirdaon llwyddiannus); • Bod Cadeirydd y Panel yn argymell i’r Cyngor llawn, bod yr ar ail ymgeisydd ar y rhestr fer (‘yr ail ddewis’) a’r trydydd ar y rhestr fer (‘y trydydd dewis’) yn cael eu penodi yn awtomatig i unrhyw swyddi gwag pellach a allai godi fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau petai achos o’r fath yn codi yn ystod y deuddeg mis nesaf (yn amodol ar eirdaon boddhaol a chytundeb yr ymgeiswyr). |