Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Safonau - Panel Dethol - Dydd Mawrth, 3ydd Hydref, 2023 2.45 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Committee Room 1 / Zoom

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol yn Eitem 4 ar agenda. Bu ddatgan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr wedi iddo gyd-eistedd af ar y Cyngor Iechyd Cymunedol.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 88 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2023 fel cofnod cywir. 

3.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 116 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

I gynnal cyfweliadau ar gyfer Rôl Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses gyfweld ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer i’w penodi i’r sedd wag fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod blaenorol am resymau personol. Cyflwynodd y Cadeirydd Aelodau’r Panel a rhoddodd drosolwg i’r ymgeisydd o rôl aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau ac eglurodd y broses benodi.

 

Ystyriwyd yr ymgeisydd yn erbyn y meini prawf a amlinellwyd yn yr adroddiad a chynhaliwyd y cyfweliad gan y Panel.

 

Cafodd yr ymgeiswyr a fynychodd y cyfarfod blaenorol a’r ymgeisydd yn y cyfarfod hwn eu hystyried yn erbyn y meini prawf a PENDERFYNWYD:- 

 

  Bod y Panel yn dewis un ymgeisydd i’w henwebu gan y Panel ar gyfer eu penodi i’r Pwyllgor Safonau;

  Gofyn am eirda ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus;

  Bod Cadeirydd y Panel yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor llawn, ar y cyfle rhesymol cyntaf, yn enwebu’r ymgeisydd llwyddiannus (yn amodol ar eirdaon llwyddiannus);

  Bod Cadeirydd y Panel yn argymell i’r Cyngor llawn, bod yr ar ail ymgeisydd ar y rhestr fer (‘yr ail ddewis’) a’r trydydd ar y rhestr fer (‘y trydydd dewis’) yn cael eu penodi yn awtomatig i unrhyw swyddi gwag pellach a allai godi fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau petai achos o’r fath yn codi yn ystod y deuddeg mis nesaf (yn amodol ar eirdaon boddhaol a chytundeb yr ymgeiswyr).