Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Polisi Cynllunio - Dydd Iau, 18fed Gorffennaf, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddorddeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 155 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2024.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd 22 Mai 2024, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Canlyniad y broses ymgynghori cyhoeddus ar ddrafft Cytundeb Cyflawni'r Cynllun Datblygu Lleol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio mai diben y Cytundeb Cyflawni yw amlinellu’r amserlen ar gyfer y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn, yn ogystal ag egluro sut fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymgysylltu gyda’r gymuned yn ystod cyfnodau gwahanol o baratoi’r cynllun. Dywedodd y bydd gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid wrth baratoi’r Cynllun.

 

Ar 22 Mai 2024, cytunodd y Pwyllgor Polisi Cynllunio y byddai swyddogion yn cwblhau cyfnod ymgynghori o chwe wythnos ar y Cytundeb Cyflawni, rhwng 23 Mai a 4 Gorffennaf 2024. Nodwyd bod mesurau helaeth wedi’u rhoi ar waith yn ystod y cyfnod ymgynghori i hyrwyddo’r Cytundeb Drafft, gan gynnwys cyflwyno negeseuon ar wefan y Cyngor ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a darparu copïau o ddogfen yr ymgynghoriad mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ac ym Mhencadlys y Cyngor Sir a Chanolfan Busnes Llangefni.

 

Nodwyd bod 85 o ymatebion wedi’u cyflwyno mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar y Cytundeb Drafft drwy’r holiadur ar-lein - 34 heb unrhyw sylw; 35 gydag ychydig o sylwadau, gydag 8 wedi ymateb yn llawn. Derbyniwyd 8 ymateb drwy negeseuon e-bost. Ni dderbyniwyd unrhyw ymateb drwy’r copïau caled a adawyd mewn llyfrgelloedd ac yn swyddfeydd y Cyngor. Roedd natur yr ymatebion yn cyfeirio at y ffaith bod yr amserlen yn rhy hir; diffyg adnoddau; bod y ddogfen yn rhy hir a chymhleth. Ar ôl dadansoddi’r adborth o’r ymgynghoriad, mae mân addasiadau wedi’u gwneud i’r Cytundeb Cyflawni, ac mae’r rhestr gylchredeg wedi’i diweddaru.

 

Mynegwyd pryderon bod yr ymateb i’r ymgynghoriad wedi bod yn siomedig, yn enwedig mewn llyfrgelloedd. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod posteri wedi’u gosod yn y llyfrgelloedd er mwyn annog y cyhoedd i gymryd rhan. Roedd tri chopi Cymraeg a thri chopi Saesneg o’r Cytundeb Cyflawni drafft a’r Asesiad Cydraddoldeb, ynghyd â 50 copi Cymraeg a 50 copi Saesneg o’r holiadur ar gael ym Mhencadlys y Cyngor Sir ac wrth dderbynfa Canolfan Fusnes Llangefni, ac roedd dau gopi Cymraeg a dau gopi Saesneg o’r Cytundeb Drafft wedi’u dosbarthu ym mhob llyfrgell yn ogystal â 50 copi o’r holiadur yn y ddwy iaith.

 

Codwyd cwestiwn ynghylch yr hyn a ddysgwyd o’r broses ymgynghori hon mewn perthynas ag ymgysylltu gyda’r cyhoedd. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y bydd mwy o sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yn y dyfodol wrth ymgysylltu â phreswylwyr ar y camau nesaf o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn: -

 

·       Ystyried y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad chwe wythnos cyhoeddus ac ymateb yr Awdurdod Cynllun Lleol i’r ymatebion hynny (Atodiad A); a

·       Cymeradwyo drafft terfynol y Cytundeb Cyflawni (Atodiad B) ac yn cefnogi ei gyflwyno am gymeradwyaeth lawn gan y Cyngor Llawn ym mis Medi 2024.