Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Safonau - Panel Dethol - Dydd Mawrth, 25ain Gorffennaf, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 4 ar yr agenda. Nododd ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr gan ei fod wedi eistedd gydag ef fel aelod ar y Cyngor Iechyd Cymunedol.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 107 KB

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 

  6 Mehefin 2023.     

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol Panel Dethol y Pwyllgor Safonau, a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2023, fel cofnod cywir.  

3.

Cau Allan y Was a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 265 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Penodi Aelod Annibynnol i swydd wag ar y Pwyllgor Safonau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses ddethol ar gyfer penodi Aelod Annibynnol newydd ar y Pwyllgor Safonau.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn dilyn cyfarfod y Panel Dethol a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023 bod y swydd wag ar gyfer  Aelod Annibynnol wedi’i hysbysebu ar wefan y Cyngor, Twitter, Facebook, y Bangor and Anglesey Mail ac yn y Daily Post. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau oedd 5:00pm ar 7 Gorffennaf 2023.  

 

Ystyriodd y Panel y ceisiadau a dderbyniwyd yn erbyn y meini prawf gosod a oedd wedi’i gytuno arno ymlaen llaw fel y nodwyd yn yr adroddiad a hynny er mwyn llunio rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld.

 

Mewn perthynas â’r cwestiynau cyfweliad (Atodiad 4) fe gytunwyd y dylid rhoi Cwestiwn 7 cyn Cwestiwn 8 ar y daflen asesu cyfweliad.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Panel Dethol wedi ystyried pob cais (a oedd wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad) a lluniwyd rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld.

  Cytunodd y Panel Dethol ar yr ohebiaeth arfaethedig i’w hafnon at yr ymgeiswyr a lwyddodd / na lwyddodd i dderbyn cyfweliad, fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

  Trafododd y Panel Dethol y broses gyfweld a chadarnhawyd y cwestiynau a fyddai’n cael eu gofyn ynghyd â’r drefn, y sgorio a’r matrics sgorio fel y nodwyd yn Atodiad 4 o’r adroddiad. 

  Nodwyd mai’r cyfnod mewn perthynas â Chwestiwn 7 o Atodiad 4 yw 6 mis.

  Penderfynwyd derbyn y llythyrau arfaethedig i’w hanfon at ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus yn dilyn y cyfweliadau fel y nodwyd yn Atodiadau 5.1 a 5.2. 

  Cytunodd y Panel y dylid gwahodd yr ymgeiswyr a oedd wedi eu rhoi ar y rhestr fer am gyfweliad ar ddyddiad ac amser i’w gadarnhau.

  Cytunodd y Panel na fydd cais am eirda yn cael ei wneud tan ar ôl y broses ddethol.