Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Safonau - Panel Dethol - Dydd Mawrth, 26ain Medi, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Committee Room 1, Council Offices, Llangefni / Zoom

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas

ag Eitem 4 ar yr agenda.  Dywedodd ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr,

gan ei fod wedi bod yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned gydag ef.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2023.               

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2023 yn gywir.

 

3.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 116 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

I gynnal cyfweliadau ar gyfer Rôl Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses gyfweld ar gyfer yr ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer y swydd wag Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau. 

 

Croesawodd y Cadeirydd bob ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwynodd y Panel. Rhoddodd drosolwg o’r rôl Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i bob ymgeisydd ac eglurodd y broses benodi. 

    

Ystyriwyd yr ymgeiswyr yn erbyn y meini prawf yn yr adroddiad, a chynhaliwyd cyfweliadau gan y Panel.

 

Gan fod un o’r ymgeiswyr a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer methu â bod yn bresennol am resymau personol, trafododd a chytunodd y Panel i gyfweld yr ymgeisydd ryw bryd eto.

 

PENDERFYNWYD y bydd y Panel Dethol yn cyfarfod eto i gyfweld yr ymgeisydd dan sylw ac i benodi aelod annibynnol i’r Pwyllgor Safonau. Dyddiad ac amser i’w gadarnhau.