Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Polisi Cynllunio. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd John Ifan Jones ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Polisi Cynllunio.
|
|
Ethol Is-gadeirydd Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Polisi Cynllunio. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Ieuan Williams fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad.
|
|
Cyflwyno, i’w cadnarhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2024. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd 21 Chwefror 2024 yn gywir.
|
|
Cytundeb Cyflawni Drafft ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol PDF 383 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd I’w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y Cytundeb Cyflawni drafft sy’n cynnwys amserlen ddrafft a Chynllun Cynnwys Cymunedau ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn. Nodwyd, yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion o Lywodraeth Cymru, bod addasiadau i’r amserlen ddrafft yng ‘Ngham 3’ o fis Mai 2025 i Fai 2026. Dywedodd bod bwriad i fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ym mis Mai 2028. Bydd y Cynllun Cynnwys Cymunedau’n ymgorffori’r dulliau ymgysylltu er mwyn ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Cwblheir ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 6 wythnos rhwng 23 Mai, 2024 a 4 Gorffennaf, 2024, a hynny mewn perthynas â’r Cytundeb Cyflawni. Nododd y bydd y Pwyllgor yn cael ei gynghori mewn perthynas â sylwadau a dderbynnir mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a bydd yn cael cyfle i wneud unrhyw addasiadau priodol i’r Cynllun Cyflawni mewn perthynas â sylwadau o’r fath. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Medi 2024 am ystyriaeth, ac yn dilyn hynny, bydd y Cytundeb Cyflawni’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am gymeradwyaeth.
Wrth adolygu’r adroddiad, cafodd y materion canlynol eu trafod yn y Pwyllgor:-
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch pwy fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol mewn perthynas â’r polisïau cynllunio yn y Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio mai prif bwnc y cyfarfod hwn yw’r Cynllun Cyflawni a’r Cynllun Cynnwys Cymunedau, a bydd polisïau cynllunio’n cael eu trafod yn y dyfodol; · Gofynnwyd sut fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ddarparu ac a fydd digwyddiadau ar gyfer cynnwys cymunedau. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch sut fydd swyddogion yn monitro’r ymatebion a dderbynnir ac a fydd y broses drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ddigonol er mwyn casglu ymatebion gan amrywiaeth eang o drigolion. Mynegwyd nad yw’r holl drigolion yn gallu defnyddio adnoddau ar-lein, ac a roddwyd ystyriaeth i ddarparu copïau o’r ddogfen mewn cyfleusterau eraill ledled yr Ynys h.y. canolfannau hamdden. Dywedodd ei bod yn bwysig tynnu sylw at yr angen i drigolion ymateb i’r broses ymgynghori ar y dechrau. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y bydd y broses ymgynghori ddechreuol yn digwydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol, mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, yn Swyddfeydd y Cyngor a drwy MônFM. Gwneir cyswllt uniongyrchol gyda rhanddeiliaid statudol. Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn cael eu monitro yn ystod y cyfnod ymgynghori gan fod y broses yn digwydd am gyfnod byr. Bydd digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn cael eu trefnu ar gyfer y camau dilynol wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol; · Cyfeiriwyd at y rheswm pam bod angen Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ynys Môn yn lle’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd cyfredol. Gofynnwyd cwestiynau am oblygiadau cost mewn perthynas â staffio’r Uned Polisi Cynllunio. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y cytundeb cydweithio gyda Chyngor Gwynedd wedi dod i ben, a bod y ddwy Awdurdod wedi cwblhau adolygiad a arweiniodd at wneud penderfyniad i ddod â’r cydweithio i ben rhwng y ddwy awdurdod. Aeth ymlaen i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |