Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Polisi Cynllunio - Dydd Mercher, 11eg Mehefin, 2025 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Ieuan Williams ei ail-ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

 

2.

Ethol Is-gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Ken Taylor ei ail-ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

 

 

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 158 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2025.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2025 yn gywir.

 

5.

Adroddiadau Cwmpasu Arfarniad Cynhaliadwyedd Intgredi (ISA) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) pdf eicon PDF 166 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas a Adroddiadau Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas ag Adroddiadau Cwmpasu’r Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod y gofynion statudol sy'n ymwneud ag ISA ac HRA sy'n berthnasol i'r Cynllun Datblygu Lleol yn cyfeirio at asesu effeithiau dewisiadau gofodol a pholisi ynghyd â'r prosesau statudol ar gyfer ISA ac HRA.  Mae'r adroddiadau cwmpasu yn darparu sylfaen ar gyfer asesu effeithiau posibl dewisiadau polisi sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.  O ystyried eu cynnwys technegol ac arbenigol, mae ymgynghori ag ymgyngoreion statudol (h.y. Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW) yn orfodol er mwyn sicrhau y bydd cwmpas yr asesiadau yn mynd i'r afael yn ddigonol ag effeithiau posibl dewisiadau polisi.  Fodd bynnag, yn ôl arfer gorau dylid ymgynghori ag ymgyngoreion cyffredinol a'r cyhoedd yn ehangach i sicrhau bod y gymuned a rhanddeiliaid yn cyfrannu i bob cam o'r broses o baratoi'r cynllun.  Nododd ymhellach y bydd proses ymgynghori o 5 wythnos yn cael ei chynnal ar y ddwy ddogfen yn unol â'r gofynion statudol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Ifan Jones a oes angen ymgynghori â'r Pwyllgor Cadwraeth Natur Alltraeth.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio mai cyfrifoldeb cyrff statudol eraill yw deddfwriaeth alltraeth. Nododd mai Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW yw'r ymgynghoreion statudol o fewn Llawlyfr y Cynllun Datblygu Lleol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Pip O’Neill ei fod yn derbyn mai Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW yw’r ymgynghoreion statudol, ond gofynnodd a yw barn y cyhoedd ehangach yn cael ei hystyried yn ystod y broses ymgynghori.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y byddai pob ymateb a dderbynnir yn ystod y broses ymgynghori yn cael ei ystyried.  Nododd y bydd adroddiad yn cael ei baratoi yn dilyn y broses ymgynghori 5 wythnos a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r holl ymatebion a dderbynnir. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kenneth Hughes a fyddai’r holl ymatebion a dderbynnir yn cael eu hystyried a’u nodi neu a fyddai sylwadau’n cael eu gwneud nad ydynt yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y byddai pob sylw yn cael ei restru ac yn derbyn ymateb. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y dylid ystyried Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yn rhaid i bob Awdurdod ymateb i'w Cynllun Datblygu Lleol penodol yn unol â chanllawiau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Derbyn yr adroddiadau cwmpas ISA a HRA, a

·      I gydnabod y gofynion ymgynghori statudol a chytuno i ymgynghori ar y ddwy ddogfen dros gyfnod o 5 wythnos yn unol â gofynion statudol a chyngor arfer gorau.

 

6.

Cynllun Datblygu ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd - Diweddariad ar baratoi'r Adroddiad Monitro Blynyddol pdf eicon PDF 139 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, er gwybodaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod Is-adran 76 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol gynhyrchu Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer eu Cynllun Datblygu Lleol.  Y cynllun datblygu cyfredol sy'n weithredol ar Ynys Môn yw Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd sy'n weithredol o 2017 i 2026.  Mae'r Tîm Polisi Cynllunio wedi cynnal cyfres o ymweliadau safle i ganfod nifer yr unedau a oedd naill ai wedi'u cychwyn, yn cael eu hadeiladu neu wedi'u cwblhau, sy'n sail dystiolaeth bwysig i'w chynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Ar ôl i'r data gael ei fewnbynnu, ei echdynnu a'i ddadansoddi, gellir llunio'r adroddiad ffurfiol i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i adrodd i'r Pwyllgor Polisi Cynllunio cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

PENDERYFNWYD nodi’r adroddiad ac y bydd Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor er mwyn darparu cymeradwyaeth ffurfiol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, 2025.