Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Pwyllgor Polisi Cynllunio - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni a drwy ZOOM
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion:
Fel nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion:
Heb dderbyn unrhyw ddatganiad. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gafwyd ar 12 Gorffennaf, 2023. Cofnodion:
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2023 yn gywir. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr Adroddiad Monitro Blynyddol; y Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor hwn; Recriwtio Tîm Polisi Cynllunio newydd; Cytundeb Darparu a Chynllun Cyfraniad Cymunedol; Erthygl 4 a Hyfforddiant ar gyfer Aelodau.
• Adroddiad Monitro Blynyddol
Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod rhaid monitro’r Cynllun Datblygu Lleol yn flynyddol, a rhaid ei gyflwyno i‘r Swyddfa Gymreig erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Mae’r 2 Adroddiad Monitro Blynyddol wedi’i baratoi gan Swyddogion yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd blaenorol, a oedd yn cael eu cyflogi gan Gyngor Gwynedd, gan gofio fod trefniadau cydweithio ar waith yn ystod y cyfnod monitro hwnnw. Atodwyd copi o’r adroddiad yn Atodiad 1. Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhestru’r 15 canfyddiad allweddol fel yr amlygir yn yr adroddiad ar gyfer y Pwyllgor. Bydd y wybodaeth sydd wedi’i chyflwyno yn yr adroddiad yn dystiolaeth ddefnyddiol ar gyfer datblygu polisïau yn y dyfodol, yn enwedig yng nghyd-destun paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn, fydd yn adlewyrchu anghenion yr Ynys o safbwyntiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.
PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol.
• Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Polisi Cynllunio
Amlygwyd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Polisi Cynllunio yn Atodiad 2 yr adroddiad. Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn cwrdd yn fisol. O ran adroddiadau y mae’n rhaid eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith, bydd adborth a safbwynt y Pwyllgor yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau o’r fath.
PENDERFYNWYD derbyn Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Polisi Cynllunio.
• Recriwtio Tîm Polisi Cynllunio Newydd
Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod pecynnau recriwtio newydd wedi cael eu paratoi gyda’r bwriad o annog mwy o ddiddordeb yn y swyddi gwag o fewn y Tîm Polisi Cynllunio. Cafodd y 4 swydd eu hysbysebu ar 22 Medi, 2023, gyda’r dyddiad cau ar 9 Hydref 2023. Nododd fod y broses wedi bod yn llwyddiannus gyda nifer o unigolion yn ymgeisio ar gyfer y swyddi; bydd cyfweliadau ar gyfer y 4 swydd yn cael eu cynnal yn fuan.
PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar recriwtio Tîm Polisi Cynllunio newydd.
• Cytundeb Darparu a Chynllun Cyfraniad Cymunedol
Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y bydd y cyfnodau paratoi ar gyfer cwblhau’r Cynllun Datblygu Lleol yn dibynnu ar amserlen rymus ar gyfer y camau sydd angen eu cwblhau yn ôl Cytundeb Darparu ffurfiol, y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r Cyngor llawn gytuno arno. Bydd angen dilyn Strategaeth Cyfraniad Cymunedol fydd yn rhoi cyfle i gymunedau lleol, perchnogion tir, datblygwyr, busnesau, ymgynghorwyr statudol a rhanddeiliaid sydd wedi dangos diddordeb i gynorthwyo a chyfrannu’n effeithiol at lunio Cynllun Datblygu Lleol. Bydd ymgynghori gyda Swyddogion perthnasol yn y Cyngor yn allweddol drwy gydol y cyfnod paratoi, a bwriad hyn yw sefydlu Grŵp o Swyddogion arbenigol sy’n cynrychioli gwasanaethau gwahanol o fewn y Cyngor, a bydd yn cael ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |