Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Polisi Cynllunio - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Polisi Cynllunio - Dydd Mercher, 21ain Chwefror, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Pwyllgor Polisi Cynllunio - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 166 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gafwyd ar 19 Hydref, 2023.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023 yn gywir.

 

4.

Diweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â staffio'r Tim Polisi Cynllunio newydd a'r cynnydd cychwynnol tuag at baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd pdf eicon PDF 258 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar Staffio’r Tîm Polisi Cynllunio newydd; y Rhaglen Waith; y Cytundeb Cyflawni a Chynllun Cynnwys Cymunedol; y Grŵp Uwch Swyddogion; yr Adroddiad Monitro Blynyddol 2024; Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr (Cyfarwyddyd Erthygl 4) a Hyfforddiant i Aelodau.

 

·      Staffio

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod y tri swyddog newydd a benodwyd wedi dechrau yn eu swyddi ar 8 Ionawr 2024. Mae’r swydd Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio yn dal i fod yn wag a chafodd ei hail-hysbysebu ar 13 Chwefror. Os oes diffyg capasiti o hyd o ran gweithgareddau gwaith, gellir gofyn am gymorth allanol drwy’r fframwaith contractwyr.

 

·      Rhaglen Waith

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod rhaglen waith ddangosol sy’n amlygu’r tasgau a gynlluniwyd ar gyfer y chwe mis nesaf ynghlwm i’r adroddiad yn Atodiad 1.

 

·      Cytundeb Cyflawni a Chynllun Cynnwys Cymunedau

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio mai’r bwriad yw paratoi ac ymgynghori ar y Cynllun Cyflawni a’r Cynllun Cynnwys Cymunedau. Lluniwyd amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith a’r bwriad yw eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Medi 2024 er mwyn i’r Cyngor eu cytuno cyn i’r dogfennau gael eu cyflwyno i’w cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Rheoliadau’r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi bod rhaid i’r Cyngor weithio gyda rhanddeiliaid a’r gymuned yn gynnar yn y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Nododd y bydd gan Aelodau Lleol ran bwysig i’w chwarae o fewn eu cymunedau lleol i hyrwyddo’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd hefyd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno ar unrhyw newidiadau yn yr amserlen.

 

Gofynnwyd pryd fydd y Pwyllgor mewn sefyllfa i drafod y polisïau cynllunio mewn manylder. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod rhaid cwblhau’r Cytundeb Cyflawni cyn y gellir cynnal trafodaethau manwl ynglŷn â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol, ond bydd modd i Aelodau gyfrannu yn ystod y broses ymgysylltu ar y Cytundeb Cyflawni.

 

·      Y Grŵp Uwch Swyddogion

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y byddai Grŵp Uwch Swyddogion yn cael ei sefydlu dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr. Bydd y Grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd a’i nod fydd sicrhau bod y Cyngor cyfan yn cael llywio a chyfrannu at y gwaith o lunio a pharatoi’r CDLl newydd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a heriau’r Ynys ac er mwyn cynnig arweiniad a chyfarwyddyd mewn perthynas â llunio’r Strategaeth a Ffafrir fel rhan o’r gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn. Bydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio’n derbyn adborth rheolaidd gan y Grŵp Uwch Swyddogion.

 

·      Adroddiad Monitro Blynyddol 2024

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod monitro polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn ofyn statudol. Bydd rhaid paratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer 2024 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2024. Gan fod y CDLlC wedi cael ei baratoi ar y cyd â Chyngor Gwynedd, mae’r posibilrwydd o gyflwyno dau Adroddiad Monitro Blynyddol ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.