Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Polisi Cynllunio - Dydd Mercher, 10fed Medi, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 162 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Mehefin, 2025.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2025 yn gywir.

 

3.

Trosolwg o ganlyniadau broses Galw am Safleoedd pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio fod y broses Galw am Safleoedd wedi agor ar 12 Mai 2025, am gyfnod cychwynnol o chwe wythnos, a daeth i ben ar 23 Mehefin 2025.  Oherwydd bod nifer cymharol fychan o safleoedd wedi’u cyflwyno yn ystod y broses gychwynnol, cafodd y cyfnod ei ymestyn am chwe wythnos arall, tan 4 Awst 2025.  Cyflwynwyd cyfanswm o 280 safle ar gyfer ystod eang o ddefnyddiau arfaethedig, gan gynnwys safleoedd tai, cyflogaeth/manwerthu ac ynni adnewyddadwy. Cyflwynwyd 85% o’r safleoedd trwy borth cyflwyno ar-lein y Cyngor; cyflwynwyd 10% ar e-bost a 5% ar bapur.  Mae’r Galwad am Safleoedd wedi cau’n ffurfiol bellach a bydd unrhyw safleoedd a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu cadw mewn ffolder cyflwyniadau hwyr. Ni fydd y cyflwyniadau hwyr yn cael eu hystyried fel rhan arferol o broses y Cynllun, ond os na fydd digon o safleoedd priodol ar ôl cwblhau’r prosesau dilysu ac asesu, gallai’r safleoedd gael eu hystyried fel modd o wneud yn iawn am unrhyw ddiffygion. Nododd hefyd fod y safleoedd a gyflwynwyd ar amser yn cael eu dilysu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau eu bod yn gyflawn a’u bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyflwyno. Cyhoeddir Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol drafft a bydd canlyniadau’r ymarfer hidlo cychwynnol yn cael eu cyflwyno i’r cyfarfod ym mis Rhagfyr 2025, cyn cyhoeddi’r wybodaeth ar wefan y Cyngor. Bydd y gofrestr yn darparu rhestr gynhwysfawr o’r holl safleoedd a gyflwynwyd. Ar ôl dilysu’r Safleoedd Ymgeisiol, a chwblhau proses hidlo gychwynnol, cynhelir dadansoddiad o’r bylchau er mwyn nodi unrhyw feysydd o brinder yn y gofrestr sy’n esblygu. Bydd hyn yn asesu p’un a nodwyd tir digonol a phriodol er mwyn cyflawni amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol. Os bydd unrhyw fylchau’n cael eu nodi, gall y Cyngor gymryd camau pellach, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid penodol, ailystyried y safleoedd a hidlwyd (yn amodol ar dystiolaeth newydd), neu wneud galwadau pellach am safleoedd er mwyn mynd i’r afael ag anghenion penodol. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

4.

Crynodeb ymgynghoriad: Adroddiadau Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) pdf eicon PDF 143 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi Cynllunio at y gofyn statudol i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o lunio’r cynllun datblygu a’r angen i gynnal Arfarniadau Cynaliadwyedd ac Asesiadau Amgylcheddol Strategol o’r Cynlluniau Datblygu Lleol. Nodir y gofynion hyn yn adran 39 (2) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2024 a Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol Strategol 5 (2) a 5 (4), yn y drefn honno. Mae’r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn argymell dull integredig ar gyfer y gofynion hyn trwy gynnal Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig oherwydd ei fod yn darparu asesiad mwy tryloyw, cyfannol a chyflawn o oblygiadau cynaliadwyedd opsiynau twf, amcanion, polisïau a chynigion. Mae’r Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn gosod cyd-destun a phenderfynu ar gwmpas yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r Cynllun Datblygu Lleol ac mae’n nodi’r fframwaith ar gyfer cyflawni camau diweddarach yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig.  Mae’r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu’n cynghori y dylid ymgynghori ar yr Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig gydag awdurdodau statudol (CNC a CADW) dros gyfnod o 5 wythnos, ond ystyrir mai’r arfer orau fyddai sicrhau bod yr adroddiad cwmpasu ar gael i’r cyhoedd hefyd. Fel y cyfryw, roedd y Cytundeb Cyflawni yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi’r Adroddiad Cwmpasu er mwyn ymgynghori arno gyda’r cyhoedd.  Yn ei ymateb, roedd CNC yn gwneud sylwadau am risg llifogydd, safleoedd gwarchodedig, ansawdd dŵr a thirweddau dynodedig ac roedd ymateb CADW yn nodi nad oedd rhai dogfennau yn gysylltiedig â’r amgylchedd hanesyddol wedi cael eu cynnwys, yn ogystal â chyfeirio at y sefyllfa ddeddfwriaethol ddiweddaraf a’r angen i ddarparu meini prawf asesu priodol er mwyn asesu tirweddau hanesyddol o safbwynt eu gwarchod a’u gwella. Yn ychwanegol i’r ymgyngoreion statudol, roedd ymateb Heneb yn cynnwys sylwadau ynglŷn â newidiadau deddfwriaethol, ac roedd yn nodi nad oedd nodwedd bwysig wedi’i chynnwys, sef Safle Treftadaeth y Byd Biwmares, ac roedd yn awgrymu newid rhai adrannau o’r adroddiad cwmpasu er mwyn adlewyrchu cyd-destun Cymreig y pwnc yn fwy cywir. Roedd copïau o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad. 

 

Nododd y Rheolwr Polisi Cynllunio hefyd ei bod yn ofynnol i gynlluniau datblygu fod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae hyn yn cael ei gadarnhau yn y diwygiadau i Reoliadau Cynefinoedd 2007; a’r fersiwn berthnasol gyfredol yw Rheoliadau Cynefinoedd 2017, fel y’i diwygiwyd. O ystyried cynnwys a natur dechnegol yr Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd, ymgynghorwyd â CNC yn unig ar yr Adroddiad Cwmpasu. Ymatebodd CNC i’r ymgynghoriad mewn llythyr dyddiedig 22 Awst (oedd ynghlwm i’r adroddiad), ac roedd yn datgan eu bod yn cytuno fod y dull arfaethedig ar gyfer cynnal yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn rhesymol a bod y safleoedd a’r materion sensitifrwydd cywir wedi eu nodi yn y rhan fwyaf o achosion, ond cyflwynwyd gwybodaeth bellach sydd angen ei ystyried ymhellach cyn paratoi adroddiad sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, a chynnal asesiad priodol ble bydd angen. 

 

Ychwanegodd fod yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Adroddiadau Cwmpasu Asesiad Cynaliadwyedd Integredig a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cefnogi’r dull  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Monitro Blynyddol Drafft 2024/2025 pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol Drafft 2024/2025.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Monitro Blynyddol 2024/2025.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio ei bod yn ofynnol monitro Cynlluniau Datblygu Lleol yn flynyddol a rhaid cyflwyno adroddiad sy’n crynhoi’r monitro hwnnw i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno drafft o’r seithfed Adroddiad Monitro Blynyddol, sydd yn adrodd ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn darparu sylfaen dystiolaeth bwysig ar gyfer adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, a gyda threigl amser gall yr Adroddiadau Monitro Blynyddol amlygu tueddiadau, cadarnhau pa bolisïau sy’n cyflawni, neu ddim, ac amlygu p’un a oes unrhyw fylchau mewn polisïau. Roedd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhestru’r prif ganfyddiadau a nodir yn yr adroddiad. Dengys y prif ganfyddiadau fod mwy o dai wedi’u cwblhau yn ystod y cyfnod nag mewn blynyddoedd a fu, ond mae cyfanswm cyffredinol y tai a gwblhawyd yn parhau i fod yn is na’r ffigyrau targed a nodir yn y Cynllun. Ychwanegodd fod llai o unedau preswyl wedi cael eu hadeiladu na’r targed yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ac efallai bod hynny oherwydd nad oes gorsaf bŵer yn cael ei datblygu yn Wylfa ar hyn o bryd. O ran arallgyfeirio’r economi wledig, mae’r polisïau'n hwyluso sefydlu amrywiaeth o fusnesau bach. Wrth ystyried yr apeliadau cynllunio, ymddengys bod y polisïau'n perfformio’n dda, ac mae bron i 70% o apeliadau’n cael eu gwrthod. Eleni, mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn adrodd ar y data ar gyfer Ynys Môn yn unig, gan fod y trefniadau cydweithio ar faterion polisi cynllunio gyda Chyngor Gwynedd wedi eu dirwyn i ben ym mis Ebrill 2023. Mae’n dilyn yr un ffurf ag adroddiadau blaenorol ac mae’n dogfennu perfformiad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd mewn perthynas ag Ynys Môn.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans pa ganran o apeliadau cynllunio a wrthodwyd ac a ganiatawyd, gan fod yr adroddiad yn amlygu fod 1 ym mhob 3 apêl wedi cael eu caniatáu.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio ei bod yn anodd gwneud sylw ar yr apeliadau a ganiatawyd heb wybod manylion y datblygiadau arfaethedig hynny. Nodwyd fod penderfyniadau ar apeliadau cynllunio’n cael eu rhannu gydag Aelodau Etholedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod pob cais cynllunio’n cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, a phan fydd apêl yn cael ei ganiatáu mae Swyddogion Cynllunio’n edrych yn ofalus ar benderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jackie Lewis pam nad yw deiliadaeth tai fforddiadwy yn cael ei fonitro yn yr Adroddiad Monitro.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr Adroddiad Monitro yn adrodd ar y math o unedau, yn hytrach na’r math o ddeiliadaeth. Fodd bynnag, roedd yn cytuno y dylai’r math o ddeiliadaeth mewn perthynas â thai fforddiadwy gael ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd, h.y. eiddo rhannu ecwiti neu eiddo rhent. 

 

Nododd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod rhaid i Gyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru gyhoeddi Cynllun Rhanbarthol erbyn 2030. Gofynnodd a fydd Cynllun Rhanbarthol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.