Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Polisi Cynllunio - Dydd Mercher, 14eg Mai, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Is-gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Ken Taylor yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Hydref, 2024.  

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2025 yn gywir.

 

 

5.

Papur Materion Allweddol, Gweledigaeth ac Amcanion pdf eicon PDF 128 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi Cynllunio mai prif bwrpas yr adroddiad yw nodi’r materion allweddol, heriau a chyfleoedd sy’n wynebu Ynys Môn yn ystod cyfnod y Cynllun; y weledigaeth ar gyfer yr Ynys dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol newydd a’r amcanion ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd a fydd yn helpu i wireddu’r weledigaeth.   Nododd bod Atodiad 1 wedi cael ei rannu ag aelodau’r Pwyllgor Polisi Cynllunio eisoes a’u bod wedi cael cyfle i daro golwg ar y ddogfen. Hyd yma, nid chafwyd unrhyw ymateb i’r ddogfen.  Mae’r ddogfen yn nodi 17 mater allweddol sy’n wynebu’r Ynys. Maent yn ymwneud â phob math o fuddiannau. Mae amcanion clir a realistig wedi cael eu llunio i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i gyfrannu at weledigaeth newydd y Cynllun Datblygu Lleol.   Mae’r weledigaeth fel a ganlyn:-

 

‘Erbyn 2039, bydd Ynys Môn yn ynys o gymunedau bywiog, dwyieithog ac ymgysylltiol ble mae pobl yn dewis byw, gweithio ac ymweld, ac wedi ymrwymo i gydnerthedd ei heconomi, ei diwylliant, ei threftadaeth, ei hamgylchedd a’i hadnoddau naturiol ac iechyd a lles.’

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylai Cynllun Datblygu Lleol ganolbwyntio ar yr elfen ‘leol’, ac y dylai’r Cynllun fynd i’r afael ag anghenion lleol.   Holodd p’un a fydd Llywodraeth Cymru’n dylanwadu ar y broses er mwyn cynhyrchu Cynllun na fydd yn diwallu anghenion lleol.   Nododd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam oedd y Cyngor Olaf i fabwysiadu eu Cynllun Datblygu Lleol gan eu bod wedi herio Llywodraeth Cymru oherwydd bod y Cyngor o’r farn bod yr asesiad o’r farchnad dai leol yn tanseilio democratiaeth.   Ymatebodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod rhaid cydymffurfio â’r Polisi Cynllunio Cenedlaethol.  Nododd bod polisïau cynllunio yn ymateb i amgylchiadau lleol ond bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â pholisïau rhanbarthol a chenedlaethol.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod casglu gwybodaeth ynglŷn ag anghenion lleol yn bwysig i’r Awdurdod a bod y cynllun lleol yn cyfrannu at y cynlluniau Cenedlaethol.  

 

Roedd y Cynghorydd Ken Taylor yn dymuno cael gwybod pe byddai’r broses o greu’r Cynllun Datblygu Lleol yn newid pe byddai llywodraeth newydd yn y Senedd yn dilyn yr etholiadau fis Mai nesaf.    Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod ansicrwydd, ond bod y ddogfen Polisi Cynllunio Cymru wedi cael ei mabwysiadu'r llynedd ac felly mae’n annhebygol y bydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud iddi’n syth.    

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r papur Materion Allweddol, Gweledigaeth ac Amcanion fel sail i baratoi’r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd Ynys Môn.

 

6.

Diweddariad ar y broses Galw am Safleoedd - er gwybodaeth yn unig pdf eicon PDF 133 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, er gwybodaeth yn unig.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar gadarnhau lansiad y broses i alw am safleoedd, amlinellu cwmpas y cyfnod amser perthnasol a’r camau nesaf wedi i’r cyfnod o alw am safleoedd ddod i ben.   Nododd bod y cyfnod galw am safleoedd yn para chwe wythnos ac y bydd yn cychwyn ar y 12fed o Fai hyd at y 23ain o Fehefin, 2025.   Bydd yn gwahodd tirfeddianwyr i gynnig safleoedd i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer eu datblygu yn y dyfodol neu i’w diogelu rhag eu datblygu fel yr angen.  Bydd y safleoedd sy’n cael eu cynnig yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf penodol er mwyn gweld a ydynt yn addas i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.  Bydd Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei chadw a bydd y gofrestr yn cynnwys pob safle hyd yn oed y rhai na fydd yn cael eu hystyried yn safleoedd datblygu posib i’w cynnwys yn y Cynllun.    Bydd rhaid profi dichonoldeb a chyflawnadwyedd pob safle posib.   O’r herwydd, bydd rhaid i gynigwyr ddarparu asesiadau dichonoldeb pan fydd safleoedd yn cael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.  Bydd y safleoedd a gynigir yn dilyn proses hidlo dau-gam mewn ymgynghoriad â’r Awdurdod Lleol a chyrff penodol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a’r Bwrdd Iechyd yn ystod cam 2.   Bydd hyn yn sicrhau bod ymgyngoreion yn gwneud sylwadau ar safleoedd sydd â’r photensial i gael eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.   Yn ystod y broses strategaeth a ffefrir a’r broses adneuo bydd cyfle i’r holl randdeiliaid gael dweud eu dweud ar y safleoedd arfaethedig a gwneud cais i ddiwygio ffiniau neu gynnig dileu neu ychwanegu safleoedd newydd. 

 

Roedd yr Aelodau’n dymuno diolch i staff yr Uned Polisi Cynllunio am eu gwaith ac annog pobl i gyflwyno safleoedd datblygu o fewn yr amserlen. 

 

Roedd y Cynghorydd Ken Taylor yn dymuno cael gwybod p’un a oes ffigwr penodol ar gyfer y safleoedd ymgeisiol a p’un a fydd y broses ymgynghori’n cael ei hymestyn.   Ymatebodd y Rheolwr Polisi Cynllunio nad oes ffigwr penodol ar gyfer safleoedd datblygu posib, ond rhagwelir y bydd nifer ddigonol o safleoedd yn cael eu cynnig ar Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad er gwybodaeth.